Cylchdaith Cader Idris 18 Mawrth
Y bwriad oedd taith i gopa'r Gader drwy ddilyn llwybrau (dim llwybrau mewn mannau!) llai cyfarwydd.
18 o aelodau yn cwrdd ym maes parcio Minffordd ar fore oer gyda rhagolygon o wynt cryf a rhewi ar y tir uchel. Llwyddo i gychwyn ar amser, pawb gyda'u gilydd hyd at gornel y goedwig, lle'r aeth dau aelod yng ngofal Myfyr Tomos am Mynydd Moel, yna'r Gader, Cyfrwy, Craig Cau ac i lawr llwybr Minffordd. Diolch yn fawr Myfyr.
Aeth y gweddill ohonom ymlaen i Lyn Cau a chael paned sydyn cyn dilyn y llwybr ar ochr ogleddol y llyn i gyfeiriad y "Stone Shoot". Gwisgo cramponau i ddringo i fyny ochr chwith y "shoot" ac allan ym Mwlch Cau. Diosg y cramponau ac ymlaen i gopa'r Gader, y llwybr yn rhewllyd iawn mewn mannau. Y cwt yn o llawn, ond llwyddo cael lle i eistedd am hanner awr. Cwrdd criw Myfyr yno. Cramponau ymlaen eto, ac yna i lawr Llwybr y Cadno gan ddilyn llinell y nant, eira a rhew yr holl ffordd lawr. Diosg y cramponau am y tro olaf, yna i'r dwyrain gan ddilyn llwybr defaid o dan y clogwyni i Gerrig Nimbwl, yna yn uchel dros odre Mynydd Moel ac uwchben Llyn Arran. Dringo i Fwlch Arran (sydd ar waelod Mynydd Moel) ac i lawr i'r de gan ddilyn llwybr Nant Cae Newydd. Ymuno a llwybr Mynydd Moel ac yn Minffordd.
Adroddiad gan Alan Hughes
Lluniau gan Llew Gwent a Rhodri Owen ar Fflickr