Y Carneddau 21 Hydref
Gyda rhagolygon y tywydd ddim yn ffafriol, glaw trwm a gwyntoedd cryfion, da oedd cael cyfarfod wrth y Bedol saith o gyd aelodau dewr a oedd yn barod i herio'r ddrycin.
Dringo drwy'r enfys i Fwlch y Gaer a chychwyn ar y daith. Yn anffodus ar gopa Pen y Gadair cafodd un o'r criw rhyw bendro go gas a bu rhaid gwneud penderfyniad sydyn a ffonio'r galwadau brys. Ugain munud yn ddiweddarach dyma'r ambiwlans a'r hofrenydd yn cyrraedd hefo'i gilydd. Wedi archwiliad sydyn yng ngefn yr ambiwlans penderfynwyd fod y claf yn holliach!
Dyma ail gydio yn y daith ond y tro yma dyma ni'n anelu'n syth am Y Drum ac osgoi Pen y Gaer a Phen y Gadair. Roedd y tywydd yn brysur waethygu a da oedd cael mochel yng nghwt Foel Grach.
Cerdded wedyn i lawr i Felynllyn gan gadw creigiau serth Cwm Dulyn ar y chwith. O Felynllyn dilyn y beipen ddwr i Lyn Dulyn a galw heibio'r 'bothy'. Y lle'n edrych yn eitha cyfforddus a thaclus [Bwrw'r Sul yma hefo'r clwb hwyrach?]
Dim ar ôl rwan ond troedio llawr gwlyb a chorsiog Cwm Griafolen. Roedd yr Afon Ddu yn dechrau gorlifo ar ôl y glaw trwm a rhaid oedd ei chroesi wrth y pwerdy bach.
Diolch i Gwyn, John, Llew, Iona, Elizabeth a Richard am eu cwmni difyr a hefyd croeso cynnes i Sian ar ei thaith gyntaf hefo'r clwb.
Adroddiad gan Arwel Roberts