HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Anafon 22 Ebrill


Daeth 17 aelod ac un ci at ei gilydd ar ddiwrnod braf ym mis Ebrill am daith o gwmpas Pedol Cwm Anafon. Wedi symud ceir i fyny i’r maes parcio uchaf yn Abergwyngregyn roedd gennym lwybr braf wrth ochr Afon Anafon hyd at Lyn Anafon. Newid cywair wedyn a chodi’n serth at gopa Llwytmor ac yna draw am Foel Fras, y pwynt uchaf ar y daith. O Foel Fras roedd y daith i lawr allt bob cam gan fynd dros y Drum, Carnedd y Ddelw, Pen Bryn-du, Foel Ganol a Foel Dduarth cyn disgyn yn serth iawn iawn i lawr y llethr yn syth yn ôl at y ceir. Diwrnod pleserus iawn – os caled ar y pengliniau yn y diwedd!.

Adroddiad gan Dilys Phillips

Lluniau gan Aneurin Phillips ar Fflickr