Anelog, Mynydd Mawr a llwybrau pen draw'r byd 26 Ebrill
Ymgasglodd wyth ym maes parcio Carreg - Jim a John P o Fôn, Carys, John W a Haf o Port, Gwyn Chwilog, Elen ac Anet. Ag amryw o ffyddloniaid dydd Mercher ym mhen draw'r byd go iawn, roeddem y falch o glywed bod neges wedi cyrraedd a'u bod yn mwynhau rhodio godre'r Annapurna tra roeddem ninnau yn mwynhau golygfeydd Llŷn. Roedd tri mynydd ar y daith - Mynydd Anelog, lle cawsom ein paned gyntaf a'n cip gyntaf o Enlli; Mynydd Mawr, lle cawsom ein cinio yn yr haul tra'n edrych ar Enlli tros y swnt a lle'r ymunodd Arwyn â ni, a Mynydd Gwyddel.
Wedi hynny dilyn llwybr pen yr allt tros Pen y Cil ac i Aberdaron. Doedd hi ddim yn daith chwe awr go iawn, ond roedd yr haul a'r golygfeydd yn ein denu i loetran nes ei bod yn bedwar y pnawn arnom yn pasio 'bwthyn unig' Cynan uwchben Aberdaron. Roedd Pen Llŷn ar ei orau, blodau'r eithin yn llenwi'r llygad a'r ffroenau a'r frân goesgoch yn galw mor aml nes bron ein perswadio nad yw'n aderyn prin o gwbl!
Adroddiad gan Gwyn Williams
Lluniau gan Gwyn Williams ar Fflickr