HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith arbennig gan Gerallt Pennant 26 Medi


Adroddiad gan Gerallt

Lluniau gan Gerallt ar Fflickr

Mae'r syniad o gerdded o'r tŷ yn Port i gopa'r Wyddfa wedi bod yn cyniwair ers tro. Heddiw dyma wneud hynny. Dyma'r daith:
Porthmadog i Gwm Ysdradllyn via Cwm Bach ac Ynys Wen,
Cwm Ystradllyn i Fwlch y Ddwy Elor via Cwm Pennant,
Bwlch y Ddwy Elor i Fwlch Cwm Llan via Wernlas (hen lwybr Beddgelert),
Bwlch Cwm Llan i gopa'r Wyddfa via Allt Maenderyn,
O'r copa i Bont Bethania via Llwybr Watkin,
Pont Bethania i Aberglaslyn via Llyndy a Cwm Bychan,
Aberglaslyn i Port via Hafod Garegog a Prenteg.

Lluniau o'r daith

1 Cwm Ystradllyn
2 Cwm Pennant
3 Pen uchaf Cwm Pennant, oedd yn llesmeiriol o hardd, dim rhagfarn!
4 Llyn y Gader a Mynydd Mawr
5 Tomeni Bwlch Cwm Llan
6 Allt Maenderyn, dim golwg fod yr Wyddfa am godi ei chap!
7 Ddaru hi ddim codi ei chap!
8 Swig ar lwybr Watkin
9 Llafn olaf y machlud ar Lliwedd o Gwm Bychan.