Taith yn Nantgwynant 29 Rhagfyr
Daeth tri aelod ynghyd i faes parcio Bethania sef Iola, Bryn a Delyth. Gan fod y tywydd mor wlyb a gwyntog penderfynwyd cerdded y rhan gyntaf o'r daith yn unig, sef cychwyn ar hyd llwybr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol tuag at fferm Hafod y Llan, yna o amgylch Llyn Gwynant. Doedd neb o gwmpas heblaw'r geifr, dwy yn llechu yng nghysgod creigaiu lle roeddem wedi bwriadu cael paned. Gwell tywydd tro nesaf gobeithio.
Adroddiad gan Delyth Evans