HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dyddiadur Taith i Annapurna Ebrill


Cyfansoddwyd gan holl aelodau'r daith yn eu tro a theipiwyd gan Gwen Aaron

Lluniau gan John Parry a Morfudd Thomas ar Fflickr

Aelodau'r daith
Morfudd a Hefin Thomas, John Parry, John Arthur Jones, Alan Hughes, Jeremy Trumper, Alwen Williams, Ceri Jones, Rhodri Owen, Gwyn Roberts, Bruce Lane, Gwen Aaron.

Dydd Mawrth Ebrill 11
Cwsg bratiog a newid oriau'n cymysgu mhen. Hedfan dros Kathmandu tua 2 y prynhawn, amser lleol a rhyfeddu gweld y strydoedd yn hollol wag. Tra'n aros yn hir am ein bagiau sylwi ar fagiau ein cyd- deithwyr. Roedd yr awyren wedi bod yn llawn o ddynion o Nepal yn dychwelyd adre wedi cyfnod o weithio tramor. Gwelsom sawl teledu newydd yn cyrraedd gyda'r bagiau, ffrwyth eu llafur i'w teuluoedd adre.

Croeso tywysogaidd gan Kamal a lot o weddi a gwthio i gael ni a'n paciau mewn i dri tacsi. Gyrru drwy strydoedd gwag, dim ond milwyr i'w gweld. Roedd rhaid i'n gyrrwr ddangos darn o bapur bob tro y cai ei stopio gan filwr. Cyrraedd gwesty Manasulu a phawb yn cael garland o flodau o amgylch ei wddwg. Yna pwyllgora dwys gan fod problemau:

Swper Nepalaidd yn y gwesty a gwely cynnar.

Dydd Mercher Ebrill 12
Wedi dod i benderfyniad dros nos bo ni'n llogi helicopter i fynd a ni'n deuddeg, y deuddeg porthor a Kamal a'r mynydd o gêr, yr holl ffordd i Chame. Mae hyn yn osgoi y cyrffiw ac yn ein gosod o flaen y teithwyr eraill ar Gylched Annapurna, byddwn yn safio 3 diwrnod o 'r trecio. Pasiwyd felly bo'r manteision yn werh y gost.

Roedd y daith helicopter yn hardd ond swnllyd er i bawb dderbyn pelen o wlan cotwm i stwffio i'w glustiau. Fel wedodd Bruce, mae'n braf cael y "finer points" 'ma. Roeddem yn hedfan tua'r gorllewin ac yn gweld crib ddisglair wen mynyddoedd y Langtang ar y dde. Yna daeth mynyddoedd uwch Annapurna i'r golwg.

Roedd yr helicopter yn dilyn dyffrynoedd i fyny a gwelsom y llwybr y bwriadwyd i ni ei gerdded. Plant pentre Chame, a rhai o'u rhieni yn rhedeg i weld ni'n glanio. Unwaith eto dyma'r porthorion yn rhuthro i godi'n bagiau - am gyrff mor eiddil meant yn hynod o gryf. Dros swper cawsom ein cyflwyno iddynt;

Cael llety yng ngwesty Tibet Newydd - y gore yn Chame gyda thy bach eistedd lawr, hwre.

Dydd Iau Ebrill 13
Codi am 6.00 Teimlo mod i heb gysgu oherwydd swn cwn yn cyfarth, y gwynt, llif yr afon Marsyangdi, ynghyd a poeni am chwain a mygu fy hun wrth gau fy fleece liner yn dynn amdanaf. Brecwast am 6.45 yn un arbennig o dda. Alwen ddim yn teimlo'n dda, cur pen. Gwyn hefo poenau stumog. Pawb arall i weld yn OK. Cychwyn cerdded tua 8.30. Diwrnod braf ond braidd yn gymylog. Cerdded ar hyd ochr yr afon, gweld dynion lleol yn adeiladu wal o gerrig yr afon i atal erydiad. Sylwi ar flodau gwyllt, hardd alpaidd, Alan yn dda am adnabod yr enwau. Cerdded drwy goedwig pin a junipers, arogl hyfryd. Mwynhau gweld y tirwedd a sylwi pa mor wahanol ydyw i ardal Everest/ Sagamartha/ Chomolungma. Syllu a rhyfeddu ar Annapurna 2 a chreigiau hollol wahanol i unrhyw le/ gwlad i mi sylwi arnynt o'r blaen. Gweld aderyn anferth wrth y creigiau, yn anffodus roedd wedi mynd cyn i fi dynnu'r sbienglas allan. Rhyfeddu gweld dyn yn reidio un o'r mulod dros pont crog. Bibi (un o'r Sherpas) yn gofyn i fi roi tusw o flodau ar y bont a dweud y weddi fach "O ma padme nw". Cerdded yn hamddenol a phaned o de tua 10 yn Bharatang. Na'i ddim manylu am y ty bach yno ond es i allan yn cyfogi a gwneud tu allan! Symud ymlaen am rhyw ddwy awr i bentre bach Dhukure Pokhari i gael cinio blasus iawn o gawl llysie a noodle a chrempog tibetaidd hefo mel. Ymlaen eto ar i fyny ond dim byd anodd i'n gwesty bach yn Lower Pisang . Dyma ardal wahanol eto. Geifr ymhob man a ieir a gwartheg. Cael ein cyfarch gan blant oedd heb weld dwr a sebon ers tro byd. Hefin yn tynnu llun plentyn bach ond heb sylwi ei fod yn gneud ei fusnes ar y pryd, ar y llwybr. Rhodri ac Alan yn galw arno a dyma ni'n penderfynu rhoi gweddi wrth droi yr olwynion gweddi (150 a 2 fawr) gan obeithio iddo gael maddeuant. Tirwedd llawer mwy llychlyd hefo coed pinwydd yma ac acw. Sylwi ar Chorten yn uchel, i gofio am y meirw meddai Kamal. Cefais sgwrs ddifyr efo Kamal heddiw yn son am ei atgofion o Feddgelert. Diwrnod o dynnu coes ond mae Gwen yn dechrau cwyno rwan mod i'n sgwennu gormod, felly OK dwi'n cau fy ngheg. Ond rhaid deud hyn, pawb mewn cotiau trwchus ond John A - mewn crysT - gwaed gwahanol mae'n amlwg. Diwedd y noson hefo canu a dawnsio gan y porthorion.

Dydd Gwener y Groglith Ebrill 14
Lower Pisang, 3200 m---Ghyara, 3670 m,---Braga, 3360 m,---Manang, 3540 m.
Diwrnod hir o 8 y bore tan 5 y nos a'r darn cyntaf i Ghyara yn galed, yn codi bron 500 m mewn dim, ond profiad defnyddiol iawn am y dyddiau nesaf. Tywydd wirioneddol bendigedig, roeddem yn cael gweld y mynyddoedd yn eu gogoniant- Annapurna 2, 3, a 4 mor ddisglair,gwyn a siapus. Rhywbeth i'w gofio a'i drysori. Cerdded drwy hen bentrefi, ffermydd a thir aredig. Cael row am dynnu llun. Plant bach yn ein herio a chael hwyl. Cyrraedd Manang o'r diwedd a phawb yn falch. Kamal yn dewis y bwyd i bawb heno am fod rhai yn teimlo'n sal ers dyddia. Ei ddewis oedd cawl, Momas a thatws mash, bwyd gwyn ar blatiau gwyn.

Dydd Sadwrn Ebrill 15
Manang yn dref sylweddol gyda nifer o siopau yn gwerthu amrywiaeth da o gynnyrch. Dymunol oedd codi am 7,30 a chael brecwast hamddenol. Cychwyn cerdded am 8.45 ar daith cynefino am oddeutu 3 awr. Llwybr serth gan basio "hafod". Yr haul yn tywynnu yn dirion iawn a golygfeydd godidog o'r Annaournau a'r Gangapurna. Cafwyd olygfa dda iawn o'r Chulau i gyd, sef Chulu West, Central, East a Far East. Roeddem yn gweld Thorung La, neu gyfeiriad y bwlch o leiaf. Codom 500 m, sef i fyny i 4k- ½ yr Annapurna.

Drwy amryfusedd safodd Morfudd rhy agos i'r grib ger y llyn a chwythodd ei chap haul i'r dyfroedd. Trist iawn. Cinio dymunol am 2.00pm ac erbyn 3.00 roedd pawb wedi ymgynnull yng nghanolfan Feddygol Manang. Roedd doctor ifanc o sais yno yn egluro pwysigrwydd yfed digon a cheisio rhagweld symptomau Salwch Uchder a sut i ddygymod ag o. Roedd Gwen Richards wedi bod yn gweithio yno ac mae ei phoster hi o'r PYG trac yn dal i addurno drws yr oergell yn eu cegin hwy. Wedi'r ddarlith aeth 7 i weld ffilm, Seven Years in Tibet. Fy hun es i gysgu am 3 awr ac aeth eraill gylch y dre. Yn ogystal a Morfudd, cafodd Jer anffawd wrth olchi ei sannau- welodd o mohonyn nhw wedyn. Sannau drudfawr hefyd. Gochelwch drecers!!

Dydd Sul y Pasg Ebrill 16
Taith hir heddiw felly codi'n fore.
Bagiau i gyd ddim yn dod i Tilicho Base Camp felly gorfod dewis beth oedd yn angenrheidiol at y ddau ddiwrnod nesaf. Cychwyn am 8.30. Llwybr hamddenol allan o Manang tuag at Khangsar. Llawer yn trin y tir ar y ffordd. Ymhen dwy awr a hanner cyrraedd Khangsar (12251 troedfedd). Cael cinio yno ac ymweld a'r mynachdy. Tua 12.30 cychwyn ar daith o rhyw 4 i 5 awr. I ddechrau roedd yn lwybr gwastad yn codi'n araf ac yna'n zig zagio yn weddol serth. Doedd hyn ddim byd tebyg i beth oedd o'n blaen yn nes ymlaen, newidiodd y llwybr i fod yn syth i fyny. Rhyddhad a balchder wedi ei oresgyn. Wedi ychydig o gerdded ar wastadedd uchel y llwybr yn croesi rhywbeth yn debyg i ben y Watkin ar yr Wyddfa. Croesi'r sgri a phawb yn helpu eu gilydd. Hyn am tua awr i awr a hanner. O'r diwedd rownd y tro a gweld Base Camp Lodge. Pawb yn llawenhau o'i weld er bod taith o tua hanner awr eto. Argraff gyntaf ar y lle yw nad yw glendid yn un o'r uchafbwyntiau. Gorfod rhannu ystafelloedd fesul 3 gan bod y perchennog eisiau cadw un neu ddwy ystafell lân(!) yn rhydd rhag ofn i rhywun arall ddod. Nid pawb oedd a gwydr ar eu ffenestri. Ar ôl dwy noson mewn lodge gyda en-suite tipyn o newid i lodge a'r lle chwech ym mhendraw yr ardd, a dim ond un. Cyfleusterau molchi-peipiau dwr oer wedi rhewi. Bwrw eira tu allan a gan mai dim ond un golau sydd yn y lodge, gwely cynnar.
ON. Yn Khangsar gweld plant yr ysgol yn chwarae gyda peipiau dwr-sleid a swings!

Dydd Llun Ebrill 17
Bore braf arall ar ôl noson oer. Y beipen ddwr wedi rhewi. Sŵn clychau'r yaks fel roeddynt yn cychwyn fyny llwybr serth iawn tu ôl i'r lodge. Ar ôl brecwast, cychwyn tua 8.15 am lyn Tilicho gyda o gwmpas 3000 o droedfeddi o godi. Disgwyl diwrnod caled iawn ond yn teimlo'n dda heddiw. Y rhan gyntaf o'r llwybr yn mynd trwy Helyg a choed Bedw Himalaya. Codi ar eira ar draws llethr go serth gyda Pusendanda creigiog, 5279 m, o'n blaen. Llwybr yn codi'n raddol rwan, croesi ychydig lethrau sgri yna llwybr eto gyda llwyni Potentilla ac Azalea ar yr ochr. Clympiau o Saxifrage ymhobman. Sylwi ar rhywbeth ar y dde, troi allan i fod yn anifail gwahanol i be welsom yn y dyddie cynt. Y rhain, yn enwedig y gwryw yn edrych yn debyg i'r defaid glas dwi wedi gweld ar y teledu. Llwybr yn mynd yn fwy serth gyda'r eira yn unig ar y llwybr, yn codi gyda golygfeydd bendigedig. Eira mawr ymhobman a llethrau serth i groesi. Mannau heb eira yn uwch i fyny heb dyfiant ond cen a mwsog hardd a lliwgar yma ac acw. Lefelu rwan a chroesi eira mwy meddal i fan uwchben y llyn ar uchder o tua 5000 m. Roedd y llyn tua 100 m oddi tanom ond nid oedd rheswm i fynd i lawr ato. Arhosom ac edrych o gwmpas y lle hudolus. Khangsar Kang 7485 m a Tilicho Peak 7134 m yn tyrru uwch ein pennau. Bendigedig. Yr hogia, wedi cario ein sachau trwy'r dydd, yn dod a flasg o de a bisgedi allan. Bu'n daith o tua 4 1/2 awr i'r man uchaf. Cychwyn i lawr am 1.15 a chyrraedd am 3.00 wedi dilyn yr un llwybr. Diwrnod da iawn yng ngofal Kamal Bibi, Hira yn cario fy sach a gweddill yr hogia ond gyda Tek yn arwain, sef yr unig sherpa oedd wedi bod yno o'r blaen. Yn sgrifennu hwn rwan am 5.30 gyda'r eira yn disgyn. Gobeithio fydd dim eira ar y sgri anferth yna ar y ffordd nôl yfory.

Dydd Mawrth Ebrill 18
Yr un daith a dydd Sul oedd hwn ond yn y cyfeiriad croes ond ni fedrai fod wedi bod mwy gwahanol. I mi taith yr EIRA fydd hwn. Codi am frecwast am 7.30 gan fod Kamal eisiau cychwyn yn brydlon. Roedd yn cysidro mynd i Yak Kharka . Roedd o gwmpas chwe modfedd o eira sych man wrth adael Tilicho Base Camp ond 2 awr yn ddiweddarach ar uchafbwynt y daith roedd yn agosach i droedfedd. Dim ond ychydig yn ddyfnach a gwlypach aeth pethe i Kanshar ble cawsom ginio a gorffwys ychydig cyn gyrru ymlaen i Manang. Cyrraedd tua 5,15 ar ol rhyw 9 awr o daith.

Rhai argraffiadau o'r diwrnod: Y parti yn edrych fel cadwyn neu fwclis lliwgar wrth groesi'r llethrau scri anferth wedi eu gorchuddio ag eira; Gweld yak efo cyrn anferth ar fan uchaf y daith yn edrych yn gyfangwbwl yn eu cynefin; Yn bennaf y ffordd mae Kamal a'r hogia yn gwneud bob dim i sicrhau diogelwch pawb tra yn aml yn cario dau sach ar eu cefnau.

Dydd Mercher Ebrill 19
Codi i gael brecwast hwyrach am 8.00 sef bîns ar dost neis iawn a'r stumog lot gwell. Gadael Manang a cherdded i fyny i Gunsang. Yr haul yn danbaid a'r eira trwchus wedi dechrau toddi, bydd tatws yr hen bobl wedi difetha! Falch o gyraedd i gael stop cinio, er bo'n rhaid symud o un lle i'r llall gan nad oedd bwyd ar ôl, wel dim ond te du. Bwyd blasus yn yr ail le, gan leian, a Kamal yn ei chanmol am lendid y lle. Trigolion lleol ar ben to yn rhawio'r eira i ffwrdd, mae'n debyg sa'r to'n sigo fel arall, ddim yn edrych yn rhyw sad iawn fel mae. Gwen yn cael nap a breuddwyd fach yn ôl y swn, a phawb yn ymlacio. Golygfeydd gwych o Annapurna 3 a Gangapurna. Dal i gerdded uwchben yr afon sy'n llifo o'r Chulus. Cyrraedd Yakarku a'r tywydd yn dechrau oeri. Wedi blino erbyn hyn ac yn falch o gyrraedd Letdor. Diwrnod da, 'di cael digon o hwyl gyda'r porthorion yn taflu peli eira ac mi fyddai'n falch o 'ngwely unwaith eto.

Dydd Iau Ebrill 20

Y trecwyr
Heddiw yw diwrnod y gwahanu gyda'r 9 mynyddwr talog yn mynd am yr uchelderau a'r 3 twrist yn dal i drecio. Roedd gwylio pawb yn sortio'u ger yn agoriad llygad, rhaid cael y pethe angenrheidiol at 3 safle gwahanol, base camp, high camp ar daith i'r copa. Cawsom gychwyn gyda'n gilydd yna ffarwelio emosiynol a ni'n 3 mynd ymlaen ar hyd y llwybr gwastad a chofio'r mynydd serth roedd ein cyfeillion yn ei wynebu. Yn ôl trefniadau gofalus Kamal roedd Hira yn ein harwain yn cario un sach a Pasang yn borthor yn cario dwy. Roedd yn fore braf a nawr ein bod ar amserlen llacach , digon o amser i edrych o'n cwmpas a thynnu lluniau. Yn dal i ddilyn afon ddoe tan yn sydyn troi congl a gweld pont pren isel. Roedd rhaid dringo reit lawr ato ac ynai fyny'n serth yr ochr arall. " Ble mae'r bont crog pan mae ei hangen hi?" medde ni'n tri mas o wynt. Ond roedd gwobr wedi'r dringo mewn ffurf ty-te unig a gwraig raslon yn ein croesawu. O hynny mlaen, doedd dim mwy o ddringo ond roedd sawl man ble bu tir lithriad ar draws y llwybr. Cyrraedd ein safle cysgu nesa a Hira'n trefnu llety 'mhen dim. Dwi'n cysgu yn Rhif 1 Thorung Phedi, gyda Hefin yn Rhif 2 a John Arthur yn Rhif 3. Amser swper penderfynom wahodd y bechgyn i fwyta gyda ni. Ni 'n talu ac yn addo peidio dweud wrth Kamal! Dewisodd y ddau pizza bob un ond dwi ddim yn meddwl iddynt ei fwynhau. Dahl Baat am byth medde nhw.

Y dringwyr
Codi'n hwyrach bore ma, diwrnod bach i fod. Cychwyn tua 10 i fyny am base camp 4825 m. Cerdded i fyny man go serth, dim gwynt a'r haul yn tywynnu ar ein cefnau, ni'n mynd yn ysgafn a'r porthorion yn gwneud dau drip. Cyrraedd base camp tua un o'r gloch, edmygu Chulu West a'r golygfeydd i'r gorllewin o'r Great Barrier. Y porthorion wrthi'n gosod y tents i fyny, un i bob dau berson, toilet, cooktent ac un mawr i bawb fwyta ynddo. Pawb yn diogi drwy'r p'nawn. Erbyn gyda'r nos yr awyr yn cymylu 'chydig a'r tymheredd yn disgyn i rewi yn sydyn. Dahl Baat i swper a gwely erbyn wyth.

Dydd Gwener Ebrill 21

Y trecwyr
Deffro i haul braf, dim cwmwl yn yr awyr ond rhyw awel fain. 'Chydig yn nerfus o gychwyn am y pass ond ar ôl brecwast am saith roedd Hirakaji yn awyddus i fynd. Dim brys , roedd gennym drwy'r dydd a diwrnod caletach o'n blaen ar ddydd Sadwrn. Felly mynd dow dow a gorffwys cyn blino wrth ddringo'n igam ogam. Yn sydyn iawn, heb i ni ei ddisgwyl gwelsom High Camp. Ei gyrraedd mewn awr a ¾ er bo Hirakaji wedi disgwyl i ni gymeryd 2 awr. 'Stafell bob un, dim toilet yn y stafell, 'sdim ots, ein noson ola ar uchder. Cael cinio cynnar a mwynhau yr haul. Swper cynnar heno a gwely cynnar gan mai'r cynllun yw codi 3.00 a chychwyn 4.00. Holi Hirakaji faint o amser gymerith hi i ni gyrraedd Thorum La petai ni'n cerdded ar yr un cyflymder a heddiw. 4awr oedd ei ateb ac er i ni bwyso arno roedd yn ffyddiog. Newydd da arall oedd clywed ein bod eisoes wedi neud y darn mwya' serth sef o'r daith i ben y bwlch. Penderfynu pa ddillad i wisgo bore fory yw'r dasg nesaf. Sôn dipyn am y mynyddwyr. Gobeithio fod pawb yn ddiogel a cheisio dyfalu lle roeddant, base camp neu high camp. Rydym yn gweld Chulu West o'n high camp ni ac mae i'w weld yn uchel iawn. Dwi'n siwr ei fod yn edrych yn uwch o'u camp hwy. Yr Awstralian o Wagga Wagga yn cyrraedd fel corwynt gyda'i gamera. Almaenwr hefyd yn cyrraedd yn cario ei bac ei hun ac wedi llwyr ymladd. Pawb i'w wely cynnar i ddarparu am fory.

Y dringwyr
Deffro'n fore wedi noson oer iawn, poteli dŵr wedi rhewi'n galed tu fewn i'r babell. Gwneud cyfrif o'n mintai, sylwi fod un ar goll, ac yn poeni fod llewpart yr eira wedi dwyn un o'n mysg, ond yn falch o sylwi fod y "babell fach" mewn defnydd, a'n nifer yn gyflawn eto. Yn wir mi roedd hoel pawennau o gwmpas ein pebyll, ynyr eira - yn ôl eu maint a'u ffurf yn gath wyllt - nid ei brawd mawr. Wrth i'r haul godi cyfle i sychu'r pebyll a gosod y sachau cysgu hyd y creigiau. Brecwast arbennig yn yr awyr agored, uwd chapati,wy a phaned. Golygfeydd anhygoel o'n cwmpas. Y dringwyr Sherpa Mingmar a Bibi Lal yn cychwyn i fyny i'r haen garreg a'r llethrau eira uwchben i osod rhaffau yn barod at y ddringfa fory. Ar ôl ychydig o amser yn Base Camp yn didoli ger dringo yn yr haul, aethom i fyny at y cyfrwy o dan y "rock band" a sbio fyny at y graig fawr - yn edrych yn anodd iawn. Golygfa o'r Base Camp yn bell odditanom, a'r Chulu West yn fynydd hardd iawn, seracs a ffurfiau rhew dramatic iawn. Swn avalanche yn rhuo lawr gwyneb Chulu, cwmwl o eira ar ei ôl. Chortennau bychain a baneri pader yn cyhwfan ar y bwlch, 5100 m. Golygfa draw at fwlch y Thorong La hefyd. Dringo ychydig yn uwch trwy drwch o eira at 5200m, ac yna i lawr i BC yn reit sydyn ar lethr sgri hir. Y dringwyr sherpa yn egluo mwy am natur y ddringfa o'n blaen, yn sbio fod gan bawb yr offer cywir, a gosod rhaff rhwng dwy garreg er mwyn ymarfer efo'r Jumar ascendeur. Swper arbennig o dda yn y babell fwyd a rhybudd o gychwyn cynnar fory am yr High Camp!

Dydd Sadwrn Ebrill22

Y trecwyr
Daeth Y diwrnod. Roeddwn wedi meddwl dweud "Gwawriodd y diwrnod", ond gan ein bod wedi codi am dri o'r gloch bore ni fyddai'n gywir. Y cynllun oedd i gychwyn dros Thorong La i Muktinah am bedwar o'r gloch ond roedd yn agosach i 4.30 arno ni. Beth yw'r ots, doedd neb yn frwdfrydig am deithio mewn tywyllwch.

Cychwyn ar draws ochr serth a sgri ac ennill uchder yn raddol. Dal i fynd nes y daethom at bont bren fechan ymhen rhyw ¾ awr. Erbyn hyn 'roedd yn gwawrio a'r mynyddoedd yn dod i'r golwg tu ôl i gochni'r haul yn erbyn awyr las. Ambell i gwmwl yn yr awyr ond clir ar y cyfan. Erbyn hyn nid oedd angen torches i gerdded. Dal i godi yna'n sydyn dod at dŷ te (5100 m-16752 troedfedd) sydd yn ôl Hirakaji tua hanner ffordd i'r copa. Dwi'n amau bod Hirakaji a Pasang wedi deffro'r perchnogion oherwydd pan aethom i mewn am baned 'roeddynt yn pacio i fyny eu hoffer cysgu!

Wedi'n paned, esgyn i fyny eto a chroesi llawer o gopaon ffug cyn dod at lethr gweddol hawdd pryd yr oeddem yn gweld fflagiau gweddi Thorung La yn y pellter. Ar ôl teithio rhyw 31/2 awr o High Camp, canfod ein hunain ar Thorung La (5416 m -17769tr) Llongyfarch ein gilydd am ein gwrhydri gan mai dyma'r pwynt uchaf ar dir y byddwn ni'n tri yn ei gyrraedd yn ystod ein taith a mwy na thebyg yn ein hoes! Hyd yn hyn y tywydd wedi bod yn hynod o braf,a'r awyr yn glir, ond yn awr mae cymylau yn decgrau crynhoi. Erbyn i ni yfed paned arall yn y cwt ar y copa roedd yn dechrau pigo eira.

Cychwyn lawr am chwarter i naw a'r eira'n gwaethygu. Disgyn drwy ganol dyffryn a cholli uchder yn sydyn iawn. Dan draed yn llithrig a charregog ac felly angen gofal mawr. Y gawod eira'n pasio ymhen awr ac awyr las am ychydig ond yna death niwl adyma ni'ngweld pentref o'n blaenau yn y pellter a gwyrddni. Dal i ddisgyn yn serth, erbyn hyn y llwybr yn gwbl glir o eira, at le syml o'r enw Chabarbu (4290 m-14075tr) lle y cawsom ginio. Wedi hynny , dal i ddsgyn drwy'r dyffryn gyda chaeau bach oedd yn bosib eu trin, cyn croesi afonig a fydd, ymhellach ymlaen yn tyfu yn afon Thong Khola. Disgyn rownd y gornel i ddod at gysegr sanctaidd Muktinath (3800 m -12467tr) tu ôl i furiau gwyn. Ymhen rhyw 10 munud dod i ganol tref Muktinath (er mai ei enw cywir yw Ranipauwn) Falch o weld y Lodge "North Pole" lle yr oeddem i aros. Cyrraedd tua chwarter i bedwar ar ol diwrnod hir.

Balch o gael cawod boeth cyn swper ac yna i'r gwely am noson dda o gwsg ar ol diwrnod bendigedig a oedd yn haws nac oeddem wedi ofni. Cysgu'n drwm a rhyddhad bod nod arall o'r daith wedi ei gwblhau yn ddidramgwydd.

ON Yn Muf\ktinath gwelsom feic modur, felly meant wedi darganfod ei bod yn bosib defnyddio olwynion ar dir.

Y dringwyr
Noson rhywfaint llai oer na neithiwr er bod y botel ddwr yn dal wedi rhewi. Pawb i fyny erbyn 6am yn trio stwffio gormod mewn i sachau rhy fach. Gadael Base Camp am 8am. Llawer o'r eira caled oedd ar y sgr ddoe wedi toddi, anoddach cerdded o'r hewydd.

Cyrraedd y bwlch {5110 m} tua 9;30. Cymylau eira wedi cyrraedd, a'r copa wedi diflannu o'r golwg. Mochel mewn cysgod carreg/ogof i wylio'r tywydd. Ceri ac Alwen {y rhai call?!} yn penderfynu troi'n ol ac i lawr i Lattur.

Er gwaethaf ambell gip tuag at Thorung La, y tywydd ddim yn clirio. Codi pebyll yn y bwlch ar eira {pawb ond Morfudd}. Diogi am y pnawn. Bruce yn cael cacen penblwydd i ddathlu mewn safle unigryw.

Pawb yn cysgu yn gynnar er mwyn codi am hanner nos i gychwyn ar y mynydd.

Dydd Sul Ebrill 23

Y trecwyr.
Cysgu, wel, gorffwys beth bynnag, o 7 y nos tan 9 y bore. Dyma ein diwrnod o hamdden. Yn araf braf wedi gwisgo dillad hafaidd dyma ymlwybro nol i dop y pentref.gyda Hira i ddarganfod beth sy' tu ol i'r wal wen mae e'n galw yn Ardal y Deml. Wedi canu'r gloch fawr i hysbysu'r mynachod o'n dyfodiad, cerddom heibio 177 o olwynion gweddi i weld "gwyrth y dwr sy'n llosgi". Digwydd hwn tu mewn i Gompa dywyll. Rhaid tynnu'n sgidie cyn mynd i mewn, yna plygu lawr i edrych mewn i siamber i weld y fflam las olau a chlywed y dŵr yn byrlymu o'i cwmpas. Mae'n debyg bod nwy naturiol yn saethu allan o'r graig a bwydo'r fflam.

Mae'r crefyddau yn cydfyw yn gysurus yma- esiampl dda i gapeli Cymru. Er mae Bwdist yw'r holl Ardal mae'n cynnwys y fangre mwyaf sanctaidd ond un yn Nepal i gyd. Gwelsom "sadhus" yn cyrraedd pen eu pererindod hir er mwyn addoli yno. Roedd gan un ohonynt fwnci yn teithio'n cysurus ar ben ei bac. Uwchben mae teml Bwdaidd gyda 108 pen anifail yn poeri dŵr i lyn o'u cwmpas.
Dyna ni wedi cael ein gwala o ddiwilliant a chrefydd. Gwneud dim am weddill y dydd ond gwylio'r byd yn mynd heibio ein "Roof Top Restaurant".

Y dringwyr
Anodd gwybod ble i ddechrau gyda diwrnod mor hir a hithau'n ddiwrnod Chulu W.

Roedd y cymylau wedi clirio, tymheredd -10C a'r wybren yn hollol glir am 00.05 pan oedd pawb yn mwstro. Roedd y penderfyniad (ar ran y sherpa dringo) i geisio'r copa yn un amheus iawn hy. codi o 5130 m i 6419 m mewn un tro, ond roedd hyn ymhell o'n meddwl ni am 01.15 wrth gychwyn i fyny'r llethr eira. Mi aeth dringo'r band cerrig gyda chymorth rhaffau yn iawn, ond bod y gosod yn diffygiol (yn ol ein safonau ni). Wedi'r cerrig roedd eira neu rew dan draed ac mi ddaeth yn glir bod Mingmar a Bibalal ddim yn gyfarwydd a'r mynydd ac yn teimlo eu ffordd drwy'r dydd. Doedd dim codi'n raddol achos y grib rhewllyd a welwyd o "Base Camp", yn rhewlif bendramwngl i gyd wedi cuddio dan haen o eira ffres. Yng ngolau dydd yr unig batrwm oedd goresgyn llethr serth fesul un a thrwy'r amser y lefel neu gronfa o egni yn gollwng. Mi ddaethom i benderfyniad troi nol tua 10.30, o leia 2-3 awr o'r copa --be baem ni wedi cario mlaen, bydde ni wedi cyrraedd yn ôl yn oriau man y bore. Yn syth wedi dod i benderfyniad, dechreuodd y cymylau gasglu a'r tymheredd i ddisgyn gyda'n gobeithion ni am daith di-drafferth yn ôl. Roedd ein tywyswyr yn ffyddiog mai i lawr y rhewlif oedd y llwybr mas.

Cychwynnwyd i lawr mewn gobaith, ond wedi sawl pwyllgor daeth yn amlwg bo' dim ffordd drwy'r rhew torredig,cuddiedig-yr unig ateb oedd mynd nol i fyny, uffern o ergyd i bawb. Y daith yn ôl yn gyfres o abseil, cerdded yn y dull Alpaidd a baglu drwy'r eira medal. Dwi ddim yn cofio llawer am y daith i ddychwelyd, dim ond mod i eisiau iddi ddod i ben! O'r diwedd cyrraedd y band cerrig a hunllef drwy'r we o raffau a hithau'n tywyllu. Pawb yn gollwng ei hunan fesul un, Morfudd yn olaf yn y tywyllwch a ninnau'r bechgyn yn cysgodi o dan graig, y gwersyll dros dro. Cyrraedd yn ôl yn ddiogel i base camp erbyn 21.00. Tipyn o drafod am y daith, doethineb yn y lle cyntaf oherwydd diffyg amser, tywydd anffafriol, nature y tir a diffyg manylion am y mynydd ac yn y blaen. Felly pawb, Morfudd, Rhodri, Alan, Gwyn, John P a Bruce nol yn ddiogel. Wedi cyrraedd tua 5750 m o uchder ac o fewn 2 neu 3 awr o'r copa. Golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad a thipyn o wersi wedi eu dysgu ar gyfer y dyfodol falle? A phrofiad arall i'w gofio pan fydd y coesau yn methu o'r diwedd.

O.N. Mor denau yw'r llinell rhwyng llwyddo a gorfoledd, a methu. Dygymod a'r ail yw'r gamp.

Dydd Llun Ebrill 24

Y trecwyr
Muktinath i Kagbeni
Codi wedi noson heb lawer o gwsg. Dim yn teimlo ein bod wedi gwneud digon i haeddu noson lawn o gwsg. Cychwyn am Kagbeni tua 9.30 a mynd i lawr allt am 1000 m. Cerdded braf hamddenol gyda'r tywydd fel diwrnod o haf adref, hyfryd iawn .Gwen yn prynu sgarff i'w ffrind gan ddynes ar ochr y ffordd.

I lawr ac i lawr gan adael gwyrddni y ffermydd islaw Muktinath a chyrreadd tirlyn hollol wahanol. Dim tyfiant o gwbl ond yn gweld Mustang yn y pellter. Cododd y gwynt wrth i ni ddisgyn a bu raid i John glymu ei gap yn sownd.

Gwlad Kagbeni yn wyrdd fel oasis a choed ffrwythau ymhobman.

Cael gwesty braf a mynd am dro o amgylch y pentref. Strydoedd bach cul yn arwain o un lle i'r llall. Diddorol iawn. Cyrraedd mynedfa Mustang ble roedd arwyddion yn ein rhybuddio rhag mynd dim pellach heb drwydded ($700 y pen) Roedd fel edrych ar wlad ddirgel. Beth sydd yno?

Gorffen y noson fel pob un arall erbyn hyn, ceisio dewis rhywbeth diddorol o'r fwydlen ac i'n gwelyau fel roedd yn tywllu.

Y dringwyr
Dwi ddim yn cofio cysgu mor dda a thrwm er i mi fod mewn pabell yn agosi'r porthorion (porthorion yn siarad hyd yn oed yn fwy na fi pan meant hefo'i gilydd-hyn o brofiad pan oeddwn mewn pabell o dan y graig/ogof gyferbyn a'u pabell nhw! Roedd brecwast am 8.30, nes i ddeffro am7.45 ond ail gysgu hyd at 8.45!

Brecwast allan yn yr haul. Pawb yn cyfarch ei gilydd ac yn falch ein bod i gyd yn ddiogel ar ol ddoe.Roedd y sgwrs dros frecwast am ddoe. Ail fyw y daith a meddwl sut y bydde ni wedi gallu ei wella. Kamal yn dod ataf i ymddiheuro. Roedd yn dweud fod y daith i weld yn waeth na dringo Everest. Roedd yn anhapus iawn hefo Mingmar gan nad oedd wedi egluro'n iawn iddo sut daith oedd dringo'r mynydd. Dywedodd fod y graig llawer rhy anodd i'w griw porthorion, sef y cogyddion a'r gweddill o'r criw oedd yn cario. Dywedodd petai'r porthorion wedi llwyddo i fynd i "High Camp" yna bydde nhw'n siwr o fod wedi dioddef ac wedi mynd i drafferthion ar y ffordd yn ol. Roedd yn siwr fod y daith llawer anoddach na ddywedwyd wrtho ef. (Doedd ddim eira pryd ddaru Mingmar ei ddringo o'r blaen).

Cychwyn i lawr am Leddar tua 10.30 i gyfarfod Ceri, Alwen a Jeremy. Pawb yn falch o weld ein gilydd eto. Ail adrodd stori ddoe. Roedd yn amlwg eu bod wedi poeni amdanom allan ar y mynydd. Roeddynt yn ein disgwyl yn ol neithiwr. Cael eu stori nhw sef Ceri ac Alwen yn mynd i lawr ei hunain, bag Alwen yn rowlio i lawr yr ochr serth a'i dillad mesul un yn dod allan o'r bag. Roedd y tri wedi gwneud ffrindie da efo perchnogion y lodge. Cafwyd eu hanes yn treulio gyda'r nos yn y gegin o flaen tanllwyth o dan a chael hanes y mab, Karma yn dringo ChuluW. tair mlynedd nol. Ddaru lwyddo trwy wersylla ger yr ogof/craig a mynd yn syth o fanna i'r copa ac yn ol i Leddar. (Tywydd da a dim eira ar y graig.). Cinio da o chips ac wy, lyfli jybli. Falch o gael bwyd gan nad oeddwn wedi bwyta bron i ddim ddoe, 1 Mars a 2 fisged a chawl cyn gwely. Gweld eryr yn pasio'n agos. Nes i ddim cofio son yn gynt, sef ar ein taith i Leddar ein bod wedi cyfarfod yak mawr wyneb yn wyneb bron a Kamal, John P a Gwyn.Sylwais fod yr yak o ddifri ac yn ein meddwl ni ei fod am ymosod arnom. Gwelais John P yn codi carreg ac yn gafael yn dynn yn ei ddwy ffon cerdded. Pawb yn mynd heibio reit sydyn gan droi i sicrhau nad oedd am ddod ar ein holau.

Talu a ffarwelio a gyda Mingmar, Lakman ac un o'r porthorion. Roedd Kamal yn dweud ein bod yn siwr o gyfarfod a nhw eto yn Kathmandu.

Cychwyn cerdded ymlaen am Thorung Phedi tua'r 2.00. Croesi pont bren hefo darnau coll arni. Cerdded i fyny'r allt ac eistedd i orffwys mewn llecyn braf a rhyw fath o gaffi neu siop oedd yn gwerthu da das a bisgedi ac ati. Roedd dynes y lle yn gwybod ein hanes yn iawn. Roedd Gwen, Hefin a John A wedi aros i gael llymaid yno a dweud y byddan yn dod heibio mewn ychydig ddyddiau. Cael croeso arbennig ganddi. Ymlaen eto ar ochr afon a sylwi ar y tirwedd, yr ymylon serth a'r olion tir lithriad. Gweld Yak wedi marw ar ochr y llwybr. Cyrraedd Thorung Phedi 4.00 a chael ystafelloedd da hefo toiled ynddynt. Gofyn i Kamal am fwced o ddŵr poeth i ymolchi. Roedd croen fy mhen yn brifo wrth i mi ei olchi (oeddwn wedi gwisgo cap gwlan neu het haul dydd a nos ers dyddiau.)

Sortio fy hun allan, sef y bagiau a'r dillad budr oeddwn wedi ei wisgo ers y dechrau a'u rhoi mewn bag plastic a'i gau'n dynn. Swper swmpus mewn lle cynnes. Trafod yfory ac amser codi. Penderfynu ar 4.00 fel amser codi, brecwast 4.30, cerdded yn brydlon am 5.00. Jeremy a John am gychwyn am 4.00 oherwydd brest drwg Jeremy.

Dydd Mawrth Ebrill 25

Y trecwyr
Diwrnod arall o symud ymlaen ychydig sef o Kagbeni i Jomson, disgyn rhyw 100 m a thaith o rhyw dair awr.

Cael fy neffro yn y bore rhwng pump a chwech gan glychau'r geifr yn canu wrth i'w perchnogion basio fy ffenest ar eu ffordd o'r pentref i fyny'r mynydd i bori am y dydd.Cychwyn o Kagbeni ychydig wedi 8.00 a theithio y rhan fwyaf o'r ffordd ar wely yr afon Thak Khola. Mynyddoedd serth uchel ar y nail ochr i ni. Ar y chwith Annapurna a Tilicho, tra ar y dde, copa Dhaulagiri, sydd dros 8000 m, y seithfed mynydd ucha' yn y byd. Golyga hyn bod dyfnder y dyffryn o gopaon y mynyddoedd ar y ddwy ochr i lawr i wely'r afon tua 51/2 kilomedr (3 milltir) gan ei wneud y ddyffryn gyda'r dyfnder mwyaf yn y byd.

Credir bod y Dhaulagiri yn dal i dyfu tua 1 mm y flwyddyn.

Cyrraedd Jomson (2710 m-8891 tr) tua 11.00 o'r gloch. Dyma fan diweddu ein trec ni o'r Annapurna Circuit gan y gobeithiwn fflio oddi yma i Pokhara bore dydd Iau ar ôl i'r criw dringo ail ymuno a ni fory.

Aros y noson yn Hotel Himalayan Inn.

Y dringwyr
Ni chafodd John a Jeremy eu deffro tan 4.15 gan Bibi!! Brecwast brysiog a chychwyn yn y tywyllwch i fyny llwybr serth am y Thorung La sef codi o Thorung Phedi 4550 m i 5.4 km sef codi 850 m. Pasiwyd ni tua hanner ffordd gan y sgwad hwyr.

Buom yn ffodus iawn i weld olion y llewpard tua ½ ffordd i fyny, roedd yn cerdded nol ac ymlaen o gwmpas y llwybr. Gwelodd Bruce ysmotiau o waed o gwmpas yr olion. Cafwyd gorfoledd o'r diwedd ar ol sawl copa ffals, o gyrraedd y Bwlch oddeutu 9.30, sef 41/2 awr, sydd yn llawer gwell na'r amseroedd a geir yn y llyfrau. Cafwyd te bendithiol a thynnwyd cannoedd o luniau. Roeddem yn gallu gweld Chulu West, bron yn edrych lawr arno!,a sylwi ar y llwybr a geisiwyd gennym. Ar ein chwith ar tua 6 km roedd Thorung Peak ac ar y dde i ni fel roeddem yn agosau at y Bwlch roedd Katung Kang, 6.4 km.

Braf oedd meddwl ein bod yn gostwng a cholli 1.6 km yr ochr hon, hyn yn golygu 5300 troedfedd sef dod lawr dwywaith o'r Wyddfa i Ben y Pas. Roedd y tywydd yn hollol wahanol yr ochr hon, yn boeth a'r haul yn disgleirio- dyna fo roedd yn nesu at ganol dydd- ond roedd y bore wedi bod yn erwin iawn a gwynt main yn ein fferu.

Hanner ffordd i lawr cawsom ginio dymunol yn yr haul a chael saib o 11/2 awr - ac yfed cwrw, y cyntaf i'r rhan fwyaf ohonom ers bythefnos. Roedd hwyliau da ar bawb gan ein bod yn gwybod fod y caledi drosedd bellach. Aethom ymlaen wedyn dros bont crog diweddar a sylwyd ar flodyn lliw glas ar y llawr, fel lili. Wrth gwrs bu raid cael y micro lensiau allan i gael y llun gorau. Buan cyrhaeddom Teml Bwdaidd/Hindu a chael mynediad.

Gwelwyd fur uchel gwyn a weiren bigog i gadw'r anwariaid lleol allan ond dan arweiniad Kamal cawsom fynediad i'r Deml Sanctaidd hon Yn y safle hwn cawsom weld Teml Uishnu, yma mae'r cysygredid yn dod o'r graig ac mae hon yn ddarn diweddar ac yn perthyn i'r Hindu. Rhaid i bererinion sydd wedi dod yma ymolchi dan 108 o bibellau dŵr ger y deml cyn bod ddigon glan i fynd i mewn.
Teml y Jollo Muki Gompa. Mae'n debyg fod miloedd o Buddists yn cael taith bererindod yma ac weithiau yn cymryd blynyddoedd i symud yn "orweddog" tuag at y safle. Yma daw methan gyda'r dwr cysegredig ac mae'r fflam ynghyn ers canrifoedd. B. Tilman yn 1950, oedd y Gorllewinwr cynta i ymweld a'r deml hon- chafodd o ddim llawer o groeso rhag ofn iddo fynd a'r fflam efo fo!! Daw'r dwr cysegredig allan o fuwch aur ger y drws.

Buom yn cerdded am hanner awr wedyn o dod i'r pentref bywiog Muktinath gyda stondinau, trydan,dwr glan ac yn y blaen. Cyrraedd gwesty y North Pole tua 5.00, pnawn hamddenol ond dymunol iawn. Gwesty neis a chawod boeth, golchi ngwallt, y gawod gynta ers deg diwrnod.

Dydd Mercher Ebrill 26

Y trecwyr
Dydd y disgwyl. Yn ol y cynllun roedd y dringwyr i gyrraedd Jomson heddiw. Aethom ni'n tri ddwy waith i lawr i ben arall y pentref yn y gobaith o'u cyfarfod ond yn y diwedd, tra yng nghanol ein cinio hwyr, dyma eu gweld yn brasgamu fyny'r brif ffordd yn edrych yn ddynion (a merched) caled a dewr bob un. Balch dros ben i weld pob copa gwalltog ohonynt.

Y dringwyr
Gadael Muktinath am 8.15. Cerdded trwy ardal amaethyddol, pobol wrth eu gwaith, merched wrth y "looms'. Y llwybr/trac yn newid ac yn mynd i lawr trwy wlad lluchiog anial i Kagbeni. Golygfeydd hollol wahanol i'r dyddiau cynt. Cael cinio mewn gwesty da yn Kagbeni ond cyn cinio ymweld a theml Bwdaidd tua 600 oed ble roedd llyfr wedi ei ysgrifennu yn iaith Tibet yn yr 8fed neu 9fed ganrif. Gadael Kagbeni am 1.00 am Jomson. Trac ddi-ddiwedd (gwell i feic mynydd) yn dilyn gwely'r afon Kali Gandaki yr holl ffordd i Jomson. Cyrraedd am 3.15 Am 4.00 mynd i weld amgueddfa Mustang oedd yn hynod ddiddorol.

Dydd Iau Ebrill 27
Y cwmni unedig unwaith eto
Fedrai ddim dechrau son am heddiw heb rhoi gair bach i mewn am neithiwr. Hon oedd ein noson ola gyda'r porthorion ac roedd yn rhaid dathlu yn iawn! Pawb yn cwrdd yn yr ystafell fwyta ac yn yfed cwrw neu coke. Morfudd yn gwneud anerchiad bach i ddiolch i'r porthorion am bob dim a Kamal yn cyfieithu. Pob un yn cael ei "baksheesh". Wedyn ar ôl bwyd mwy o ddiod, miwsig, dawnsio a phawb yn troi i mewn yn barod iawn i gysgu. Cyfrinach y noson- pwy ddaru gloi Bruce a Rhodri yn eu lloft?
Codi am 5.30 a brecwast am 6.00 gan fod eisiau hedfan i Pokhara ac mae gormod o wynt i wneud hynny wedi canol dydd. Mae'n rhaid mai hwn yw un o'r "flights" mwyaf trawiadol yn y byd. Yr awyren fach (25 sedd) yn crafu i'r awyr ac yn troi i fflio lawr ddyffryn y Kali Ganaki gyda mynyddoedd enfawr Dalagiri ac Annapurna ar y nail ochr ar llall. Y tirwedd yn glasu oddi tanom a'r awyren yn cael ei thaflu o gwmpas llai wrth fynd am Pokhara ble roeddem yn glanio am 9.00am. Bws yn mynd a ni'n syth i westy Moonlight Resort wrth ochr y llyn ble cawsom amser i molchi ac ymlacio a chinio swmpus am ganol dydd. Wedyn roedd Kamal wedi trefnu bws i fynd a ni i Devri's Falls a gwersyll ffoaduriaid Tibet ble cawsom gyfle i'w gweld yn gwneud y carpedi ac yna cyfle i'w prynu hwy. Dyma gychwyn o ddifri ar brynu yr holl bresante -mynd -adre fydd angen ar ein parti ni. Swper dathliadol arall wedi ei drefnu ar lan y llyn am 6.30 heno.

Gwener Ebrill 28
Gadael Pokhara a hedfan nol i Kathmandu, taith dipyn brafiach na'r un ddiwethaf, a chyrraedd yno 11.30 (25 munud). Byd hollol wahanol yn Kathmandu erbyn hyn, pawb allan,ceir a beiciau modur, plant, pobl ac anifeiliaid i gyd yn cystadlu am le ar y ffordd. Nol i'r Manasulu ac ar ol cinio ysgafn Kamal yn trefnu i ni ymweld a rhai o atyniadau'r ddinas.Y Monkey Temple yn gyntaf, teml hardd iawn (bwdhaidd) a stondinau ymhob man. Pawb yn gwerthu yr un nwyddau, syndod sut mae nhw'n gwneud pres o gwbl. Pawb yn cael eu dal gan y merched yn trio gwerthu breichledau, "I'll give you a good price!" Golygfa dda o'r ddinas, biti am yr holl sbwriel. Mwnciod wrth y grisiau a Kamal yn ein rhybuddio i beidio eu tymentio, person wedi ei ladd yn y gorffennol.

Profiad bythgofiadwy wedyn, reid taxi i Thamel. Dwn i'm sut y cyrhaeddodd yn fyw. Pawb yn canu corn, ceisio pasio ei gilydd, car yn torri lawr a chau'r ffordd a "potholes" anferth ymhob man. Dim diffyg blerwch yn fanma!

Thamel, yr ardal dwristaidd yn gwerthu pob math o nwyddau. Rhyw awr yna, Jeremy oedd y prynnwr prysura o bell, stocio fyny ar anrhegion penblwydd i'w wyresau, medde fo ond methu gwrthod y gwerthwyr del, medde ni. Bwyd wedyn yn yr Everest Steak House. Noson dda iawn a bwyd blasus. Cyd-ddigwyddiad o'r mwyaf oedd cyfarfod Klemmen yno, dyn o Slovenia oedd wedi rhoi cyngor i Ceri ac Alwen ar lwybr da i fyny Triglav.

Cerdded nôl i'r gwesty, diod i orffen y noson ac yna gwely.

Sadwrn Ebrill 29
Morfudd bant yn gynnar ar fotobeic Kamal i brynu 2 kurda "made to measure" Ni'n hamddena yn yr ardd a'n traed yn y pwll nofio. Bws mini i sgwar Durbar a gweld y casgliad o demlau hynafol yno a'r gwerthwyr yn ein holi'n ddi-baid. Pawb ond Jeremy yn eu gwrthsefyll yn llwyddiannus. Gyrru drwy'r ddinas ac admygu glesni llachar y coed Jakaranda. Mynd at y Gompa mwya'n y byd, cylch llachar wen a'r LLYGAD yn ein gwylio wrth i ni gerdded o'i amgylch. Pryd o fwyd hyfryd ar ben to y bwyty, dan ymbarel, yn edrych draw'n syth at y llygad. Cael Meze sef 5 pryd bach dwyreiniol, llysieuol.

Taith bws llychlyd eto i fynachlog fodern bwdaidd Kapan. Cawson dywysydd fu wrthi yn egluro hanes y Dalai Lama. Gofynnom yn ein hanwybodaeth, os oedd hanes eto am ei ddilynydd. Cawsom ateb pendant sef gan fod y bedwaredd Dalai Lama a r ddeg o hyd yn cerdded y ddaear, nid oedd pwynt dechrau edrych amdano ar ei newydd wedd. Hynny yw rhaid iddo farw cyn y gall ail ymddangos. Mwynhau cerdded o amgylch gardd braf y fynachlog. Roedd cwpl o fechgyn tua with oed yn eu gwisg piws ac oren yn cael hamddena fel 2 grwt cyn dychwelyd i'w dyletswydd mynachog. Golygfa hardd, dawel uwchben y ddinas fudr swnllyd.

Ymlaen i uchafbwynt y diwrnod sef swper ffarwelio yn nhy Kamal. Cawsom ein cyfarch yn raslon iawn gan ei wraig Dippa, yn brydferth mewn kurda glas golau. Tynnu'n 'sgidie a phawb i eistedd ar fatiau wedi eu gosod o amgylch y waliau mewn stafell fechan. Y cwrw, Everest, yn cyrraedd a bu'n gwydrau yn cael eu hail-lenwi drwy gydol y noson. Bibilal yn ymddangos i helpu gyda'r gweini yn ôl ei arfer. Ymddangosai fel petai'r gymdogaeth i gyd yn galw mewn i gyfarch y pobl ddiarth, ac i helpu ei hunain i'r bwyd. Cawsom bryd bach o sglodion a chyw iar yna pryd mawr o gyri cyw iar a reis, i'w fwyta yn y dull Nepalaidd gyda'r llaw dde. I bwdin roedd cacen penblwydd y mab hyna' wedi ei addurno'n ysblennydd. Daeth deg o'i ffrindie i gael darn ohono gyda ni. Noson i'w gofio. Ni fedrai Kamal a'i deulu wneud mwy drosom.

Sul Ebrill 30
Taith hir adre.

Mae rhai lluniau yn Y Galeri ar gyfer 2006 hefyd