HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelwyn Mawr Mehefin


Taith arbennig i ddathlu penblwydd Dewi Hudson Jones yn 70

Roedd Dewi Hudson Jones yn 70 yh ddiweddar. I ddathlu'r achlysur aeth criw ar y tren i Danygrisiau a dringo'r Moelwyn Mawr. Dyma'r canfed tro i Dewi fod ar y copa! Er gwaetha'r niwl, a gwynt â'r glaw yn genlli mi gafwyd diwrnod i'w gofio. Yn y pedwerydd llun mae Dewi efo'i frodyr Alwyn a Gareth ar y copa. Gweddill y criw oedd John a Carys Parry, John Williams, Rodney Hughes, Alun Gwynnant, Rowland Dawes a minnau. Rowland wnaeth y crys mae Dewi yn ei fodelu yn y Ring yn Llanfrothen yn swper y dathlu. Eisoes mae sgwrs stop tap wedi troi at y dathliadau ymhen deng mlynedd ...

Adroddiad gan Gerallt Pennant

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Fflickr