HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith i'r Iwerddon Hydref


Adroddiad rhan gynta'r daith gan Llew ap Gwent

De orllewin Iwerddon a chyfle arall i roi cynnig ar gopa ucha'r wlad, dyna oedd atynyniad mawr y daith hon. Ar ben hynny roedd Clive wedi trefnu llety moethus am bris rhesymol yng ngwesty'r Kenmare Bay Hotel ac roedd y cwmni, fel sy'n arferol, yn rhagorol. Teithiodd Dyfir a fi efo Ryanair i Shannon gan logi car yn y fan honno a chyrraedd Kenmare nos Wener. Ymunodd Clive, Arwyn, Gwyn, Anet, Gwen a Rhiannon a ni nos Sadwrn wedi croesi efo'u ceir o Gaergybi a chawsom gwmni Iolyn am ddau ddiwrnod - yntau ar ei ffordd o Bontsenni i'w waith yn Nulyn ! Bore Sul gwlyb a'r cymylau'n isel ond roedd Clive wedi trefnu gwasanaeth tywysydd lleol, sef Rhys Llywelyn, sydd yn wreiddiol o Lansannan ond yn byw ac yn gweithio yn ardal Kenmare. Aeth Rhys a ni i ben mynydd Mangerton (839 m), niwl, glaw a gwynt ond gallem ddychmygu bod golygfeydd gwych i'w gweld ac yn wir cawsom gip ar lynnoedd Killarney ar y ffordd i lawr.

Bore Llun wedyn penderfynu efallai y byddai'r tywydd yn well wrth lan y mor, felly i lawr a ni i Orllewin Cork gan anelu am droed yr Hungry Hill (684 m). Cael hyd i'r copa yn weddol ddi-drafferth ond y daith i lawr yn y niwl yn her gan nad yw'r map yn dangos y creigiau ! Diolch i'r GPS roeddem yn ôl wrth y ceir erbyn iddi dywyllu - ond yn ein brys i gyrraedd i lawr cyn nos roeddem heb fwyta drwy'r dydd "Hungry Hill" yn wir ! Y rhagolygon tywydd at ddydd Mawth yn well a dyma gyfle i mi roi ail gynnig ar Corran Tuathail (1039 m) mynydd ucha Iwerddon. Wyth ohonom yn cychwyn o ochr Glencar gan adael Dyfir yn Kenmare - diwrnod i'r brenin ! Pedol Chom Luachra amdani a'r tywydd yn deg; Binn Chaorach (1010 m) oedd y copa cynta ac erbyn hyn doedd fawr i'w weld ond niwl eto. Arwyn, Anet, Gwen a Rhiannon yn penderfynu mynd yn ôl i lawr y gefnen a'r gweddill ohonom yn gyrru ymlaen at Corran Tuathail. Gofal yn y niwl wrth ganfod a chroesi'r creigiau cul sydd yn arwain at y copa mawr. Cyfarfod a thri o Cork ar y copa, tynnu llun, ac ymlaen am y trydydd sef Cathair (1001 m) - ond haws dweud na gwneud, Darganfod ein bod ar y llwybr anghywir, dringo nôl i'r copa, map a chwmpawd gofalus y tro hwn a chael hyd i'r llwybr a chopa Cathair cyn cychwyn ar y daith hir i lawr. O'r diwedd golygfeydd ysblennydd o'n blaenau a chyfarfod a'r lleill wrth y ceir wrth iddi dywyllu. Roedd hi'n nos Fawrth, noson olaf Dyfir a fi, i lawr a phawb i Kenmare am swper a chyfle i gyfarfod â Rhys eto - llongyfarchiadau i Dyfir ar arwain ei thaith gynta a hynny yn y tywyllwch !

Fe wawriodd dydd Mercher yn hyfryd a ni'n dau'n troi am Shannon gan adael y lleill yn yr heulwen ar Fynydd Brandon. Diolch Clive am daith ragorol arall efo'r Clwb.

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr

  1. Y llwybr i fyny Mangerton
  2. Copa Mangerton
  3. Llynnoedd Killarney
  4. Copa Hungry Hill
  5. Diolch am gyrraedd y ceir ! 1
  6. Diolch am gyrraedd y ceir ! 2
  7. Uwchlaw Glencar
  8. Cwm Chom Luachra
  9. Corran Tuathail
  10. Loch an Chuais ar y chwith
  11. Pedol Chom Luachra
  12. Gwesty'r Kenmare Bay

Adroddiad ail ran y daith - gan Anet

Ar ôl i Llew, Dyfir a Iolyn ei throi am adra mi wellodd y tywydd yn sylweddol ac i ffwrdd â ni am Fynydd Brandon. Ar ôl anturiaethau Hungry Hill a champ Gwyn a Llew gyda'r map , y cwmpawd a'r GPS roedd y profiad ar Brandon yn bur wahanol. Byddai'n go anodd mynd ar goll yma yn y niwl mwyaf trwchus. Roedd pyst gwynion a chroesau yn ein harwain yr holl ffordd i'r copa. Ac o'r copa roedd y golygfeydd o Benrhyn y Dingle ac Ynysoedd y Blasket yn werth chweil.

Gwawriodd dydd Iau yn ddiwrnod braf eto ac er ei bod yn hen bryd cael diwrnod gorffwys penderfynwyd manteisio ar y tywydd a mynd am un o'r copaon. Y Purple Mountain i'r dwyrain o Fwlch Dunloe ddewiswyd, ac o'r copa roeddem yn gallu mwynhau golygfeydd gwych o deithiau'r dyddiau blaenorol.

Ddydd Gwener trodd Gwen a Rhiannon am adre ac aeth Clive am sgowt i Cork am y dydd. Cerddodd y tri ohonom oedd ar ôl ran o Lwybr Berea - taith ddifyr iawn heblaw am ryw filltir ar lôn brysur ar y diwedd.

Wythnos ddifyr iawn - diolch eto i Clive am drefnu.

Rhagor o luniau gan Anet ar Fflickr

  1. Arwyn a Gwyn
  2. Brandon
  3. Edrych tua'r Reeks
  4. Llwybr Beara
  5. Y Mynydd Porffor