HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa, Dydd Calan


Daeth pymtheg ynghyd i gyfarch y flwyddyn newydd, sef, Llew, Myfyr, Dafydd Owen, Elen, John Arthur, John Grisedale, Gwyn Roberts, Geraint Efans, Dylan Huw, Anet, Gwyn Williams, Wyn, Meic Ellis, Maldwyn Peris a Charli.

Pawb mewn hwyliau da a'r tywydd yn well na'r rhagolygon gyda chopa Crib Goch i'w weld yn glir o'r maes parcio. Cychwyn tua chwarter i ddeg a chyrraedd Bwlch Moch cyn penderfynu rhannu'n ddau griw, gyda naw yn mynd yn syth am y copa a chwech dros Grib Goch.

Cyrraedd copa'r Grib yn ddidrafferth, dim golwg am nac eira na rhew a'r gwynt yn rhesymol. Roedd criw o bump neu chwech o'n blaenau gydag un neu ddau yn edrych yn bryderus iawn wrth symud yn araf ar hyd y Grib.

Y tywydd yn gwaethygu wrth inni godi o Fwlch Coch gydag ambell i fellten a chawod drom o genllysg yn ein croesawu i gopa Crib y Ddysgl. Roedd y copa wedi ei orchuddio gyda haen ysgafn o eira a'r cenllysg yn troi'n rhew ar y creigiau. Anarferol cael mellt a tharanau ar ddiwrnod mor oer, roeddwn bob amser yn fy anwybodaeth wedi cysylltu mellt gydag awyr gynnes.

Cyrraedd copa'r Wyddfa o'r diwedd ond yn rhy hwyr i fwynhau cwmni gweddill y criw. Er bod ein cysgod arferol wedi ei ddymchwel, roedd y copa yn edrych yn llawer gwell heb adeilad.

Penderfynodd pump o'r rhai mwyaf ffôl, gyda diolch arbennig i Dylan Huw am ei awgrym a'i wisgi, i gwblhau'r bedol. Felly i lawr a ni i Fwlch y Saethau gan ddilyn Llwybr Watcyn yn hytrach na mynd i lawr y llethrau serth sy'n arwain yn uniongyrchol o'r copa ac sydd wedi profi'n angheuol i nifer o gerddwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

Roeddem yn argyhoeddedig fod Lliwedd wedi tyfu mwy na chyfradd chwyddiant yn ystod y deuddeg mis blaenorol wrth inni ymlwybro'n araf at i fyny, ac er bod y copa'n glir, roedd llwydni'r awyr a blinder yn pylu'r olygfa.

Wrth agosáu at Benypas goleuwyd y llethrau o'n blaenau wrth i'r Haul ddod i'r golwg am funud neu ddau cyn machlud. Golygfa ryfeddol gyda lliwiau coch ag oren tanbaid ar ôl treulio oriau mewn amgylchedd llwyd a di liw.

Gorffen y daith gyda pheint neu ddau a sgwrs ddifyr ym Mhen y Gwryd cyn troi am adref ac ail feddiannu'r soffa.

Diwrnod da iawn a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Adroddiad gan George Jones

Lluniau gan George Jones (1-4 criw'r Grib Goch) a Gwyn Williams (5-10 criw y PYG) ar Fflickr