Tryfan, Glyder Fawr, Y Garn 3 Chwefror
Pam cynnig dwy daith?
Dyma'r benbleth oedd yn wynebu'r arweinydd wrth deithio draw i Ogwen ar fore clir heulog? Methu'n lan cofio'r rhesymeg. Ta waeth, mi oedd y mwyafrif wedi mynegi'r awydd i gychwyn o faes parcio Joe Brown. Wedi gadael sawl car ar waelod Nant Ffrancon i ffwrdd a ni fyny'r dyffryn. Wedi cyrraedd y maes parcio islaw Tryfan, yr un gyda'r wal (ond does yna wal wrth ymyl bob un? Rhaid cofio rhoi cyfeirnod grid y tro nesaf!) dyma rhoi'r dewis i griw bychan oedd wedi ymgynull yno. Mi oedd Alun wedi teithio'r holl ffordd o Dregaron i ymrafael a'r Grib Ogleddol a'r Grib Danheddog, ac felly gwell peidio'i siomi. Felly, dyma benodi is-arweinydd ar frys i dywys y criw o Gapel Curig (diolch yn fawr Alwen) ac i ffwrdd a'r arweinydd a dau arall i groesi Tryfan a chyrraedd copa'r Glyder er mwyn cyfarfod y criw arall.
Dyna a wnaethpwyd, ac erbyn cyrraedd ' Y Gwyliwr' roeddem oll yn griw o 23.
(Mae'n ymddangos felly bod aelodau'r clwb fel 'defaid terfyn', does dim angen bugail arnynt oherwydd maent yn gwybod ble i droedio). Ymlaen am y Glyder Fawr cyn disgyn i Lyn y Cwn am rhyw ginio.
Pleser pur oedd cael crwydro dros y Garn a'i chriw o dan awyr las, dilychwyn.
Coesau a thraed blinedig oedd gan amryw wrth ddisgyn (neu llithro ar y ddaear rhewllyd) i lawr o gopa Carnedd y Filiast i gysgodion Nant Ffrancon gyda meddwl rhai yn crwydro, o liwiau'r machlud ar y Carneddau, tua'r Gogledd pell a mynyddoedd ardal Braemar.
O ie, dwy daith, mi oedd Tryfan a'r Grib Danheddog yn ddewis os oedd eira da!"
Adroddiad Dylan Huw
Lluniau gan Rhodri Owen a Dylan Huw ar Fflickr