Penwythnos preswyl Y Peak 4-7 Mai
Pump a fentrodd i brofi eu gallu a'u doniau ar garreg melin, gwaddodol Stanage, yn ardal Y Peaks, Anita, Arwel, Alan, Dilwyn a Dylan Huw. Mae enwogrwydd Stanage yn haeddianol. Treuliwyd tridiau yn dringo o fore gwyn tan nos ond ar ran fechan o'r graig sydd yn agos i 4 km o hyd. Roedd natur y dringo yn wahanol i'r slabiau a geir yn Eryri. Ond unwaith y sylweddolwyd mae'r ffordd i fyny oedd stwffio pob rhan o'r corff i mewn i'r craciau er mwyn esgyn, buan iawn y gwelwyd y graddfeydd dringo yn cael eu gwthio yn uwch (heblaw am y Cadeirydd, a dreuliodd dydd Sul yn cysgu yn ei fodur-dy wedi mwynhau cwrw da bragdy Sheffield y noson gynt!).
Cafwyd cwmni Mwyalchen y Mynydd a oedd yn nythu gerllaw yn ystod y penwythnos a olygodd bod rhai dringfeydd wedi eu rhwystro.
I unrhyw un sy'n bwriadu ymweld â Stanage, roedd Hostel Ieuenctid Hathersage mewn lle delfrydol. Ar gyrion y pentre, gyda dewis o dafarndai i fwyta (Little John - Cwrw da a phentwr o fwyd ar y platiau) neu gwesty moethus i'r crach!
Diolch i Anita am drefnu, a mawr obeithio y cawn daith dringo arall cyn pen y flwyddyn.
Adroddiad gan Dylan Huw
Lluniau gan Dylan Huw ar Fflickr