HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo 'single pitch' Dinorwig 4 Tachwedd


Gyda nifer o griw y dringwyr yn yr Himalaya bell, braf oedd cael cyfarfod ffrindiau newydd i flasu'r datblygiad diweddaraf yn un o dyllau chwarel Dinorwig. Mae nifer o ddringfeydd newydd wedi eu bolltio gyda chymorth cronfa bolltau BMC Cymru. Mae'r safon yn amrywio o 4a i 6a, felly roedd digon o gyfle i fagu hyder ar y dringfeydd gweddol hawdd cyn mentro i fyny'r rhai anoddach. Cafwyd llawer o hwyl yn ymbalfalu gyda nifer o broblemau difyr cyn rhoi terfyn ar y diwrnod drwy ddringo dwy ddringfa draddodiadol. Jeremy yn arwain VS 4c yn hyderus a John yn rhoi cynnig ar E3!

Diolch i Elan, Janet, Jeremy a John an eu cwmni ac i Alan am gyd-drefnu'r diwrnod.

Adroddiad gan Arwel Roberts

Lluniau gan Arwel Roberts ar Fflickr