HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Craflwyn a Hafod y Llan 7 Gorffennaf


Daeth pump ohonom ynghyd i faes parcio Craflwyn, sef John Parry, Clive, Gwen Richards, Eirlys a minnau.

Ar ôl yr holl law, braf oedd gweld yr haul eto. Ar lwybr Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol roeddem ni'n gerdded i gychwyn a gwelsom eifr gwyllt. Aethom heibio murddyn Beudy Cwm y Fedw a ddefnyddiwyd fel lloches i anifeiliaid ers talwm. Wedi cyrraedd llwybr Watkin, a'r rhaeadr yn llifo'n wyllt aethom heibio fferm Hafod y Llan a cherdded o gwmpas Llyn Gwynant a heibio'r maes gwersylla … roedd y llyn yn edrych yn hardd wrth sefyll ar graig Penmaenbrith.

Aethom heibio Sgubor Bwlch … dywedodd John ei fod wedi aros yno pan oedd yr adeilad ym meddaint yr Urdd flynyddoedd yn ôl. Yna cerdded yn ôl ar lwybr fferm Hafod Llan, ger yr afon. Cawsom baned a sgon flasus yng Nghaffi Gwynant, cyn cychwyn cerdded o gwmpas Llyn Dinas. Buom yn sgwrsio efo Ken a Mem, Llyndy Isaf, oedd yn brysur yn torri rhododendrons – rhywun arall oedd yn 'nabod Clive!

Yna, i orffen aethom heibio Plas Craflwyn, lle roedd priodas ac aeth Clive i mewn i edrych pwy oedd yn rhedeg y bar!

Adroddiad gan Delyth Evans

Lluniau gan Delyth Evans ar Fflickr