Drygarn Fawr 8 Medi
Ar fore niwlog wnaeth deg ohonom gyrraedd y maes parcio ger afon Irfon i ddechrau fy nhaith gyntaf fel arweinydd. Erbyn dechrau cerdded roedd y niwl wedi codi a'r haul yn edrych yn obeithiol . Dechrau'r daith wrth gerdded drwy goedwig Llannerch-Yrfa a heibio Drygarn Fach cyn cael paned wrth ymyl Drygarn Fawr. (llawer o dynnu coes am y "roced poced"). Cerdded heibio Carreg yr Ast cyn troi i'r Dde Ddwyrain am goedwig Esgair yr ?yn am ginio ger yr afon. I fyny trwy'r coed cyn cerdded lawr y cwm trwy buarth fferm Glangwesyn cyn troi i fyny at gwm darluniadwy Cwm Gwesyn. Roced poced allan eto am baned wrth raeadr Sgwd y Ffrwd a dringo unwaith eto cyn cerdded nôl am y coed ac i'r car.
Adroddiad gan Guto Evans
Lluniau gan Guto Evans ar Fflickr