HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Sgramblo yn Ogwen 9 Mehefin


Os am ddiwrnod da o sgramblo yn Ogwen, beth am gychwyn ar Glogwyn y Geifr (sgrambl gradd 2) i gynhesu ac ystwytho. Yna rhyw ysbaid i gael tamaid ar lethrau'r Garn cyn ymlwybro i lawr Llwybr y Geifr i'r Twll Du a chreigiau Idwal islaw. Dilyn yr hollt i'r chwith o'r slabiau i fyny at Cwm Cneifion. Erbyn hyn bydd dyn/es wedi cynhesu digon a'i ben/phen wedi arfer a'r uchelfanau digon i fentro ar Grib Cneifion (gradd 3). Yn ôl Gareth wyn Penmachno, sgrambl gorau Eryri.

Adroddiad gan Dylan Huw

Lluniau gan Dylan Huw ar Fflickr