HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Llangynidr a phedol Dyffryn Crawnon 10 Mawrth


Daeth 17 ynghyd ar ddiwrnod braf i wneud y daith 14 milltir amrywiol hon. Cychwyn o'r maes parcio ym mhentref Llangynidr am y de, a dringo'n serth ar hyd llwybr ceffyl Llwynrhyn at gware (chwarel) Blaen Onnau, lle gellir gweld panorma'r Mynyddoedd Duon a Phen y Fal i'r gogledd ddwyrain, a llwyfan hen gaer Crug Hywel yn gwarchod y cwm islaw. Gwyro i'r de orllewin wrth godi ar Fynydd Llangynidr [llun 1], gan wau heibio'r holl lwncdyllau a heibio'r maen mesur uwchben Cwm Claisfer, nes cyrraedd Ogof y Siartwyr [llun 2] lle bu'r werin yn gwneud arfau protest 150 mlynedd yn ol. Yna ymlaen i'r Garn Fawr, cyn torri am gesail uchaf Dyffryn Crawnon, a dilyn yr hen lwybr tram uwch y coed, a naddwyd o'r clogwyn i symud calchfaen a mwynau at gamlas Mynwy a Brycheiniog, i'w cludo i Gasnewydd. Codi'n annisgwyl o serth wedyn i grib Pen Rhiw Calch, a dod i olwg y Waun Rudd a Phen y Fan, a chronfa ddwr Talybont ymhell odanom [llun 3]. Rhan ola'r bedol oedd dilyn y grib i'r gogledd ddwyrain, a dringo talcen Tor y Foel - ynys o fynydd sy'n cynnig golygfeydd trawiadol i bob cyfeiriad - cyn disgyn ar ein pennau at y gamlas ger Llangynidr. [llun 4] Cyrhaeddwyd pen y daith jest mewn pryd i weld y reff gwirion yn chwythu ei chwislen gam yn Rhufain, ar deledu tafarn groesawgar y Red Lion.

Adroddiad gan Rhys Dafis

Lluniau gan Rhys Dafis ar Fflickr