O amgylch Llyn Padarn 10 Hydref
Lleoliad: Llanberis
Arweinydd: Alun Roberts
Nifer ar y daith: 10. Pedwar John - John Arthur, dau John Parry a John Williams, dwy Wen, Aaron a Richards, un Gwyn (Chwilog), Haf, Cliff am y tro cyntaf ar Ddydd Mercher, ac Alun.
Tywydd: Bendigedig, diwrnod arbennig o Hydref.
Cychwyn o Ganolfan Mynydd Gwefru am 10 a.m. i fynd o gwmpas Llyn Padarn. Mynd heibio Ysbyty`r Chwarel ac yna galw yng Nghae Mabon sef y Ganolfan Adnewyddol. Cafwyd caniatad ymlaen llaw gan y perchennog, Eric Maddern. Treulio orig ddifyr yno. Yna ymlaen i Fachwen cyn disgyn i Bont Penllyn. Yna am y Caban yn Brynrefail i gael cinio ond cafwyd profiad gwahanol o gael eistedd ar ddwy sofa oedd wedi cael eu gadael wrth ymyl y ffordd. Cyrraedd y Caban. Pawb wedi plesio hefo`r bwyd. Cerdded yn ol am y llyn- dim son am y ddwy sofa!
Cerdded am Lanberis ar y trac beics . Galw yn ffatri DMM i weld a oedd offer dringo ar werth i John Parry, Port. Siom - mae`r siop wedi cau yn y ffatri.
Yna ymlaen drwy Coed Doctor i ffordd Clegir. Yna drosodd i ffordd Bwlch y Groes ac yna dringo i Ty`n y Mynydd a chroesi wedyn i Ty`n yr aelgerth. Croesi Cwm Brwynog i lein YR Wyddfa. Yna anelu at ben uchaf y rhaedr a chael edrych lawr honno cyn ail ymuno a`r llwybr a chyraedd yn ol i Lanberis am 4:30 p.m.
Adroddiad Alun Roberts
Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr
- John Parry (yr un o Port) yn astudio campwaith un o gytiau bach Cae Mabon
- John Wms yn 'ystyried' baddon awyr agored Cae Mabon!
- Y ty to gwellt crwn
- Y criw o flaen y ty to gwellt crwn
- Y geiriau uwchben drws y ty crwn
- Soffas ar ochr y lon, Brynrefail - hoe fach!
- Aros i wledda yng Nghaffi Brynrefail
- Graffiti adawyd gan Alun pan wnaeth reci o'r daith - rhag cywilydd!
- John x 4!
- Gwen x 2 a Gwyn!
- Dr Gwen yng Nghoed Doctor
- Y criw ar goll yn y rhedyn
- Y criw
- Tren gwaith yr Wyddfa
- Rhaeadr ucha
- Rhaeadr
- John yn gweld bod un ffan Everton arall yng Ngwynedd!