HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penygarreg ac Esgair Perfedd, Rhaeadr Gwy 14 Gorffennaf


Taith o ryw 12 milltir ydy hon uwch dyffrynnoedd Gwy ac Elan drwy gynefin y barcud coch. Gan adael ein ceir mewn arosfa ar fin yr A470, rhyw 2 filltir ar ochr Llangurig i Rhaeadr, dechre'r daith trwy groesi pompren tros afon Gwy a dringo'r allt binwydd i'r de cyn troi ar y grib am Esgair Dderw i'r gogledd orllewin. Er mwyn manteisio ar olygfa'r dibyn, cadw at glogwyn y Wenallt i ben ucha Cwm Gwynllyn gan gadw llygad barcud am y deryn balch [Llun 1].

Disgyn yn serth wedyn at ben y rhaeadr yn yr hafn, a chroesi'r nant yn ei llif heb godwm!? Yna codi am Graig Ddu i'r de a'i golygfa wych, a gweld ein par cynta o farcutiaid yn troelli o danom. Lle da am baned! [Llun 2]. Yn cadw cwmni sionc inni y tro hwn, roedd Richard Williams [Ricardo] o Esquel, sydd drosodd yng Nghymru am 3 mis [Llun 3]. Braf oedd ei groesawu yma ag yntau wedi croesawu Iolyn, Eirlys a Rhian i'r Wladfa fis Mawrth eleni.

O'r Graig Ddu, buom yn dilyn y clogwyn i'r de uwchben Treheslog a Rhydoldog, a throi i'r gorllewin drwy Fwlch Croesnewydd am Nant y Blymbren ac i lawr at argae Penygarreg, a'r dydd yn brafio ar ol ffasiwn law. Yna dilyn yr hen reilffordd hyd ymyl y llyn, fu'n cludo cerrig a gweithwyr i'w shifft adeg codi'r argaeau, nes cyrraedd cronfa Craig Goch, yr uchaf o'r llynnoedd [Llun 4].

Cadw i'r dwyrain nesa, a dringo am Esgair Perfedd - lle corsiog i'w osgoi mewn niwl gefn gaea - a throsodd at y gwersyll Rhufeinig uwchben rhaeadrau Gwynllyn. Croesi'r ffordd sy'n mynd am Gwm Ystwyth a chodi at glogwyn Cerrig Gwalch uwchben Dyffryn Gwy. Roedd sawl barcud yn hofran odanom a'r olygfa dros y cwm yn syfrdanol [Llun 5].

Disgyn wedyn uwchben y Fergwm i lawr at yr afon Gwy wrth Cwmcoch, a llwybro'n ôl at y bompren i gwblhau'r bedol.

Adroddiad gan Guto Evans a Rhys Dafis

Lluniau gan Guto Evans a Rhys Dafis ar Fflickr