HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd Llanberis Chwefror 17


Arweinydd Alun Roberts.

Gwawriodd yn fore nodedig o braf gyda`r holl fynyddoedd ar eu gorau. Dechreuwyd ar ben hanner awr wedi naw. Dechreuodd 17, yn cynnwys dau am y tro cyntaf hefo`r clwb sef Iestyn ab Hywel o Brifysgol Bangor a Terri Stallard o Gaernarfon. Gadael y Maes Parcio di-dal wrth Amgueddfa Mynydd Gwefru (cawsom wybod gan y cynghorydd Sir na fydd y maes parcio hwn yn ddi dal yn hir) cyn mynd drwy`r tai cyngor. Yna edrych i lawr ar raeadr Llanberis ac anelu at Hafod Uchaf, yna dros y gamfa am Lyn Dwythwch cyn troi i ymlwybro`r ochr serth sy`n mynd a ni ar yr ysgwydd ogleddol sy`n arwain o Lanberis i Moel Eilio.

Roedd y golygfeydd yn odidog tan tri chwarter ffordd i fyny. Och a gwae daeth y niwl! Penderfynu cael paned sydyn cyn mentro iddo. Welson ni fawr ddim cyn cyrraedd Bwlch Masgwm. Fe lithrodd MoeL Eilio, Moel Gron a Moel Goch heibio fel petasent mewn gwlad hud a lledrith ond bod y wlad yma yn oer a thamp.

Roedd yna drefniant y byddai Ken Jones, sylfaenydd Ras yr Wyddfa, yn ein cyfarfod ar ein taith - a gwir y digwyddodd. Ymddangosodd yn sydyn o`r niwl ger Copa Foel Goch. Mae Ken yn hanesydd lleol arbennig, yn enwedig ar hanes Cwm Brwynog a`r cyffiniau. Cawsom ein cinio yn ddiniwl yn Bwlch Maesgwm.

Penderfynodd pump o`r criw dan arweinyddiaeth Dilys ymlwybro lawr Cwm Maesgwm yn ôl i Lanberis. Ymlaen a`r gweddill i ben Moel Cynghorion a`r niwl!

Penderfynodd Ken a Gwen ddilyn hoel eu traed yn ôl i Gwm Maesgwm ac i lawr i Lanberis.

Ymlwybrodd y deg arall lawr i Fwlch Cwm Brwynog cyn cerdded yn ôl ar hyd lwybr Snowdon Ranger i gyferiad Bwlch Maesgwm ac yna i lawr i Lanberis. Taith ffigwr wyth, a phawb wedi mwynhau ac yn werthfawrogol iawn. Diolch i Ken am yr holl wybodaeth.

Adrodddiad Alun Roberts

Lluniau gan Anet ar Fflickr