HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Darn o Grib Nantlle 17 Mawrth


Daeth 10 ohonom i faes parcio Rhyd Ddu (tâl parcio £3!) ar fore sych a chan fod argoelion o dywydd gwlyb at ganol y prynhawn (a'r gêm rygbi ar y bocs) , dim ond darn canol Crib Nantlle oedd y bwriad.

Dilyn y llwybr arferol at waelod Y Garn, yna troi i'r chwith (!) ar lwybr Bwlch y Ddwy Elor. Ymlaen i Gwm Du, y cwm coediog sydd i'r de o Fynydd Drws y Coed a Thrum y Ddysgl. Cario'n syth ymlaen lle mae'r llwybr yn dringo at Fwlch y Ddwy Elor a dilyn ffordd y goedwig rownd cefn y cwm, gan ddringo'n raddol uwchben y coed … cerddwyr gannoedd o droedfeddi uwchben ar y grib … at ddiwedd y llwybr a chael ein cinio cyntaf yng nghysgod hen waliau o dan gopa Mynydd Drws y Coed.
Dringo'n serth ar wair i gopa Mynydd Drws y Coed a dilyn y grib i gopa gwastad Trum y Ddysgl.

Ymlaen ar hyd y grib at Dal y Mignedd a chael ein hail ginio yng nghysgod y wal wrth y twr. Tywydd yn oeri, felly mlaen ac i lawr y grib at Fwlch Drosbern (hen fwlch y porthmyn rhwng Nantlle a Chwm
Pennant) ac i lawr yn serth a rowndio i mewn i Gwm Dwyfor.

Dilyn yr inclên i lawr ac ar hyd yr hen dramffordd … y glaw yn cyrraedd yn gynt na'r disgwyl … felly torri cornel i gyfeiriad chwarel Cwm Trwsgl i arbed amser a dilyn inclên arall i fyny trwy'r niwl at Fwlch y Ddwy Elor (neu'r Ddeilior?).

Lawr trwy'r coed gan ymuno â llwybr y bore … y glaw yn ysgafnhau … gan gyrraedd yn ôl yn y maes parcio mewn da bryd i bawb gyrraedd adref i weld y gêm.

Y criw oedd Anet, Gwyn (Chwilog), Tegwen, Alwen a Ceri, Gwyn (Roberts), Llew Gwent, Ken Penmachno, Rhodri Owen a minnau.

Adroddiad gan Maldwyn Roberts

Lluniau gan Maldwyn Roberts ar Fflickr