HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith i Dde'r Amerig Mawrth 23 - Ebrill 21


Aelodau'r daith:
Gwen Aaron, Anet Thomas, Carys Parry, Clive James, Linda Williams, Gwyn Williams, Iolyn Jones, Rhian Williams, Haf Meredydd, Gwen Richards, Eirlys Noble, Rhiannon Jones, Richard Lloyd Jones, Catrin Meurig, John Parry, Gwilym Parry.

***Wele hefyd lythyr diolch i'r Clwb, a dderbyniwyd o'r Wladfa

Dyddiadur y daith (amrywiol awduron a ffotograffwyr)

Lluniau ar Fflickr
Noder nad yw'r safle'r lluniau o anghenrhaid yn cyferbynnu â'r testun, ond maent mewn trefn amser

Dydd Gwener, 23 Mawrth 2007

Deffro a rhuthro gan bod Gwyn, Linda ac Anet yn cyrraedd cyn 8 y bore. Gyrru i'r Wyddgrug lle'r oedd Arfon, ffrind caredig Gwyn yn ein disgwyl gyda phaneidiau te a chacen. Mewn dim yr oedd wedi ein gyrru i Terminal Tri, Manceinion. Daeth Rhian atom, a thu mewn i'r maes awyr roedd John a Carys eisoes wedi cyrraedd. Pan ddaeth Iolyn a Clive wedyn, dyna ni wedi ffurfio'r grŵp o 9 fydd yn gofalu am ein gilydd am yr wythnos nesaf, gobeithio.

Gwennol i Heathrow, yna dwy awr i ddisgwyl yno. Roeddwn i'n falch o gael y gorffwys gan mod i wedi dilyn Clive i lawr escalator, sylweddoli fod e'n anghywir a gorfod dringo i fyny'n ôl er mawr ddifyrrwch i'r gweddill cywir!

Pedair awr i aros yn Madrid a da o beth oedd hynny gan ein bod yn araf iawn yn cael ein checio mewn a gwneud yn siwr bod ein bagiau'n ein dilyn i Sant Iago. Lan oedd enw'r cwmni awyr ac roedd rhaid dringo lan a lan i'w desg nhw.

Doedd y siwrne 13 awr dros nos ddim yn rhy anghyfforddus. Cawsom swper a brecwast a digonedd o ddewis o ffilmiau. Roedd golygfa drawiadol o'r Andes wrth i'r wawr dorri. (Gwen A)

Dydd Sadwrn, 24 Mawrth

Santiago bum awr ar ôl amser Cymru, a phan gyrhaeddodd y brecwast am 6.30 amser Chile roedd yn 11.30 amsar adra a phawb ar lwgu. Cyn cyrraedd Santiago diflannodd y cymylau a chafwyd golygfeydd trawiadol o'r Andes moel yn ymestyn am y gwelem. Glanio'n braf yn Santiago chydig wedi un y pnawn ac i ffwrdd â phawb am y carousel i wneud yn siŵr fod ein bagia wedi cyrraedd. Haleliwia - roeddan nhw i gyd yno. Y dyn roedd Gwyn wedi trefnu efo fo i fynd â ni o gwmpas y ddinas yn aros amdanom efo placard - Mr Gwinn Williams - eironig iawn o feddwl na Gwyn ydy'r unig lwyrymwrthodwr yn ein plith.

I ffwrdd â ni o gwmpas y ddinas wedyn, ac Alexander yn siarad nes oedd ein penna blinedig yn troi. Hanes Chile a'r datblygiad fu o amser yr Indiaid/Aztec/Inca hyd heddiw - Allende a Pinochet. Tro ar droed o gwmpas canol y ddinas cyn mynd â ni i fwyty pysgod. Nifer o'r criw yn mynd am y cranc brenhinol (king crab) - a phris brenhinol arno erbyn cael y bil! Y gweddill ohonom am bysgodyn gwyn a'r pysgotwr ei hun (Gwyn) yn cael cig. Nôl i'r bws mini ac Alexander yn mynd â ni i siop ddethol iawn oedd yn gwerthu lapis lazuli - ond ar ddiwrnod cynta'r gwylia doedd neb yn barod i wario. Nôl i'r maes awyr yn barod am y daith i Temuco.

Pawb wedi synnu at mor boeth oedd hi yn Santiago, ac yn dechra pryderu bod gormod o ddillad cynnes a dim digon o ddillad ysgafn yn y sachau! Rhan ola'r daith - awr o hedfan i Temuco. Ond dyna helynt. Swyddogion craff seciwriti Santiago yn sbotio cyllell yn sach llaw Iolyn. A fynta wedi llwyddo i'w sleifio drwy seciwriti Manceinion, Heathrow a Madrid pan fethodd Clive a dwad â thiwb o bast dannadd hyd yn oed.

Glanio yn Temuco mewn gwlad werdd goediog, hollol wahanol i'r llwydni moel o gwmpas Santiago. Bws mini yn aros wrthyn ni eto i'n cludo i Pucon. Trefniadau perffaith Gwyn! Golygfa dda o Villaricca ar y ffordd a thoman o adar gwahanol. Cyrraedd y cabanas fel roedd hi'n tywyllu. Rhyw Garlos yn ymweld i drio gwerthu ei wasanaeth i ni! Dim penderfyniad - pawb wedi blino gormod. Addewid am dywydd braf am ddyddiau i ddod. Cawn weld! (Anet)

Dydd Sul, 25 Mawrth

Deffro yn y bore i sŵn y glaw ar y to! Be? Beth am yr addewid o bedwar diwrnod braf, heulog a gafwyd ddoe? Codi'n hamddenol ond dim bwyd yn y tŷ i ni gael dejayuno, brecwast i chi. Cerdded yn y glaw i gaffi lle cafwyd brecwast iachus o ffrwythau, sudd ffresh a chrempog, iogwrt a chnau. Wedyn mynd i'r swyddfa dripiau i fwcio ar gyfer gweithgareddau am y dyddiau nesaf.

Roedd pawb yn unfrydol ynglŷn â mynd i fyny'r llosgfynydd Villarrica (rhai angen mwy o berswad na'i gilydd ond newid meddwl ar ôl clywed y bydd arweinydd neu gefnogwr yn hytrach yn y cefn hefyd).

Ar ôl mynd i'r archfarchnad am 'supplies' cafwyd cinio sydyn cyn cychwyn am yr aque calitures (dŵr poeth) i ymlacio. Ond, cyn cyrraedd Thermas Hinte aeth y gyrrwr, Patricio, â ni i weld rhaeadr a llyn bach glas (laguna azur) a llyn Caburgna. Braf oedd ymlacio wedyn yn y dŵr poeth a'r dŵr poethach, a'r dŵr poethaf! Yr oedd wyneb Cleif yn mynd yn gochach o hyd ac mae'r wên yn dal ar wyneb Linda!

Aeth y gang o bedwar eu ffordd eu hunain ar gefn ceffylau ond stori arall yw honno. (Carys)

A stori dda ydy hi hefyd! Stwffio'r tri dyn i sedd gefn y tryc (dan brotestio) i Rhian gael bod fel tywysoges wrth ymyl y gyrrwr - Georgio.

Cyrraedd y ranch i gyfarfod ein ceffylau, ac roedd rhaid matchio ceffyl a marchog! Wedi cychwyn reit anfoddog gan geffyl Rhian, dim rhyfedd efo rhywun mor ansicr, aethom ati i goncro'r fforest, y llosgfynydd a'r paith gan gyrraedd copa efo'r olygfa 360 gradd mwyaf bendigedig o'r holl ardal.

Buom yn crwydro drwy'r coed aracuria, rhai hynafol, dros fil o flynyddoedd oed yn ôl y sôn. Wedyn drwy lwyfan o lwch du y llosgfynydd oedd fel anialwch du. I fyny â ni wedyn drwy'r mynydd i'r copa. I lawr wedyn drwy goed wedi llosgi ar ôl tân ac i'r ranch i gael mini asado a gwin. Roedd y marchogion a'r ceffylau yn bennaf ffrindiau erbyn hynny a'r pedwar marchog a'u coesau bwa yn tystio ei fod wedi bod yn ddiwrnod gwerth chweil!

Bydd y ddelwedd o Gwyn rêl boi yn marchogaeth efo un llaw a John yn dod lawr y bryn i sŵn chwiban y Lone Ranger a Iolyn yn bownsio yn y cyfrwy i lawr yr allt yn aros yn y cof am yn hir! (Rhian)

Dydd Llun, 25 Mawrth

Diwrnod cyntaf go iawn y daith. Bws bach yn ein casglu am 7.00 - naw ohonom. Criw Caban G yn cloi'r agoriadau yn y Caban! Cyrraedd maes parcio canolfan sgïo Pucon, sef Volcan Villarrica. Yn anffodus cafodd Gwen godwm wrth gerdded i'r lifft sgïo - ond pawb i fyny'r lifft a dechrau cerdded o ddifrif - cymysgedd o eira a cherrig y llosgfynydd. Yn anffodus nid oedd coes Gwen yn dda o gwbl ac aeth un o'r tywyswyr efo hi i'r gwaelod. Carys a Linda yn ddewr iawn ac yn brwydro ymlaen. Dydy oes 'chivalry' ddim drosodd yn y Clwb gyda gwirfoddolwyr yn cario sach Carys a chaib rew Linda - ond nid eu gwŷr.

PAWB (ond Gwen druan) yn cyrraedd y copa i weld crater y llosgfynydd a chlywed ogla'r swlffwr. Picnic amser cinio. Wedi anghofio sôn am y degfed cerddwr - cyfaill newydd o Brisbane, Awstralia! O dop y chairlift i'r copa - 3 awr a hanner. Gyda chramponau cwmni Sol y Nieve, roedd pawb yn disgwyl cerdded i lawr yr un ffordd. Ond syrpreis, neu sioc! Ar ôl gwersi carlam ar ddefnyddio caib rhew mewn argyfwng, roedd cyfle i ymarfer i lawr Cresta Run bach. Pawb yn mwynhau! Ond doedd NEB yn sylweddoli byddent yn defnyddio'r un dechneg yr holl ffordd i lawr i waelod yr eira. Profiad, yn wir. Diogel? Efallai! Ar ôl un rhediad cafodd Carys a Linda sioe wrth iddynt adael yr eira am y cerrig gyferbyn.

Yn y pen draw pawb yn cyrraedd gwaelod yr eira, tynnu gardas a throwsus diddos (a'r helmau roeddem ni wedi eu gwisgo yr holl ffordd i fyny. Wedyn cerdded i lawr o dan y chair-lift (gwasanaeth i fyny yn y bore yn unig) trwy'r llwch folcanig ac ymlaen i'r bws bach ac yn ôl i Pucon.

Cost y profiad - $5,000 am y chair-lift a $US90 am wasanaeth y cwmni - offer, bws bach, 4 tywysydd - gwerth yr arian.

Ar ôl cyrraedd yn ôl i'r Cabanau, hebrwng Gwen i'r ysbyty bach lleol. Cwmwl du dros derfyn diwrnod da. Llongyfarchiadau i Carys a Linda am gwblhau taith gyntaf y daith mewn tywydd braf - dim glaw a digon o gymylau! (Clive)

Dydd Mawrth, 26 Mawrth

Am 7.00 y bore cychwynnodd Rhian a thri o'r dynion ar daith deuddydd, felly cawn glywed eu hanes nos yfory. Am 8.00 cychwynnodd Gwyn a finnau ar daith wahanol iawn - mewn cwch rhwyfo bychan i lawr afon Trancura. Ein tywysydd yn rhwyfo, Gwyn yn pysgota a finnau'n ymlacio, gwylio adar a darllen ychydig. Diwrnod hamddenol, hyfryd; llesol i gorff ac enaid. 10 awr o dawelwch yn edmygu'r wlad sy mor wahanol i'r hyn a ddychmygais.

Daliodd Gwyn dri physgodyn a chawsom ginio gwych ar lan yr afon. Diwrnod pleserus iawn ar ôl cynnwrf ddoe.

Am 6.00 o'r gloch cyrhaeddom i'r fan lle'r oedd ein gyrrwr yn aros amdanon i'n cludo'n ôl; ac yn fuan ar ein holau cyrhaeddodd y merched yn ôl, a chawsom hanes diddorol eu diwrnod; a balch iawn oeddem o weld gwên ar wyneb Gwen - mae hi'n ddewr iawn. Cawsant ddiwrnod o grwydro yn y bws bach, yn gweld amrywiol bethau gan gynnwys afon o lafa a gwylio adar. (Linda)

Dydd Mercher, 27 Mawrth

Criw Caban G Pucon yn aros yn eu gwelyau ychydig yn hwyrach heddiw. Y bws yn galw i'n nôl am 9.30 i fynd â ni i Barc Cenedlaethol Huerquehue, y siwrne yn eitha anturus ar hyd ffyrdd llychlyd yn arwain i'r mynyddoedd. Gadael Gwen yn y resturante ar ochr y llyn yn torheulo a'i choes (plastar) yn gorffwys ar un o'r cadeiriau haul. Cerdded ar hyd llwybrau da at y nifer o lynnoedd yn y parc - yr un daith yr oedd y criw arall wedi ei cherdded ddoe. Llwybrau trwy'r coed oedd y rhain, amrywiaeth o goed gan gynnwys yr Alerce sy'n goed hynafol iawn, rhai ohonyn nhw'n 1000 neu 2000 o flynyddoedd o oedran. Roedd dipyn o frys i gyfarfod y bws felly gwnaeth Anet, Carys a Linda daith fyrrach na fy un i. Y man uchaf i mi gyrraedd oedd Lago Huerquehue, ddim yn bell iawn o wersyll y pedwar arall neithiwr. Codi Gwen yn y caffi am 5 - roedd wedi crasu yn yr haul.

Gwen yn cael ei gadael mewn caffi cyfagos i'r cabanau tra'r aeth y pedwar ohonom am gawod. Dipyn o ddrama oedd cael Gwen yn ôl i'r cabanau (ond un digon doniol), cario cadair y tu ôl iddi er mwyn iddi gael gorffwys. Tra'r oedd yn eistedd ar ochr croesfan sebra arhosodd bws iddi gael croesi. Y criw o bedwar wedi cyrraedd yn ôl yn saff. (Gwyn)

Dydd Mawrth, 26 Mawrth

Taith y pedwar - John, Clive, Rhian ac Iolyn
Cychwyn am 8 a chyrraedd y parc am 9.15. Taith drwy'r coed, heibio i Laguna Choijo ac Armin wedi trefnu popeth. Cyrraedd y man gwersylla tua 4. Eistedd i sgwrsio yn yr haul cynnes. Dim rhaid gwneud dim. Bwyta ac yfed gwin ac wedyn disgwyl am oriau i'r 'pinions' goginio.

Cysgu a chwyrnu'r nos mewn 2 babell. Rhian yn cwyno fod ei chyd-babellwr wedi ei chadw'n effro. Codi i frecwast wedi'i baratoi a chychwyn cerdded am 9.15. Cyrraedd pen y daith erbyn 2.00, wedi bod yn dwyn afalau ac eirin ar y ffordd. Croeso gan amaethwr lleol a'r teulu, gwydraid neu ddau o gwrw ac yna i'r dŵr cynnes, pawb yn ei drôns ond Rhian. Ymlacio yn y dŵr twym, asado bendigedig ac yna cychwyn yn ôl tua 5.00. Taith hirach na'r disgwyl, 110 km, y rhan fwyaf ar ffordd heb wyneb. Yn ôl erbyn 8.00, sgwrs a pheint gyda Chorjo ac Armin cyn noswylio. (Iolyn)

Dydd Iau, 28 Mawrth

Taith y pedwar gŵr. Cychwyn am 10.00, Raul yn ein cludo yn y bws. Drwy Curchiere ac yna ar hyd lôn heb wyneb yn mynd i gyfeiriad y ffin gyda'r Ariannin. Dyffryn cul gydag ochrau serth coediog. Ambell i fferm yn y dechrau. Teithio am tua ¾ awr ar y ffordd yma i gyrraedd Lago ?. Cychwyn cerdded am tua 11.30, y llwybr yn mynd trwy'r coed i ddechrau ond ar ôl tua 1.30 cael cinio ac yna allan o'r coed i lwch y Volcan Lanin. Cyrraedd Lago Verde. John a Gwyn yn trochi'u traed, Clive ac Iolyn yn mentro'n bellach gan obeithio cael golygfa i'r dyffryn nesaf, ond dim ond copaon yn y pellter a welwyd. Yn ôl at y bws erbyn 5.00 ar ôl picio i weld Lago.

Aros yn Currehurie ar y ffordd yn ôl, a galw i weld canolfan leol gydag ychydig o hanes y brodorion Mapuche. Cael paned o goffi lleol, y ffa yn debyg i farlys.

Yn ôl yn Pucon er mwyn mynd allan i swper am 8. Pryd a sgwrs arbennig, rhai yn hwyr iawn yn cyrraedd yn ôl i'r cabanas ac yn gorfod ymarfer eu crefft dringo! (Iolyn)

Dydd Iau, 29 Mawrth

Carys, Linda ac Anet yn cael taith mewn cwch i lawr yr afon i wylio adar. Gweld glas y dorlan (mwy a llai llachar nag un adra), torrent duck (hwyaden y llif?) (wyneb rhesog yn mestyn am bryfed ar graig uwchben y rhaeadr), churette (niferus - tebyg i fronwen y dŵr ond â wyneb rhesog) ac amryfal adar gwahanol eraill. Mond ni ar yr afon - difyr iawn.

Dydd Gwener, 30 Mawrth

Teithio o Pucon i Puerto Varras yng ngherbyd Raoul. Stopio yn Fontillera i weld y Volcan Orsono tros y llyn. Aros mewn hostel ddifyr. (Anet)

Dydd Sadwrn, 31 Mawrth

Cawsom ein cludo i'r orsaf bws erbyn 8.00 ar ôl brecwast dymunol yn Puerto Varas a chafwyd sgwrs am Chile gan y tywysydd ar y bws. Cafwyd taith i Saltos Rio Petro Hue i weld y rhaeadr enfawr i edmygu rhyferthwy'r dŵr.

Aethom ar y cwch ar y llyn gan lygadu Mynydd Tronador (Teranen) 3500 metr yn y pnawn wrth ddringo'n araf at y bwlch 1500m yn yr Andes. Roedd y lôn yn breifat a dim ond y cwmni yma oedd yn defnyddio'r lôn.

Ar y ffordd am Lago Frias gwelwyd nifer o baciau ar y lôn ac yn anffodus roedd pac Rhian yn eu mysg - nid oedd difrod ond cafwyd braw.

Roedd Gwen Aaron wedi bod yn ddewr iawn yn ystod y dydd, yn difyrru'r cwmni â'i storiau di-ddiwedd, ond roedd pethau'n anodd i Gwen i gamu o un bws i gwch oddeutu dwsin o weithiau. Ni chafwyd grwgnach na chwyn ganddi o gwbl a bu'n ddewr tu hwnt. Roedd yr holl deithio yn flinedig iawn i'r abl - heb sôn am y rhai llai abl, ond fel taith diwedd y dydd gwelwyd o'r diwedd borthladd Bariloche.

Tref soffistigedig iawn fel Chamonix gyda thai drudfawr a chanolfan ddrudfawr. Dywedid fod pen-blwydd Hitler yn cael ei ddathlu yn gyffredinol ar 20 Ebrill gan y trigolion. Roedd sgandal fawr yn 1995 pan gyhuddwyd prifathro parchus yr ysgol Almaeneg a chynghorydd lleol o fod yn Nazi. Roedd y cyhuddiad yn honni ei fod wedi lladd 300 o Eidalwyr a nifer fawr o Bwyliaid yn ystod y Rhyfel. Tref felly yw Bariloche, gydag ysbryd Almaenig a phensaernïaeth i ganlyn.

Mae hi'n ddinas lân, beth bynnag, ar fin llyn Nahuel Hopi gyda golygfa dda dros y llyn. Glaniwyd ger un o westai mwyaf soffistigedig y byd sef Lau Lan. Aeth y bws a'r tacsi â ni i gyrchfan llai materol gyda miwsig gwyllt a dormitorau yn y Tango Inn, sef hostel ieunctid y dref. Llwyddwyd i gael gwely i bawb a dymunol oedd gweld Haf, Eirlys, Richard a Rhian yn cyrraedd tua 10 y nos. Mawr fu'r sgwrsio a dal i fyny â'r newyddion. Cymaint oedd y sgwrsio ar y coridor nes daeth pen bachgen ifanc i'r golwg a gofyn "O lle da chi i gyd yn dwad?" a darganfuwyd mai bachgen o Gaerwen oedd o yn teithio gyda'i gariad. Byd bach, te? (John)

Dydd Sul, 1 Ebrill

Cawsom frecwast syml iawn yn y Tango Inn a wedyn fe wnaeth y mwyafrif ddal bws i'r dref. Aeth Gwen Aaron i'r ysbyty ynglŷn â'i choes, ond ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniad ynglŷn â newid ei phlastr oherwydd y bydd yn rhaid iddi weld arbenigwr ddydd Mawrth.

Cyfarfu pawb yn y dref yn Bariloche. Dyma'r cyfle cyntaf i'r mwyafrif weld yr Ariannin. Tynnwyd lluniau ger llyn Nahuel Huape. Cyfarfod pawb mewn caffi am baned ac am ginio.

Aeth Clive, Rhian, Rhiannon, Haf a fi ar y bws cyhoeddus at gar cebl Cerro Otto. Aeth Gwyn, John, Iolyn a Richard yno mewn tacsi a buont yn cerdded ar hyd llwybr gerllaw'r copa ar ôl cyrraedd i fyny lle'r oedd y golygfeydd o'r copa yn odidog. Aeth y pedwar ohonom ni i'r bwyty sy'n troelli ar y copa.

Bu Linda, Carys ac Anet yn chwilio am westy mwy addas iddynt hwy ac i Gwen Aaron yn arbennig. Cawsant hyd i westy braf iawn yn wynebu'r llyn ac roeddent wedi symud i mewn yno yn ystod y pnawn.

Cyfarfod pawb mewn bwyty gerllaw i'r gwesty hwn gyda'r nos am bryd nos. Aeth pawb arall heblaw Gwen Aaron, Anet, Carys a Linda yn ôl i'r Tango Inn i baratoi eu bagiau ar gyfer y teithiau cerdded ac i gysgu. (Eirlys)

Dydd Llun, 2 Ebrill

Cerro Cathedral i Gwt Refugio Jacob

Gadael Tango Inn 8 o'r gloch. Cael bws i'n cludo ni i ganolfan sgïo Cerro Cathedral. Disgwyl i'r lifft agor deg o'r gloch. Mynd i fyny fesul chwech, ddim llawer o le i'r bagiau. Cychwyn cerdded 11.15 - diwrnod 'hawdd' oedden ni'n ddisgwyl.

Linda, Carys ac Anet yn cerdded efo ni am rhyw hanner awr, ac wedyn mynd yn ôl i Bariloche. Deg ohonon ni'n mynd ymlaen. Y llwybr yn diflannu. Dilyn smotiau coch ar hyd crib, finnau'n teimlo bod hi'n ddiwrnod caled yn barod. Golygfeydd bendigedig, mynyddoedd a thynnu lluniau, a thywydd braf iawn.

Ar ôl 2 awr roedden ni'n dal ar y brig. Cael cinio byr, a wedyn disgwyl i'r llwybr wella wrth fynd i lawr. Ond ... sgrî o lwch a cherrig sych am filoedd (teimlo fel hynny beth bynnag) o droedfeddi i lawr. Ninnau'n symud i lawr efo fo. Ambell un yn cyrraedd y gwaelod yn sâl, rhai yn crynu.

I lawr drwy'r coed 'notafagus' - southern beech - a chyrraedd dyffryn, a ffordd hawdd o'r diwedd. Ddim llawer o amser i hamddena - syth ymlaen i fyny allt anodd, ac yn gweld y cwt o'r diwedd - ond sgrî hir arall i lawr cyn cyrraedd!

Cyrraedd Refugio Jacob (John, Iolyn, Gwyn, Richard, Clive, Eirlys, Rhian, Rhiannon, Haf a fi) cyn machlud haul 7.30 pm.

Cwt Clwb Andino Bariloche, wrth ymyl llyn Jacob, mynyddoedd mawr o'n cwmpas. Cael andros o groeso gan y warden, a'i wraig, a phryd tri chwrs wedyn.

Cyfarfod wedyn efo'r arweinydd Luca - a saith ohonon ni'n penderfynu ar ôl y diwrnod 'hawdd' nad oeddem am wneud y diwrnod anodd yfory. Tri yn unig (John, Iolyn a Gwyn) am fynd ymlaen i Refugio Lugano Negro.

Pawb yn cysgu mewn un ystafell fawr, heblaw bod y chwyrnwyr yn ein deffro. Diolch byth, fydd dim rhaid i ni fynd yn ôl yr un ffordd. (Gwen R)

Dydd Mawrth, 3 Ebrill

Roedd 3 ohonom, Iolyn, Gwyn a John, wedi penderfynu dringo'r Pico de Refugio a oedd yn gopa trawiadol uwch y caban. Cawsom dywysydd, Lucas, bachgen ifanc brwd 23 oed i'n harwain gan fod peth dringo, diffyg llwybr a chymhlethdod ar y daith. Cychwynnwyd o'r Refugio Jacob cyn 8.00 y bore fel roedd yn gwawrio. Roedd y sgramblo fymryn yn anoddach na dilyn y Grib Goch gyda thipyn go lew o gerrig rhydd yma a thraw.

Dilynwyd y grib am sbel, hyd-traws i gwm arall a chyrraedd Navidad 1980m tua chanol y dydd. Cafwyd cinio a dilyn y grib am awr arall cyn dechrau gostwng llethr serth. Cafwyd hwyl garw yn llithro'r eira a chafwyd trowsusau gwlyb wrth gwrs.

Daethom i lawr i gwm cul hir yn llawn coed bychain (ffawydd coch) gyda'r lliwiau yn fflamgoch; llenga yw'r enw lleol arnynt. Nid oedd y tramwyo yn hawdd yma gan fod yr afon yn disgyn yn serth mewn rhaeadrau, a'r llenga yn gwneud petha'n anodd.

Tua 4.30 daethom i groesffordd. Roedd y tywysydd am ein gadael (roedd yn gweld ein bod wedi ymlâdd) a rhedeg adra. Penderfynodd Gwyn - y dewra - godi am 1½ awr a chysgu yn Refugio Negro. Penderfynodd y ddau ddiog gysgu yn y fan a'r lle, sef ger ochr yr afon dan y coed yn yr awyr agored. Bu'r ddau yn ffodus i gael matsus i gynnau tân a chael coelcerth i sychu sanau! Cafwyd sgwrs hir, dim llawer o swper ond noson dawel, tra bu Gwyn yn sgwrsio'n frwd gyda'r criw ifanc yn y cwt mewn moethusrwydd. (John Parry)

Dydd Mercher, 4 Ebrill

Daeth Gwyn yn fuddugoliaethus i lawr at John ac Iolyn erbyn 9.30 a chychwynnwyd i lawr am Colonia Suizze, sef taith 4 awr gan ddilyn y dyffryn hir. Roedd y llwybr hwn yn braf a llydan a buan daethom i'r pentref bychan iawn a sefydlwyd gan bobl o'r Swisdir. Mwynhawyd pnawn diog yn bwyta, yfed, molchi a diogi yn y tywydd bendigedig.

Tua 4.00 pm daeth y 2 fws mini efo gweddill y ffrindiau. Mawr fu'r dathlu gan fod un o'r newydd wedi ymuno â ni sef Catrin a gafodd ei chodi o'r maes awyr tua 2.30 pm. (John Parry)

Mercher, 4 Ebrill

John, Iolyn, a Gwyn yn cychwyn ar eu taith cyn codi cŵn Caer a ninnau'r gweddill, sef Richard, Clive, Eirlys, Rhian, Rhiannon, Gwen R a finnau yn cael cynnig taith o gwmpas y cwm uwchben y refugio gan geidwad y cwt i weld y llyn a'r rhewlif. Cychwyn i fyny'r un daith a'r hogiau rai oriau ynghynt a rhyfeddu at ffurf y creigiau. Cael hoe fach wrth y llyn a sylwi ar y blodau gwahanol iawn eu lliw a'u llun yn dal i flodeuo er ei bod mor oer a'r hydref wedi cyrraedd. Blasus iawn hefyd oedd aeron gwyn y llwyn aeron eira, ond ceidwad y cwt yn ein rhybuddio rhag bwyta gormod, rhag ofn iddynt effeithio ar ein stumogau (ddim yn syniad da cael anhwylder o'r fath mewn lle mor anghysbell!). Edmygu'r llyn a'r rhewlif yn hongian uwch ei ben, cyn dringo ymlaen am y bwlch lle'r oeddem yn gallu edrych i lawr i gwm anferthol arall gyda chefndir o fynyddoedd tal. Yn y nant fechan sylwi ar benabyliaid llawer mwy na'r rhai welir adref a'n tywysydd yn dweud mai oddi yma y llifa'r dŵr i gyfeiriad hollol wahanol, gan ddod â ni'n ôl i stori'r Cymry gwreiddiol eto a'u penderfyniad i uno â'r Ariannin oherwydd llif y dŵr tua'r gorllewin.

Cerdded yn hamddenol yn ôl i'r refugio, gyda rhywfaint o wthio drwy'r coed ffawydd arferol, a chael cinio braf gan y teulu dedwydd. Pawb am ddilyn ei drwyn am weddill y prynhawn. Rhai ohonom yn penderfynu mynd o amgylch y llyn a cheisio dringo un o'r cymoedd gyferbyn. Wedi cyrraedd gweld bod yno raeadr hardd a blodau dieithr iawn yr olwg unwaith eto.

Noson arall yn y refugio bach clyd a chartrefol, a deffro yn ystod y nos i weld y lleuad llawn yn gwenu drwy'r ffenestr ac yn goleuo'r caban fel petai hi'n ganol dydd. Wedi brecwast, dilyn y llwybr igam ogam ac yna throellog i lawr y cwm ar fore dydd Iau, 5 Ebrill a chyrraedd y ffordd fawr lychlyd yng ngwres y prynhawn. Y bws mini yn dod i'n nôl er mwyn i ni ymuno â phawb arall yng Ngholonia Suisse ar ddiwedd y prynhawn, a theithio oddi yno i Bampa Linda. (Haf)

Dydd Iau, 5 Ebrill

Wedi trin a thrafod y posibiliadau am y diwrnod rhydd, mi benderfynodd 8 ohonon ni farchogaeth i fyny at y rhewlif gwyn. Mi roedd hi'n ddiwrnod bendigedig a ninnau'n cael gwerthfawrogi'r olygfa o'r gwesty am y tro cyntaf dros frecwast. Doedd gennym ni ddim llawer o brofiad marchogaeth rhyngddom ond doedd Juan ddim i'w weld yn malio llawer, a mi roedd y ceffyla wedi hen arfer efo'r llwybr beth bynnag.

Mi gychwynnodd y criw am 10 - Anet, Linda, Gwyn, Gwen, Eirlys, Richard, John a Catrin. Digon oer oedd hi yn y cysgod ond roedd y ceffylau'n gweithio'n galed. Roedd rhaid codi 800m a wedyn cerdded am awr at gyrion yr eira at Refugio Meillig (1900m). Mi gymerodd hi tua 2 ½ awr i farchogaeth i ben y llwybr ceffyl.

Mi gafon ni ginio byr yn mwynhau'r olygfa a'r tawelwch ac ar fin cychwyn am y cwt, a mi gyrhaeddodd Clive ac Iolyn! Mi roedda nhw wedi cerdded i fyny ag yn ysu i gyrraedd y cwt am baned ac felly'n ysgogi ni i gychwyn. Awr yn ddiweddarach mi gyrhaeddon ni'r eira. Bellach mi oeddan ni'n edrych i lawr ar dafod y rhewlif, yn fforchio'n ddau bob ochr i'r cwt. Roedd y crevasses yn anferth ac yn edrych yn reit frawychus. Uwch ein pennau ni mi roedd yna hanner dwsin condor yn hedfan yn osgeiddig. Ar ôl paned yn y cwt mi roedd rhaid troi nôl. Dim ond John, Gwen, a Catrin oedd yn marchogaeth yn ôl, doedd y gweddill ddim yn ffansïo'r llwybra cul, serth igam ogam ar gefn ceffyl. Mi gymerodd hi rhyw 2 awr i fynd i lawr yn ôl i Pampa Linda, jest mewn pryd am swper blasus unwaith eto! (Catrin Meurig)

Dydd Gwener, 6 Ebrill

Cychwyn tua 8.30 y bore o Pampa Linda. Pawb wedi mwynhau dau ddiwrnod o ymlacio, cerdded a marchogaeth. Y ddau fws mini yn cychwyn yn brydlon - y teithio ar y ffordd di-darmac braidd yn anghyfforddus a llychlyd.

Teithio drwy wlad, golygfa wych o'r mynyddoedd. Wedi teithio am tua thair awr cyrraedd tref reit brysur El Bolson. Yng nghanol y dref roedd marchnad yn gwerthu pob math o nwyddau. Penderfynwyd aros yma am dros awr a hanner. Aeth pawb i'r farchnad i edrych ar y stondinau amryliw ac i chwilio am fargen. Wedi cerdded o gwmpas prynodd rhai anrhegion i fynd adref, eraill rhywbeth i'w fwyta.

Ymlaen â ni wedyn a chyrraedd Amgueddfa, lle difyr dros ben. Ystafelloedd yn dangos datblygiad hanesyddol/economaidd Pagatonia. I ddechrau roedd hanes y brodorion filoedd o flynyddoedd yn ôl. Diddorol oedd gweld arddangosfa o dystiolaeth o fywyd cynnar yr Indiaid. Wedyn cafwyd hanes y mewnfudwyr o Sbaen yn ystod yr 16 a'r 17G. Yn fwy perthnasol i ni ymfudodd Cymry i'r Wladfa o 1865 ymlaen. Yn yr amgueddfa roedd llawer o arddangosfeydd yn cyfeirio at ymdrech y Cymry i ddatblygu ffermydd, pentrefi a'r diwylliant Cymreig.

Ymlaen â ni wedyn i Esquel; teithio o gwmpas y dref, aros i weld y capel a'r ysgol feithrin. Ymlaen wedyn i gabanau Richard Williams; cael croeso gan y teulu. Yn hwyrach yn y noson, cyfarfod gyda rhai o Gymry Esquel. (Richard Jones)

Dydd Sadwrn, 7 Ebrill

O'r diwedd, dyma ni yn gadael cabanau Rayer Hue yn Esquel ac yn mentro mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Wlad Newydd, sef Y Wladfa. Cofiwn am Eluned Morgan yn 'Dringo'r Andes'.

Bws bach i Lago Futulaufquen ym Mharc Cenedlaethol Los Alerces yng Nghwm Hyfryd. Pawb yn ymgynnull ym Mhuerto Limono a thynnu llun. Wedyn 12 yn dechrau cerdded efo ein dau dywysydd ar hyd un o lwybrau'r parc cenedlaethol. Yn dechrau ar 500 metr ac yn codi'n raddol trwy'r goedwig ar lwybr pridd, dim llawer i'w weld. Wedyn cyrraedd y bwlch tua 1000 metr a medru gweld i'r gogledd a thaith yr ail ddiwrnod. Wedyn disgyn ychydig a golygfa fendigedig unwaith eto.

Y gamp nesaf oedd disgyn i lawr unwaith eto - serth ond diogel. Playa Blanca oedd enw'r traeth ar lan y llyn. Roedd 4 pabell wedi eu codi, matiau cysgu a'r sachau cysgu wedi cyrraedd - ar wahân i un Anet!

Gan ei bod hi'n noson braf, penderfynodd Gwen R a Iolyn gysgu ar y traeth. Felly mwy o le i bawb arall! Bach yn oer oedd y tymheredd ar ôl i'r haul fachlud, felly roedd rhaid cynnal twmpath dawns ar y traeth!

Digon o win a chwrw efo swper o ravioli. Wedyn, caneuon Cymraeg o amgylch y byrddau 'Coca Cola' metel a 'chadeiriau cyfarwyddwyr'. Gwely tua 10.30 yr hwyr; diwedd y diwrnod cyntaf. (Clive James)

Dydd Sul y Pasg, 8 Ebrill

Brecwast yn yr awyr agored ar lan Llyn Futulaufquen - awyrgylch arallfydol, a phob math o ddanteithion melys ar y byrddau bach coch.

Mentro eto i mewn i'r goedwig, a dal i ryfeddu ar yr awyrgylch - coed caled yn codi i'r entrychion, math o bambŵ ar y llawr yn gartref i'r robin fawr, a'r cyfan yn cael ei gysylltu gyda degau o foncyffion marw yn blith draphlith ar draws ei gilydd.

Dim cymaint o godi heddiw - taith hamddenol tan amser cinio. Gorffwys yn Refugio Kruger ar lan llyn bychan o'r un enw. Gwyn yn bachu ar y cyfle i bysgota.

Uchafbwynt y diwrnod oedd cael teithio ymlaen mewn cychod o lyn i lyn er mwyn rhoi hwb i ni gyrraedd ein gwersyll ar lan Llyn Verde. Teithiodd y rhelyw ohonom mewn cwch modur - gyda Haf yn cymryd y llyw! MISTEC MAWR. Cyrhaeddodd y cwch lawer cynt na'r cychod eraill. Wrth sgwrsio gyda'r cychwr, cawsom ar ddeall ei fod wrth ei fodd gyda chanu Cymraeg. Gyda Rhian a John Parry yn codi canu, daeth deigryn i'w lygaid wrth i ni gyd hitio 'top nôts' Calon Lân.

Rhan olaf y daith oedd crwydro ar hyd glannau Afon Arrayanes. Mwynhad pur ar y cychwyn ond cawsom i gyd ein cadw ar flaenau ein traed ar y clogwyni serth ar lan yr Afon Verde.

Wrth i ni gerdded heibio'r giât, roedd y cychwr yno i'n croesawu gyda'r CD o'i hoff gerddoriaeth Gymraeg!! I goroni'r cwbl, roedd yno ddŵr poeth i gael cawod, a darn o gig eidion, pysgodyn a selsig enfawr yn barod i'w rhoi ar yr asado. (Rhiannon)

Dydd Llun Pasg, 9 Ebrill

Pawb wedi cael noson dda o gwsg ac yn eiddgar am gerdded cyffrous i gopa Alto.

Croesi'r llyn (Lago Verde) i ddechrau, taith fer yn y cwch, dim cyfle i Haf i'w gyrru heddiw.

Cerdded dygn wedyn am naw awr. I ddechrau roedd y cerdded drwy'r bamb?s eto fyth! Olion daear wedi ei dorri gan fod gwyllt ond fawr arall o fywyd gwyllt nes i ni gyrraedd allan o'r bambŵs i dirwedd hollol wahanol, tebycach i adre o ran y tyfiant. Roedd lliwiau'r hydref yn fendigedig! Troedio wedyn ar hyd gwely'r afon, tirwedd sydd yn newid yn flynyddol yn dilyn y dadmer a'r llifogydd ddaw yn ei sgîl. Roedd rhaid lapio i fod yn gynnes gan fod y gwynt yn brathu wrth i ni godi a cherdded ar y copa gwastad.

Rhaid fod gan Gwyn gysylltiadau a dylanwadau grymus gan i ni gael diwrnod clir a braf eto heddiw. Roedd y golygfeydd o'r copa yn werth eu gweld; gallem weld i lawr i'r dyffryn, y llynnoedd a'r copaon i gyd yn gylch o'n cwmpas. Roedd peth eira o dan y copa ac anodd credu ein bod wedi cychwyn y cerdded drwy'r bambŵs ac yn gorffen yn ymyl eira! Troedio'n ofalus i lawr yn ein holau ac wrth edrych yn ôl am y copa gallem weld fod y glaw wedi cyrraedd yno ac fe'n daliodd ni wrth i ni gyrraedd y gwaelod - a dyna gyffro. Pawb yn gallu gwisgo'r Paramos o'r diwedd!! (Di-enw)

Dydd Mawrth, 10 Ebrill

Ar ôl noson mewn hosteria gyfforddus, codi a chael brecwast hamddenol a bod yn barod i fynd yn y bws am 10.30.

Cyrraedd Trevelin tua 12.00, ymweld yn gyntaf â'r ysgol yn y wlad lle cytunwyd ar 16/10/1902 fod Cwm Hyfryd yn rhan o'r Ariannin yn hytrach na Chile. Galw yn y fynwent gyfagos wedyn. Diddorol gweld y cerrig beddi gydag ysgrifen yn Gymraeg. Hefyd, beddi gydag ysgrifen Sbaeneg ond yn cyfeirio at Nain.

Yn ôl i Drefelin i weld Capel Bethel 1910, cydenwadol nawr ond Anibynwyr yn wreiddiol.

Cinio hwyr, 2.30, dipyn o drafferth gyda'r fwydlen ond daeth Alberto Williams i roi cymorth. Ar ôl dweud mewn Cymraeg perffaith ei fod yn canu yn Gymraeg a dim ond yn siarad ychydig, roedd yn anodd credu nad oedd yn rhugl, ond yn Saesneg yr eglurodd beth oedd ar y fwydlen.

Erbyn deall roedd perchennog y caffi wedi ffonio Alberto ac yna Alberto wedi cysylltu â dyn ifanc yn ei ugeiniau, Isaias. Roedd o yn siarad Cymraeg yn dda iawn ond ddim yn dod o dras Cymreig. Ymweld â'r amgueddfa yn y felin gydag Isaias yn egluro. Mae'r gair Amgueddfa tu allan ond dim ond Sbaeneg tu mewn.

Ar ôl yr amgueddfa ymweld â Thŷ Te Nain Maggie. Siom nad oedd te ar gael ond fe fu gwario yn y siop.

Cael hyd i dŷ te arall a gwledda eto tua 4. Brechdan jam egroes (rose hips), sgons, bara brith, teisen hufen a mwy. Alwen Green wedi clywed ein bod o gwmpas ac yn galw am sgwrs; yn hwyrach daeth ei chwaer Mary. Y ddwy yn falch o gael sgwrs yn Gymraeg. Mary yn ffrind i Haf ers yr amser yr oedd yng Ngholeg Harlech. Valeria yn dod a Gwen i ymuno â ni. Bu sgwrsio mawr - digwydd gweld Helen (o Gaerdydd). Mae'n bosib y bydd ei rhieni yn ymuno â theithiau'r Clwb. Alwen yn rhoi gwahoddiad i ymweld â'r fferm dydd Iau.

Tua 5.00 ffarwelio â Rhian a Rhiannon, y ddwy yn cychwyn am y Gaiman ar y bws nos. Yn ôl i Cume Hue erbyn 7. Pryd, gwin a chwrw a sgwrsio. Llawer o drafod beth oedd i ddigwydd fory. Taith wedi ei threfnu ond y tywydd wedi troi. Gwyn wedi cael diwrnod o bysgota a fu yn dipyn o antur. (Iolyn)

Dydd Mercher, 11 Ebrill

Cume Hue
Wedi ffarwelio â'r pump oedd am fynd ar daith y tu ôl i'r 'mynydd creigiog', a hithau'n eitha gwlyb a'r eira yn isel ar y mynyddoedd o gwmpas, i ffwrdd â'r chwech ohonon ni oedd ar ôl, sef Linda, Gwyn, Carys, Gwen R, Eirlys a finna, ar hyd glan llyn Futulaufquen i gyfeiriad y bont, Pasarella. Wedi dilyn y ffordd (tebyg i ffordd goedwigaeth adra) am tua 5 milltir, braf oedd gweld ceg yr afon Arrayanes a lliwiau hyfryd ei dyfroedd. Yna gadael y ffordd a dilyn glan yr afon at y bont cyn croesi (a bwyta rhywfaint o'r tameidiau o fwyd dros ben o'n pecynnau bwyd ers dyddiau ar yr ochr bellaf), cyn dilyn y llwybr braf i'r chwith, a dilyn glan yr afon Menendez. Yma roedd labeli ar amryw o'r coed, a phaneli'n rhoi eu hanes. Ymlaen heibio Puerto Chucao (wedi ei enwi ar ôl y robin mawr) yn ôl at y bont a'i chroesi eto. Wrth i ni gamu ar y bont, glaniodd y martin pescador (glas y dorlan) mawr lliwgar, ac o agosau ato fo'n ara bach, llwyddwyd i fynd o fewn dwy lathen ato a thynnu ei lun. Wedi croesi'n ôl penderfynodd Carys a Gwen R ddilyn y ffordd ac aeth Gwyn, Linda, Eirlys a fi ar daith fach traws gwlad er mwyn trio torri'r gornel! Mater o ddal ati oedd hi wedyn am y pum milltir yn ôl i Cume Hue.

Roedd y swper hwyr gyda'r gorau gafwyd yn Cume Hue - 2 bysgodyn braf i ddechrau a saladach blasus, cyn i'r bwytawyr cig gael platiad o gig eidion a thatws a grefi. (Haf)

Dydd Mercher, 11 Ebrill

Cafwyd cryn drafod y noson cynt ynglŷn â hyd y daith hon, a chan fod y tywydd wedi troi, ac yn bygwth glaw, gyda'r syniad o groesi afon ddofn 2-3 gwaith. Ar ôl hyn oll doedd dim llawer yn frwd. Y glewion oedd Iolyn, John, Catrin, Richard a Clive.

Roedd ambell sbotyn o law, ond drwodd a thro daliodd yn sych, ac nid oedd dyfnder yr afon yn broblem o gwbl gan fod nifer ohonom yn ei chroesi yn ein sgidiau. Cafwyd awr o bryder gan i Nacho, ein tywysydd, ein gadael i chwilota am y llwybr. Dechreuodd oeri a gwelwyd fod Marisa yn aflonyddu ac yn dangos pryder, yn enwedig pan roeddem yn sôn am y puma. Myfyrwraig ifanc oedd Marisa ond mawr fu'r llawenydd pan ddaeth Nacho i'r golwg, yn wlyb ond â gwen. O fewn awr roeddem yn gweld mwg y gwersyll a balch iawn roeddem i gael paned o de, a chartrefu yn ein cartref newydd. Adeiladwyd cysgod rhag ofn iddi lawio a hefyd casglwyd pentwr o goed i gadw'r fflam ynghynn!

Cawsom empedattas cig, tiwna a llysiau bendigedig a digonedd o win i fodloni pawb. Roedd y danteithion wedi cael eu cludo â cheffyl gan y perchnogion tir. (John Parry)

Dydd Iau, 12 Ebrill

Cafwyd noson dda o gwsg a chafwyd brecwast hamddenol yn y gwersyll gan ddechrau cerdded am 10.00 y bore. Cafwyd taith hamddenol gan gyrraedd y lôn oddeutu 2.00 y prynhawn ac fel roeddem yn cyrraedd y lôn daeth y bws mini i'r golwg a mawr fu'r llawenydd a'r cofleidio a holi'r gweddill am eu hanturiaethau. (John Parry)

Ar ôl codi'r lleill i fyny yn y mini bws mynd ymlaen am Trevelin i gael te mewn ffarm o'r enw Pennant gydag Alwen Green a'i theulu. Cyn y te blasus Cymreig roedd antur bach o'n blaen i chwilio am raeadr bach cuddiedig yng nghanol tir yn llawn o goed rhosod gwyllt (egroes) pigog.

Gyda'r nos cafwyd asado gyda chriw o ffrindiau o'r Wladfa a mawr oedd y sgwrsio. (Carys)

Yr oeddwn i'n ffarwelio â Rini fu'n gyfaill da i mi am bum diwrnod tra bo'r cerddwyr ym Mharc Cenedlaethol Los Alerces. Daeth y bws mini'n llawn o bobl oedd yn llawn o de Cymreig. Dyma Rini yn rhoi cilogram o de mate yn anrheg i mi a ffwrdd â mi i Gabanios newydd. Ymlacio yna cyn yr asado. (Gwen Aaron)

Dydd Gwener, 13 Ebrill

Diddorol oedd croesi'r paith er fod pawb yn dweud fel arall. Cwblhawyd y daith mewn 7 awr ac roedd darnau o'r daith yn greigiau lliwgar amrywiol a chafwyd sawl enfys o'n blaen.

Yr oedd yn chwythu gormod i gael picnic felly gorfu inni fyta yn y minibys.

Wedi cyrraedd y Gaiman hir ddisgwyledig, setlo i mewn i Westy Tywi. Yn ein croesawu roedd Gwilym (brawd John o Bolivia) a oedd wedi cael siwrna chwithig i ymuno â ni yn y Wladfa.

Daeth Esyllt draw hefyd yno i'n croesawu ac roedd pawb yn teimlo reit gartrefol. (Carys)

Dydd Sadwrn, 14 Ebrill

Ar ôl ymweld â'r ysgol a'r Amgueddfa gyda Luned a Tegai, cafwyd trip o gwmpas yr ardal dan ofal Marli i weld y llefydd mwyaf diddorol, yr Amgueddfa, Tir Halen, Llain Las, Capel Bryncrwn, ayyb a chlywed hanes yr ardal.

Gyda'r nos braf oedd cael gwasanaeth diolchgarwch yng Nghapel Bethel. Rhai o'r cwmni yn ein gadael a chychwyn am adra. (Carys)

Dydd Sul, 15 Ebrill

John, Carys, Gwilym, Catrin, Iolyn, Eirlys, Haf, Gwen R
Mynd i weld Penrhyn Valdez mewn 2 gar. Andros o ffordd bell a llawer o ddiffeithwch ond pleser oedd gweld y bywyd gwyllt - guanacos, estrys, morloi, pengwyns, llwynog, armadilo ac yn y blaen. Ond dim morfilod (orca) y tro hwn (ond roedden nhw wedi bod yno 4 diwrnod ynghynt). (Carys)

Dydd Llun, 16 Ebrill

Catrin yn ein gadael ni heddiw. Treulio'r bore yn mynd o gwmpas y Gaiman - y tŷ cyntaf ayyb a chael te penigamp yn tŷ te Gwyn. Esyllt yn ymuno â ni a mynd â ni i weld y Lle Cul - golygfeydd hyfryd a gweld y machlud ar y ffordd yn ôl. (Carys)

Dydd Mawrth, 17 Ebrill

Gwen Richards yn mynd ar fws o Drelew. Y gweddill yn mynd am dro i Borth Madryn. Pawb yn emosiynol yn gweld yr 'ogofau' a sylweddoli mor anodd oedd i'r fintai gyntaf lanio mewn ffasiwn le. Erbyn heddiw Porth Madryn yn lle poblogaidd debyg i Llandudno.

Ffarwelio â Haf, Iolyn, ac Eirlys. (Carys)

Dydd Mercher, 18 Ebrill

John, Carys a Gwilym
Penderfynu mynd i weld y pengwins yn Puerto Tombo. Ar ôl awr o ddreifio sylweddoli nad oedd gorsaf betrol yn nunlle a gorfod mynd yn ôl i Drelew i lenwi (ar ôl gwneud y syms). Treulio pnawn difyr yn arsylwi yr adar a thynnu lluniau di-ri. Dychwelyd i'r gwesty yn Nhrelew.

Dydd Iau, 19 Ebrill

Mynd o gwmpas Trelew. Mynd i'r MEF i weld y dinosoriaid ac amgueddfa'r dre yn yr hen stesion. Sylweddoli ein bod wedi ei gwneud hi eto a'r siopau wedi cau yn y pnawn.

Gweld Capel y Tabernacl a siarad efo'r gofalwr a chael y fraint o fynd i mewn a sgwrsio am hanes y lle.

Wedyn gweld Neuadd Dewi Sant a swyddfa twristiaid Cymreig a swyddfa'r Eisteddfod, i gyd wedi cau yn anffortunus.

Mynd am yr awyren i fynd am Tierra Del Fuego a Gwilym yn mynd am ei fws yn ôl i Bolivia.

Dydd Gwener, 20 Ebrill

Bwrw glaw, gwynt a glaw, cenllysg, eirlaw ac wedyn glaw ac oer. Dilyn hynt Charles Darwin; Passage of Mt Beagle. Yn benderfynol o fynd i fyny y Beagle Channel dyma ni yn cerdded rhyw filltir i'r porthladd o'r lle gwely a brecwast. Wedi gwlychu cyn cyrraedd ac angen dillad glaw.

Trefnu i fynd ar gwch weddol fychan gydag arweinyddes oedd yn siarad Saesneg yn dda. Siarad efo cwpl o dras Cymreig a oedd wedi bod ar eu mis mêl ers 5 mis (ac wedi bod mewn priodas ffrind ym Mhorthmadog yn ddiweddar). Yr oedd y gwynt yn codi a hithau dal yn glawio'n drwm. Nid oeddem yn siŵr os buasai'r capten yn gallu mynd â ni i'r goleudy (Jules Verne, Lighthouse at the End of the World) ym mhen draw'r byd ond mi lwyddodd, ond mi roedd yn eithriadol o anodd tynnu lluniau gyda'r tonnau a'r gwynt a'r glaw heblaw fod y dwylo yn biws!

Mi aeth y cwch a ni reit i fyny i ynys yr adar, ynys y morloi ac wedyn glanio ar ynys Bridges am rhyw hanner awr i weld olion yr Indiaid sydd wedi marw allan yn llwyr. (Bridges oedd enw'r cenhadwr a ddysgodd iaith yr Indiaid a'i chofnodi).

Yn ôl i'r dre a chael pryd o fwyd a chynhesu a'r tywydd ychydig bach yn well.

Dydd Sadwrn, 21 Ebrill

Tywydd braf unwaith eto a mynd ar y trên i ben draw byd, 'Tren del Mundo'. Bron â cholli y tren gan fod dyn y tacsi wedi mynd â ni i'r terminal yn lle'r stesion. Sylwadau yn Saesneg a Sbaeneg a chlywed yr hanes diddorol y tu nôl i'r tren a'r ffordd oedd y carcharorion yn cael eu defnyddio i adeiladu'r carchar a chario y coed ar y trên.

Mynd am yr awyren a hedfan o Ushuaia i Buenos Aires i Madrid i Lundain i Fanceinion - i gyd yn gweithio fel wats heb ddim amser i sbario rhwng awyrennau. Byd bach! (Carys)