Ardal y Cnicht 26 & 27 Mai
Roedd dwy daith wedi eu trefnu … ond gan fod arolygon y tywydd am y Sul yn gaddo tywydd mawr, penderfynwyd gohirio'r daith gwersylla deuddydd o gwmpas ffiniau plwy' Beddgelert.
Daeth 17 ohonom i Gelli Iago ar gyfer y daith fer, hamddenol … Sharon (aelod newydd o Sir Fôn), Awen, Aron, Tegwen, Delyth, Anet, Rhian, Haf M, Gaynor a Gareth, Gwyn (Llanrwst), John Arthur, Alun (Bryneglwys), Rhodri, Llew Gwent, minnau a Morfudd (yn cyd-arwain).
Taith fer, gan fod cawodydd (trymion?) yn debygol at ddiwedd y prynhawn … dilyn y llwybr i fyny o Gelli Iago at Fwlch y Batel a rowndio i'r dde, yn hytrach na dringo'n syth at grib y Cnicht, gan ymuno a llwybr Croesor nepell o'r gwastad gwyrdd sydd o dan y copa creigiog. Paned a sgwrs … peth dal banana doniol gan Haf M … ac ymlaen i'r copa.
Diwrnod anhygoel o glir … loetran eto ar y copa (taith hamddenol oedd hi i fod de) … cyn dilyn y grib heibio i lynnoedd y Biswail a'r Adar a stop am ginio. Ymlaen i'r gogledd-ddwyrain a throi i'r gogledd a dilyn y ffens sy'n arwain at grib Ysgafell Wen a Llynnoedd y Cwn.
Ymlaen at Lyn Edno, a gan fod amser yn caniatau, i fyny a ni i gopa creigiog Moel Meirch … map OS metrig yn dangos 607 metr ond tydio ddim cweit yn cyrraedd y dwy fil … 1991 troedfedd. Panad bach eto, yna i lawr drwy'r grug a dilyn y llwybr hyfryd uwch Afon Llynedno, heibio Hafodydd Brithion ac allan ar dop yr allt sy'n dringo o Nantgwynant i Nanmor. Roeddem wedi gadael un car yno yn y bore … i arbed cerdded lawr y lon yn ôl i Gelli Iago.
Dim son am y glaw!
Pawb wedyn yn cyfarfod yng Nghaffi Gwynant, Nantgwynant am baned a chacen a sgwrs!
Adroddiad gan Maldwyn
Lluniau gan Anet a Maldwyn ar Fflickr