HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwmstradllyn Rhagfyr 29


Taith Nadolig

Daeth 17 ohonom at Lyn Cwmystradllyn ar ôl y Nadolig, sef Hywel Madog, Delyth, Gwen Aaron, John Arthur, Gwyn (Chwilog) a Lois, Gwyn Williams, Janet, Llew a Dyfir, Margiad a'r plant Gwenno, Catrin, Ifan a Martha, Elizabeth a Rhys, heb anghofio Cai y ci.

Taith hamddenol oedd hi – braf oedd cael tywydd sych ar ôl deuddydd gwlyb iawn. Bu Hywel Madog yn son am rywfaint o hanes yr ardal. Roedd y gwynt yn ofnadwy o gryf, felly dim ond rhai o'r criw aeth i gopa Moel Ddu.

Roedd y golygfeydd yn eithaf clir – llifogydd mawr yn afon Glaslyn i'w gweld yn y dyffryn. Aethom heibio Tai Cochion, yna ymlaen heibio Gorllwyn Uchaf a fferm Ynys Wen. Taith braf iawn.

Adroddiad Delyth Evans

Lluniau gan Gwyn Williams ar Fflickr