Braemar a Mynyddoedd y Cairngorm, Chwefror 2007
Roedd y daith i'r Alban eleni yn hollol wahanol gan i mi hedfan efo Dylan, Alwen a Ceri o Lerpwl i Aberdeen gan logi car yno i'n cludo ymlaen i Braemar. Profiad gwahanol ond dewis amheus o ran arian a'r amgylchedd.
Roedd Alan wedi trefnu lle i 23 ohonom mewn bythynod pren cysurus a chyfleus ar dir y Braemar Lodge ar gwr y pentref. O'r diwrnod cyntaf roeddem wedi rhannu'n finteioedd bach ar gyfer ein teithiau a'r drefn yn newid o ddydd i ddydd. Ymunodd Dr Gwen a chriw'r awyren dros y pedwar diwrnod buom yn cerdded a chawsom gwmni Cen Penmachno, Meic, Rheinallt a Sam hefyd ar rai o'n teithiau; cawsom ambell gip ar rai o'r lleill yn diflannu o'n blaenau o dro i dro! Roedd ehangder y mynyddoedd eto'n drawiadol, yr unigedd ac olion hen bentrefi weithiau'n drist a'r bywyd gwyllt yn hynod. Synnais o ddarllen i'r wraig frodorol olaf i siarad Gaeleg yn Braemar farw dros ganrif yn ol; er gwaetha pawb a phopeth mae gennym le i ddiolch !
Diolch yn fawr iawn i Alan am drefnu unwaith eto.
Adroddiad gan Llew ap Gwent
Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr
Lluniau:
Diwrnod 1
- Cychwyn oer a chynnar yn Glen Muick (Glyn y Moch)
- Dylan ar Lochnagar - Cac Carn Beag yn y cefndir
- Dr Gwen yn cael hoe fach!
- Copa Cac Carn Beag 1155 m
- Copa Carn a Choire Bhoidheach 1110 m
- Mwynhau'r eira caled
- Taith hir at y ceir ar hyd glannau Loch Muick
Diwrnod 2
- Copa Carn a Gheoidh 974 m - roedd y GPS yn gysur
- Y gefnen yn arwain at Carn Aosda
Diwrnod 3
- Copa Glas Maol 1068 m
- Y ptarmigan yn reit ddof ..
- .. a'r 'sgwarnogod hefyd
- Ceri a 'sgwarnog wrth ei draed
Diwrnod 4
- Carn an Tuirc (1019 m) dan eira newydd
- Alwen a Ceri yn y gwynder mawr
- Copa Cairn of Glaise 1064 m
- Dau ptarmigan y tro hwn !
- Glen Calater, paned a dwy awr o gerdded at y ffordd