HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa Dydd Calan 2008


Pymtheg ym Mhen y Pas yn barod i fentro ar ddydd Calan. Aeth 8 dros y Grib a 7 am llwybr PYG.
Gwledda! ar y copa a mentro barn ar y cwt newydd ar ben Wyddfa, rhai aelodau am i'r Clwb ddanfon cwyn swyddogol i'r Parc am safon y pensaerniaeth! (Glorified railway embankment! Grisiau mawr ofnadwy ar y copa!).

7 ymlaen am Lliwedd i gwblhau'r bedol gyda'r craidd caled i'w gweld yn diflannu i gyfeiriad bar gwesty'r Pen y Gwryd.

Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

O.N. nid yw'r farn a nodwyd o angenrhaid yn adlewyrchu barn Y Clwb

Adroddiad gan Dylan Huw

Lluniau gan Dylan Huw ar Fflickr