Teithiau Penrhyn Gŵyr Mai 2-5
Braf iawn oedd ymweld â phenrhyn Gwyr unwaith eto wedi ein harhosiad yn Horton dros Ŵyl Fai 2003. Y criw y tro hwn oedd Geraint, Meira, Anet, Linda, Carys, Haf, Iona, Arwyn, Clive, Rhiannon, Dyfir, fi fy hun, Gwyn ac Eirian a Catrin a Llinos. Roeddem yn aros mewn bythynnod cysurus ar Bank Farm am dair noson.
Bore Sadwrn roedd yn rhaid cychwyn yn gynnar i gyrraedd Rhosili erbyn 9.00. i gyfarfod a Bruce ac Alun Voyle a oedd yn ymuno a ni am y diwrnod. Erbyn amser paned roeddem wedi croesi’r sarn i ynys Pen Pyrod ac yn mwynhau blodau’r gwanwyn yn eu gogoniant. Roedd yn dywydd perffaith a’r golygfeydd a naws y lle yn wefreiddiol. Yn ôl dros y sarn wedyn am ginio ar y tir mawr ymhell cyn i’r môr gau yn ôl dros ein llwybr. Wedi bwyta ymlaen drwy’r eithin ysblennydd ar hyd llwybr yr arfordir, heibio ogof Paviland a Culver Hole, i Borth Einon a’n llety yn Horton.
Rhosili oedd ein man cychwyn bore Sul hefyd a’r tro hwn roedd Nia Williams wedi ymuno a ni am ran o’r daith. Cychwyn heibio’r eglwys ac i ben “mynydd” Rhosili i gael golwg iawn ar y bae enwog cyn troi i’r dwyrain a dilyn llwybr “Ffordd Gwyr” heibio eglwys Llanddewi, dros Gefn Bryn ac i lawr i Benmaen mewn da bryd i ddal y bws pedwar yn ôl at y ceir yn Rhosili. Er i’r diwrnod gychwyn yn gynnes a heulog erbyn y prynhawn roedd taranau i’w clywed a chawsom drochfa iawn cyn cyrraedd pen y daith, ond byr hoedlog fu’r glaw ac roedd yn sych, er yn niwlog, erbyn i ni eistedd am baned yn y caffi uwchlaw’r bae.
Bore dydd Llun roedd yn rhaid i rai droi am adre ond aeth y gweddill ohonom, wedi ffarwelio a Horton, am Oxwich i gerdded y llwybr o amgylch y pentir. Taith fer, ond hynod amrywiol ei golygfeydd a’i chynefinoedd, a oedd yn gorffen ar draeth Oxwich lle gawsom ginio cyn gwahanu. Un olygfa hynod sydd yn fyw iawn yn y cof oedd y cae llawn Clychau’r Gog a Briallu Mair ar lan cors Oxwich. Rhyfeddol.
Roedd y gymdeithas, wrth gwrs, yn felys ac yn hwyliog. Cawsom fwyd da a rhad y tair noson yn y dafarn sydd yn gwasanaethu’r llu ymwelwyr ar safle Bank Farm. Bank Farm lle bum ar lawer wyliau plentyndod - ein carafán ni yr unig garafán mewn cornel cae a’m chwaer a minnau’n nôl llaeth o’r ffermdy yn foreol - daeth tro ar fyd!
Adroddiad gan Llew Gwent
Lluniau gan Llew Gwent ar Fflickr