HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith Pistyll Aber Gorffennaf 6


Y Drum, Foel Fras, Garnedd Uchaf, Yr Aryg, Bera Mawr. Taith tua 18 km
Rhan o Wythnos Gerdded Conwy

Gyda rhagolygon y tywydd yn gaddo glaw trwm, mellt a tharanau. Braf oedd cael cwmni saith o gerddwyr brwd i ymuno hefo ni ar y daith. Tri aelod o'r clwb; Gwen, Llew a Tegwen a phedwar o'r wythnos gerdded Conwy; Owen o Gerrig y Drudion a thri o ddysgwyr, John o Fanceinion, Rosemary o St. Helens a Tamsin o Dregarth.

Cychwyn y daith drwy gerdded yn hamddenol i fyny'r ffordd Rhufeinig ac yna cael seibiant i drio dyfalu beth oedd y siapiau rhyfedd wedi eu naddu ar y cerrig wrth groesffordd Ffridd Newydd. Hoel hogi arfau hwyrach? Neu rhyw fath o fwrdd chwarae gemau?

Ymlaen i gopa'r Drum a chael cinio yng nghysgod Carnedd y Pendorth Boeth. Yna heibio Foel Fras a draw at y Garnedd Uchaf. Cyfarfod tad a mab o Dorset ar y copa. Y tad yn 86 mlwydd oed ac yn dathlu ei benblwydd drwy ddringo copa 3000 troedfedd. Ar ôl sgwrs dyma'r mab yn gofyn i ni ganu cân i'w dad gan mae'n debyg mae dyma'r tro olaf iddo gerdded yn Eryri. O dan arweiniad Llew dyma pawb yn dechrau canu Oes Gafr Eto? Cododd yr hen greadur ar ei draed a chanu fel eos. Roedd yn gyfarwydd â phob gair!

Wedi'r adloniant dyma ni draw at yr Aryg, heibio i Bera Bach, dros y Drosgl cyn disgyn i lawr at droed y pistyll. Erbyn hyn roedd yr haul yn tywynu'n boeth a braf oedd cael sefyll o dan chwistrell y pistyll. Dyma'r unig wlybaniaeth a gawsom drwy'r dydd. Peidiwch o choelio'r dyn tywydd!

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel ar Fflickr