HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Carn Ffoi a Phen Dinas, Gogledd Penfro 6 Rhagfyr


Ardderchog oedd cael cynifer o’r gogs (gan gynnwys Cadeirydd y Clwb) yn ymuno â selogion y de ar ddiwrnod rhyfeddol o braf yn y Preseli. Daeth dau ddwsin ynghyd ym Mhwll Gwaelod, rhai yn aros yng nghanolfan Mitch ym Mharc y Gors ger Blaenannerch.

Ar ôl dilyn llwybr yr arfordir am y dwyrain, o gilfach i benrhyn, troi wedyn am y de, dros y briffordd, a dringo i ben Carn Ffoi, un o chwiorydd Carn Ingli. Roedd yr olygfa o’r arfordir yn anhygoel. Torri i lawr wedyn drwy gyrion coedlan hynafol y warchodfa, ac yna aeth rhai ymlaen i gwblhau ffigwr wyth y daith o gylch Pen Dinas, â’r haul ym machlud yn goch.

Da oedd gweld aelodau’r gogledd a’r de yn cyd-gerdded a dod i adnabod ei gilydd yn well, ac roedd pawb yn gytûn y dylid hybu hynny yn amlach. Diolch i Mitch am drefnu’r daith, ac am y croeso a gafodd y criw preswyl yn ei ganolfan ym Mharc y Gors – heb sôn am y bwyd !! – wrth fwrw’r Sul yno.

Adroddiad gan Rhys Dafis

Lluniau gan Morfudd Thomas, Richard Mitchley a Rhys Dafis ar Fflickr

Capsiynnau:

3. Pen Dinas o Garn ffoi
4. Garn Ffoi
5. Yr Arweinydd
7. Wpsydes!