HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Coety a’r Blorenge Tachwedd 8


Daeth 13 ynghyd ym maes parcio isaf Blaenavon (SO 252 086) ar fore gêm Cymru – De Affrica i wneud pedol Cwm Afon Lwyd. Yr her oedd cwblhau’r daith mewn pryd i weld y gêm am 2.30 y pnawn!

Cafwyd ysbaid o dywydd sych a chlir rhwng dwy storm, a hynny’n caniatáu inni weld lliwiau hydref pen ucha’r Cymoedd a’r Mynyddoedd Duon ar eu gorau. Taith gyda’r cloc oedd hi – codi o’r cwm heibio’r Pwll Mawr i ben Mynydd Coety (llun 1) cyn troi am y gogledd ar hyd y grib, ac yna i lawr i’r bwlch uwchben y Gilwern. Cylchu i’r dwyrain, wedyn, uwch Cwm Llanwenarth (llun 2), a dringo ysgwydd orllewinol y Blorenge nes dod i olwg y Fenni odanom, a Phen y Fâl ac Ysgyryd Fawr yn y cefndir. Cododd y tywydd, gan roi cip inni o Ben y Fan yn y gorllewin, Pen y Gadair Fawr i’r gogledd, a’r Moelfryn (Malvern) i’r dwyrain tros wastadedd gogledd Mynwy.

Troi’n ôl tros Garn Blorenge wedyn (llun 3) am Flaenavon, a chyrraedd y Rifleman’s Arms â’r hanner cyntaf ar ei ganol a Chymru’n dechrau codi stêm. Os siomedig oedd y canlyniad, roedd y bwyd yn dda!

Uchafbwynt y diwrnod oedd cyflwyno rhodd a diolch yr aelodau i Iolyn am ei waith diwyd a diymhongar yn hybu datblygiad cangen y de dros y degawd diwethaf (llun 4). Mwynhewch eich cartref newydd yn ardal Harlech, Iolyn ac Eirlys, ond peidiwch â bod yn ddieithr.

Adroddiad gan Rhys Dafis

Lluniau gan Guto Evans ar Fflickr