HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Panorama Pen Llŷn Ionawr 9


Ychydig iawn o gyfnodau sych oedd yna yn ystod yr wythnos yma, ond yn ffodus iawn fe gadwodd y glaw draw a doedd dim niwl hyd yn oed ar odra’r Eifl i’n taith dydd Mercher. Cyfle felly i’r deg ohonom fwynhau'r golygfeydd panoramig o Benllyn.

’Roedd wyth wedi manteisio ar y bysiau i’n cludo i Drefor ac adref wedyn.

Cychwyn o bentref Trefor a chymryd y llwybrau trwy’r caeau i waelodion dwyreiniol yr Eifl. Mae’r hafn ar y llethr yma yn arwain at y bwlch rhwng yr Eifl a’r mynydd uwchben chwarel ithfaen Trefor. Doedd yna ddim digon o amser i ymweld â chopa’r Eifl na Nant Gwrtheyrn ond yr oedd y llwybr i Garreg Llam heibio i’r Bwlch yn rhoi golygfeydd o’r holl benrhyn. Lle cyfleus yma i aros am baned cyn dilyn y llwybr arfordirol i gyfeiriad eglwys Pistyll a chael cip ar fedd Rupert Davies (Maigret) wrth fynd heibio. Croesi’r ffordd wedyn ac i fynu’r ochor serth er mwyn amgylchynu Mynydd Nefyn a dod lawr y llwybr i Nefyn. Taith a gymerodd bron i bump awr a hynny yn eithaf pwyllog.

Adroddiad gan Gwyn

Lluniau gan Anet ar Fflickr