HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo Creigiau Trefor Gorffennaf 12


Mae Creigiau Eglwyseg yn ymestyn tua 5 km o Greigiau Trefor wrth Gastell Dinas Brân i Graig y Forwyn wrth Pen y Byd (Land's End). Mae na thua 800 o ddringfeydd ar y clogwyni ond ein bwriad Dydd Sadwrn oedd dringo rhai o'r dringfeydd wrth Greigiau Trefor. Mae yma amrywiaeth o ddringfeydd traddodiadol a 'sport'.

Mae dringfeydd sport wedi ei bolltio felly nid oes angen rhoi amddiffynion yn y graig ond clipio carabiner i mewn i'r bollt.

Wedi cyfarfod yn y maes parcio a chael sgwrs hefo'r cerddwyr (ar eu ffordd i weld y Cloc Rhewllyd!) dyma roi cynnig ar ddringfeydd ar y Mur Amheus. Alan, Cliff a Dylan yn dringo'n hyderus ar safon yn codi fel oedd y dydd yn mynd yn ei flaen. Symud ymlaen wedyn i Glogwyn y Reilffodd a dringo nifer o ddringfeydd traddodiadol.

Er y cawodydd o law ar gwynt cryf roedd pawb wedi mwynhau. Diolch i Nia am ymuno â ni ac hefyd diolch i Rhodri am y peint yn Nhafarn y Sun ar derfyn y dydd!

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel ar Fflickr