HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Lôn Wen, Moel Smytho, Moel Tryfan Chwefror 13


Cychwynnodd y daith o Gae’r Gors ar fore Mercher gwanwynol. Arweiniodd Dewi Tomos ni ar hyd Y Lôn Wen, tros gopa Moel Smytho ac o gwmpas Moel Tryfan gan rannu ei stôr o wybodaeth am hanes yr ardal a chysylltiadau Kate Roberts yn arbennig. Roedd y baned a’r gacen ar ddiwedd y daith yn dderbyniol iawn. Diolch yn fawr i Dewi a chymwynaswyr Cae’r Gors.

Adroddiad gan Anet

Llunau gan Anet ar Fflickr