Dyffryn Nantlle Medi 17
Daeth mis Medi â thywydd braf o’r diwedd a chychwynnodd pymtheg ohonom o Dalysarn ar fore heulog cynnes. Dilyn llwybrau’r llechi roedd y daith yn bennaf, i fyny drwy’r chwarelydd uwchben Tanrallt at Faen y Gaseg ac ymlaen at Nebo cyn troi i lawr am Lanllyfni a heibio Caer Engan.
Roedd golygfeydd rhan nesaf y daith yn rhai go annisgwyl yn Nyffryn Nantlle – gwinllanoedd a pherllannau.
Cawsom groeso gan Iola yn Pant Du a chyfle i weld arfbais teulu Bodfel uwchben y lle tân yn yr hen dŷ (a John Arthur yn ein sicrhau nad oedd unrhyw gysylltiad rhyngddo a’i achau o!) Bydd gwinoedd Pant Du yn barod yn y flwyddyn 2010, felly dyna rywbeth i edrych ymlaen ato. Yn ein blaenau wedyn hyd lwybrau’r Cilgwyn cyn dychwelyd i Dalysarn.
Adroddiad gan Anet a Haf
Lluniau gan Anet a Haf ar Fflickr
Capsiynau
- Defnydd gwych o lechi lleol - crawiau
- Brasgamu ar ddechrau'r daith ...
- Ar gyrion Talysarn
- Arfbais Bodfel yn hen ffermdy Pant Du - cyndadau John Arthur?
- Yr hen risiau cerrig yn troelli y tu ôl i'r lle tân yn ffermdy Pant Du
- Pant Du, sy'n dyddio o'r 1600au
- Aeron yr hydref
- Heulwen mis Medi
- Crib Nantlle
- Pwy ydy hwn sgwni? Cliw yn y llun!