HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Meirch a Bwlch Ehediad Hydref 15


Peiriant talu yn Pont Bethania rwan, ers pryd sgwn i?
Craffti iawn me fi!!! Dim son yn y papur !

15 yn cychwyn – JAJ a Sian, Rhiannon H J, Morfudd, Anet, Haf, Rhian, Arfon, Twm G, Arwyn J, Gwyn, John P, Llew G, Gwen R a J W.

Cychwyn i fyny llwybr cyhoeddus drwy'r ganolfan allan i ffordd Blaen Nantmor, Bryn Bedd, Hafodydd Brithion – y ddaear yn socian ar ôl glaw ddoe. Buasai welis yn fwy addas!!

Dilyn Afon Edno i fynu at y llyn, ac ymlaen i Foel Meirch erbyn cinio hwyr. Gweld amser yn brin a'r tywydd yn cau, felly gadael bwlch Ehediad at eto!!

Diwrnod braf hirach hwyrach?

Lawr yn ôl ac i gaffi Gwynant i rai gael gloddesta!

Adroddiad gan John Williams

Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr