Kala Pattar, Nepal 21 Mawrth – 8 Ebrill 2008
Dyma ddyddiadur taith gan Ann Elizabeth Roberts yn adrodd hanes rhai o aelodau'r Clwb ar daith i Nepal. Diolch iddi am rannu eu profiadau gyda ni. Os am fanylion y cwmni sy'n trefnu'r teithiau hyn clicier ar y ddolen HONLluniau ar Fflickr
Dydd Gwener Groglith, 21 Mawrth 2008
Roedd yn oer iawn ac yn bwrw cenllysg wrth gychwyn gyda Medwyn i dŷ Morfudd, Hefin a Llion ym Methel erbyn 2pm.
Cyrrhaeddodd Susan, Rowland, Alwena, Ian, Gary, Idwal ac Anne Till o gwmpas yr un amser a minnau.
Ffarweliais â Medwyn.
Cyrhaeddodd y bws mini ar amser a llwytho’r trailer bychan gyda’n bagiau mawr. Cychwyn ar y daith i Fanceinion a chodi John Arthur ar y ffordd yng Nghyffordd Llandudno. Aeth y dreifar i fyny ffordd gul oddi ar y gylchfan i godi John Arthur ond caeth dipyn o drafferth i fagio’r bws efo’r trailer bach yn ôl i’r gylchfan.
Hedfan o Fanceinion ar amser - 8.15pm a chyrraedd Doha tua 6.05am. Gan fod ychydig o oriau o ddisgwyl yma cyn hedfan ymlaen i Katmandu aeth John Arthur i’r ‘ystafell dawel’ i gysgu heb i neb wybod. Pan ddaeth yr amser i ni fynd ar yr awyren i Katmandu doedd dim sôn am John Arthur. Roedd pawb yn bryderus ei fod am golli’r awyren ond dywedodd y ferch ifanc yn y bwth tocynnau i ni beidio â phoeni gan y bydd yn galw ddigon uchel amdano ar y ‘tannoy’. Aeth pawb i lawr am y bws bach i fynd â ni i’r awyren a gadael i Morfudd a Rowland i redeg o gwmpas i chwilio amdano. Bu bron iawn iddo golli’r awyren!
Dydd Sadwrn, 22 Mawrth 2008
Cyrraedd Katmandu a chael croeso mawr gan Kamal. Cawsom garland o flodau lliwgar o gwmpas ein gyddfau a llwytho’r bws mini efo ein bagiau a mynd i westy Manalu, Katmandu rhwng 5pm a 6pm.
Roedd dreifio yn Katmandu yn wyllt iawn a phawb yn canu cyrn ar ei gilydd. Roedd golwg ofnadwy ar y strydoedd gyda thua troedfedd neu ddwy o wastraff wedi hen gasglu ar ochr y ffyrdd a phobl yn cerdded trwyddo fel tasant ddim yn gweld yr holl fudreddi.
Cyrraedd ein gwesty a chaeodd giatiau’r gwesty ar ein holau ac roedd fel byd arall - distawrwydd o’r diwedd. Roedd ffrynt yr adeilad yn ddel iawn, a’r lobi, ystafell fwyta yn edrych yn iawn hefyd. Lloriau a grisiau marbl.
Roedd y lle yn hollol dywyll – dim trydan tan oedd y generators ymlaen a hynny am oddeutu 2½awr y dydd!!
Nid oedd digon o le i bawb yn y gwesty a bu i Susan a Rowland orfod symud ystafell ac wedyn symud gwesty er mwyn gwneud lle i bawb!
Ar ôl setlo i’n hystafelloedd, aethom allan gyda Kamal i dŷ bwyta ar ben to rhyw adeilad. Roedd yn gynnes iawn yno ac yn braf cael eistedd allan a gwylio’r bywyd ar y strydoedd oddi tanom. Cefais stecan dda efo brandi yn llosgi arni a dau gin a thonic.
Dydd Sul, 23 Mawrth 2008
Brecwast yn y gwesty. Roedd digon o ddewis bwyd ar gael – a dewisais sudd mango i gychwyn, yna ychydig bach o uwd, crempog a banana, muesli a llefrith, bacwn, sausages bychain, tomatos a thatws efo garlic a nionod a dwy baned! Roedd rhaid sicrhau fod gen i ddigon o egni i gerdded am ddeg diwrnod.
Pawb yn ymgynnull yn y lobi a gweld ein bagiau o ddillad ac esgidiau yr oeddem wedi dod fel anrhegion i Kamal a’i deulu. Roedd pawb ohonom wedi bod yn hael iawn - roedd o leiaf tua saith pâr o esgidiau cerdded.
Ar y ffordd yn y bws mini at yr awyren i Lukla fe godwyd brawd ieuengaf Kamal - Tec. Cawsom dipyn o fraw gan nad oeddem yn disgwyl neb arall i ddod ar y bws. Tra roedd y dreifar yn mynd rownd rhyw gornel fe neidiodd Tec ar y bws heb i’r bws stopio o gwbl!
Hedfan i Lukla - taith o tua 40 munud ac yr oedd yn brofiad anhygoel mewn awyren fach iawn oedd yn dal tua phump teg o bobl. Roeddwn yn sgrechian a chwerthin pan oedd yr awyren yn ysgwyd. Cawsom ‘cotton wool’ i roi yn ein clustiau a melysion i sipian - enw’r melysion oedd ‘Magic Shake’.
Roedd heidiau o bobl yn chwilio am waith fel sherpas/arweinwyr taith gerdded yn ein disgwyl yn Lukla, ond wrth gwrs Kamal a’i deulu oedd yn arwain ein criw ni.
Cael cinio ysgafn yn Lukla am 11 y bore. Llwyed o fîns, tatws wedi ffrio a llysiau. Roedd gen i dipyn o gur yn fy mhen erbyn hyn.
Cyfarfod ein sherpas a gweddill yr arweinwyr yma Ram, M.T, Cesar a’r porthmyn Enwau: …………
Gwelsom fod rhai ohonynt yn gwisgo'r dillad a’r esgidiau a roddwyd gennym yn anrheg iddynt.
Cychwyn ein taith gerdded ar ôl cinio. Roedd yn daith o dair awr i Phakding i uchder o 2640 m. Roeddem yn cerdded ar i lawr yn mynd trwy bentref Lukla lle'r oedd ychydig o siopau ar hyd ochr y llwybr. Roedd yna ddigon o doiledau allanol yn union fel y disgrifiodd Morfudd - cwt simsan yn hongian dros ochr llwybr gyda thwll yn y llawr pren!
Gwelsom lawer o gerrig mawr iawn wedi eu cerfio gyda’r mantra ‘Om Mani Padme Hun’ ac wedi eu lliwio mewn du a gwyn Roedd ‘mani stones’ - cerrig bychain wedi eu cerfio a’u casglu at ei gilydd mewn rhai mannau ar hyd y llwybr. Gwelsom nifer o ‘prayer wheels’ - rhai wedi eu paentio’n lliwgar ac eraill mewn haearn tebyg i gopr.
Roedd plant bychain o gwmpas y strydoedd ac yn gwenu arnom ac yn dweud ‘Namaste’ (hello). Roedd rhai plant bychain iawn yn debyg i dair oed gyda phowlen fawr yn plicio tatws. Gwelsom ddynion yn defnyddio peiriant gwnïo yn nrysau eu tai. A phobl yn trin y tir ar gyfer plannu. Blodau bychain fel primulas piws golau i weld yn tyfu ymhob man, rhododendron i weld bron a dod i flodau, a choed o flodau magnolias mawr hardd a rhai coed efo blodau bychain pinc.
Gadewais y garland o flodau a wnes dderbyn gan Kamal yn maes awyr Katmandu ar yr ail bont – pont bren fechan oedd wir angen ei thrwsio a chanddi ochrau isel iawn. Mae’r bobl yn meddwl y byd o’u pontydd yn Nepal, ond roedd pawb ohonom ofn croesi hon.
Cyrraedd Holiday Inn yn Phakding - lodge pren i gyd oedd hwn ac yr oeddem yn cael ein bwyd mewn adeilad arall wrth ymyl.
Rhannu llofft efo Anne Till. Dywedodd Morfudd wrthyf gymryd Diamox gan nad oeddwn yn teimlo fel bwyta fy nhe ac roedd gen i gur yn fy mhen. Roedd hyn yn arwydd o salwch uchder meddai Morfudd.
Mi es o gwmpas y pentref gyda John Arthur a galwodd rhyw ddyn arnom i ddod ato. Roeddwn yn meddwl mai eisiau dangos ei siop i ni oedd o, a chan nad oedd gen i arian arnaf i wnes fynd ato. Mi aeth John Arthur ato ac aeth y dyn ag ef i ddangos yn ei wraig yn bwydo’r babi!
Mynd i’r ystafell gymunedol a sgwrsio â dwy o ferched o Iran. Mona ac Ashraff oedd eu henwau ac roeddynt wedi gorfod dod i lawr o’r uchder gan eu bod wedi bod yn sâl iawn ac roedd golwg wael dal ar Ashraff. Roedd Mona yn siarad Saesneg da iawn ond doedd gan Ashraff ddim Saesneg o gwbl. Roedd Mona yn ferch hawdd iawn i siarad gyda hi. Roedd yn ddeallus iawn am Brydain ac am Gymru fach ond pan ddywedodd Anne wrthynt fod y rhan fwyaf ohonom yn deulu dywedodd Mona mai ei dealltwriaeth hi oedd nad yw oedd pobl Ewrop yn gwneud llawer a’u teuluoedd! Dyna ni wedi dysgu gwers iddi.
Roedd Mona ac Ashraff wedi penderfynu y byddant yn siwio eu harweinydd o Iran am fynd a hwy i fyny at Gokyo heb aclimateiddio o gwbl.
Entrepreneur go iawn oedd perchennog yr Holiday Inn – roedd wrthi’n brysur yn adeiladu adeilad arall wrth ochr ei westy.
Roedd oglau toiledau dychrynllyd tu allan i’r lle bwyd.
Asynnod a cheffylau welsom yn cario llwythi yn yr ardal yma. Gwelsom dri o hogiau ifanc yn cario coed 3” x 4” - tua 5 coedyn gan un, 4 gan un arall ac 8 gan y llall.
Dydd Llun, 24 Mawrth, 2008
Roedd y daith o bum awr o’n blaen heddiw i gyd ar i fyny i Namche Bazaar - uchder o 3445 m. Roeddwn yn teimlo’n sâl a chur yn fy mhen a phenderfynais gymryd Diamox arall ben bore. Fe fu raid imi roi fy mag cefn i M.T. ar ôl cinio gan nad oeddwn yn teimlo’n dda o gwbl a chymryd Diamox arall a paracetamols.
Pontydd hir iawn ar y daith a chodi yn serth ar ôl cinio. Y cur pen yn dechrau ildio ac yn dechrau teimlo’n well. Roedd gen i boen yn fy mol a pins a needles yn fy nwylo ar ôl y Diamox.
Roedd y tywydd yn boeth iawn. Ni wnes dynnu llawer o luniau heddiw. Roedd llawer iawn o Yaks ar y llwybr a phobl yn cario llwythi mawr. Roedd y sefyllfa yn beryglus iawn weithiau yn enwedig pan oedd y Yaks yn pasio’r hogiau ifanc efo’r coed ar lwybr serth a chul.
Cyrraedd gwesty Himalayan Hotel yn Nanche Bazaar -3445 m. Byddwn yn aros yn y gwesty yma am ddwy noson. Lle gweddol fawr a nifer o ystafelloedd bychain yn rhannu toiledau drewllyd i ddweud y lleiaf.
Wedi hen ymlâdd, disgyn ar y gwely ac wrth ddisgwyl am ein bagiau mawr fe dynnodd Morfudd fy llun - o diar!
Cael gwybod y gallwn gael ystafell en-suite am 15$. Penderfynodd Anne a minnau reit sydyn i newid ystafell a bu i rai o’r hogiau ifanc (5 ohonynt efallai) ddefnyddio ein cawod boeth a oedd yn cael ei gynhesu efo nwy (Ian – wedi cymryd tua ¼awr yn y gawod).
Roedd yn braf iawn cael cawod weddol gynnes ond roedd golwg ofnadwy ar fy ngwallt ar ôl y gawod gan y bu rhaid i’w adael i sychu yn ei amser ei hun.
Cawsom de mewn ystafell gymunedol/bar yn y gwesty - lle da a chynnes yn cael ei gynhesu gan stove yng nghanol yr ystafell. Roedd pawb o’r sherpas/guides yn ymgynnull o gwmpas y stôf i geisio cynhesu gyda’r nos.
Roedd grŵp o blant ysgol tua 14oed yno efo eu hathrawon o Singapore am gerdded hyd at Tyangboche i weld y monastry. Roedd rhai ohonynt i weld wedi hen flino.
Dewisais Yak Steak mewn grefi gyda sglodion a llysiau i de – nid oeddwn yn gallu bwyta llawer ond roedd yn iawn.
Dewis brecwast erbyn y bore – hyn oedd y drefn ar gyfer y daith i gyd.
Prynais wisgi i MT fel yr addewais. Es i gydag ef i’r bar a gofyn iddo ddewis ei wisgi ac er mawr syndod i mi, dewisodd botel fechan. Roeddwn yn falch iawn o roi’r botel iddo gan y gwyddwn na fuaswn wedi cyrraedd Namche Bazaar oni bai iddo gario fy mag cefn a doedd y botel ond yn costio tua £3.20! Fe rannodd MT y botel gyda’i gydweithwyr o gwmpas y stôf oedd yng nghanol yr ystafell gymunedol.
Dydd Mawrth, 25 Mawrth 2008
Cysgais yn well neithiwr ac wedi deffro heb gur yn fy mhen. Cael brecwast o uwd a banana a the du ac yn teimlo llawer gwell ac yn barod i gerdded y pedair awr at yr Everest View Hotel.
Roedd heddiw yn ddiwrnod aclimateiddio ac roedd John Gwynedd yn meddwl bod hynny yn golygu cerdded o gwmpas y gwesty!! Dipyn o sioc iddo pan fu i ni gychwyn cerdded am 8.30am i fyny ochr serth iawn o stepiau cerrig. Susan wedi blino heddiw ac yn gorfod rhoi ei bag cefn i M.T. Roedd Roland wedi bod efo cur yn ei ben hefyd a dal ddim yn teimlo’n iawn. Roedd John Gwynedd fel hogyn yn ei hugeiniau ac yn cerdded yn y blaen efo’r criw ifanc.
Gwelsom y cip cyntaf ar Ana Dablam - waw, gwych. Ar y ffordd gwelsom yr airstrip byrraf welais erioed. Gwelais hefyd eryr aur y wlad oedd yn gleidio ar i lawr y dyffryn oddi tanom.
Cerdded ymlaen hyd at Everest View Hotel a adeiladwyd gan y Japanese - diolch byth roedd stepiau llai yma. Gwelsom Everest (Sagarmanthe i’r Nepali) a Chomolungma i’r Sherpa, am y tro cyntaf jyst cyn cyrraedd y gwesty - doedd hwn ddim cystal ag Ana Dablam!
Eisteddom tu allan yn yr haul yn yfed coffi a thynnu lluniau. Yna fe bwyntiodd Morfudd at ddyn oedd yn gwisgo côt fel un hi. Fe glywodd hwnnw a deallodd yn iawn beth roedd Morfudd wedi dweud - Cymro glân o Gaerdydd a dau Sais o Went gydag ef. Bu Morfudd yn hyrwyddo cwmni Kamal iddo a rhoi cyfeiriad y safle we iddo. Roeddynt hwy wedi talu £1,600 am yr union daith a ninnau. Roedd ein grŵp ni wedi talu o gwmpas £1,080 (£640 am hedfan yno a £420 am y daith gerdded).
Ar y ffordd yn ôl i lawr i Namche Bazaar gwelsom Gymraes o Gaerfyrddin gyda’i gwr oedd yn Saesneg a oedd wedi gwneud yr Everest Marathon ar un tro. Byd bach – Cymru ymhob man.
Cyn mynd yn ôl i’r gwesty, ymweld â’r Sherwi Khangba Centre - Sherpa Culture Conservation & Promotion. Roedd yn dda iawn gydag ystafelloedd yn dangos sut oedd y Sherpa yn byw, eu gwisg draddodiadol, ac ati. Roedd yno hefyd ystafell weddol fawr yn dangos llun pawb yn cynnwys sherpas oedd wedi dringo Everest gan nodi dyddiadau a nodi pwy oedd wedi marw a sut.
Deall gan MT mai priodasau wedi’u trefnu oedd y drefn yn Nepal tan yn ddiweddar iawn.
Wedyn i’r gwesty i gael cinio am 2.30pm - roeddwn yn llwgu erbyn hyn. Dewis omlet caws a dŵr poeth – y calachia (te du) yn rhoi dŵr poeth i mi (indigestion)! Yr enw Nepal am ddŵr poeth ydi tato pani.
Mynd i siopa o gwmpas Namche Bazzar efo Anne - digonedd o siopau bychain - cytiau i ddweud y gwir. Prynais ddwy orchudd clustog i Mam, modrwy gyda’r mantra arni i William a gwisgais y fodrwy am weddill y daith, bocsys bychain i ddal jewellery neu debyg i Nia ac Anwen a dwy freichled un i Karyn, cariad William ac un i minnau a Prayer Wheel bychan i fynd adref. Prynais gap wedi ei weu â gwlân Yak i guddio fy ngwallt blêr. Prynodd Anne ddwy orchudd clustog hefyd - un efo twll llygoden ynddi. Ceisiodd gael hon yn rhatach ond anodd iawn oedd bargeinio gyda pherchennog y siop yma.
Gwelsom Ian nifer o weithiau ar y strydoedd - dwi’n siŵr ei fod wedi prynu llawer iawn ac yr oedd yn amlwg wrth ei fodd yn bargeinio. Dwi heb weld neb yn mwynhau ei hun fel Ian ers talwm.
Gwelsom yr hogiau ifanc oedd yn cario’r coed trwm hefyd yn mynd yn pasio ein gwesty am 6.30pm– methu coelio eu bod wedi cario’r coed trwm i fyny hyd at Namche Bazaar.
Lle diddorol iawn gyda gwartheg a chŵn ymhob man ar y strydoedd pridd.
Aeth Anne a minnau i German Bakery i gael donut a phaned - donut sych a chaled iawn! Wedyn cyfarfod Morfudd yn rhyw westy roedd wedi aros ynddo o’r blaen a chael coffi a rum - neis iawn. Roedd rhan fwyaf o’n grŵp ni yno ac roeddem i gyd edrych drwy’r ffenestr ar weithwyr yn paratoi tir at adeiladu tu allan. Roeddynt yn sefyll mewn rhes ac yn pasio cerrig o un i’r llall a rhai eraill yn plygu heyrn yn y ffordd draddodiadol.
Cael cyri cig i de. Tro Susan i brynu wisgi i MT heddiw! Mynd i’r gwely am 9pm. Diwrnod da iawn.
Dydd Mercher, 26 Mawrth 2008
Roedd yna gi wedi bod rhedeg yn ôl ac ymlaen oddi tan y gwesty yn y nos ac yn cyfarth. Dim llawer o gwsg. Gwelais fod rhywun wedi rhoi asgwrn iddo erbyn y bore.
Deffro efo sŵn gweithwyr yn torri cerrig am 6.15am! Roedd yn haul braf a phenderfynodd Anne a minnau dynnu llun y mynydd oedd dan eira gyda’r haul yn disgleirio arno.
Cael brecwast o uwd a banana a chael llenwi ein fflasgiau dwr gan y gwesty a chychwyn cerdded am 8am tuag at Tyangboche – 3867 m. Taith o chwe awr.
Roedd llawer o yaks ar y ffordd. John Arthur wedi gadael ei gamera ar ôl yn y fan ble cawsom seibiant cyn cinio. Aeth un o’r Sherpa gydag ef a daethant o hyd iddo wrth ryw lwc.
Cawsom ginio mewn lle o’r enw Phunki Tenka. Caeth Anne dipyn o anffawd fan yma - disgynnodd ei chamera i lawr twll y toiled allanol ! Doedd neb am gynnig mynd i nôl ei chamera ond ni brytesodd M.T., aeth i nôl y camera i Anne druan. Golchodd y camera’n lan gyda ‘Wet Wipes’ a thorri’r cord i ffwrdd - mae pawb ohonom wedi gweld gwerth i’r ‘Wet Wipes’ erbyn hyn. Dwi’n credu fod angen i Anne brynu potel fawr o wisgi i M.T. heno!
Ar ôl cinio roeddem yn cerdded ar i fyny ac nid oedd yn hawdd iawn. Golygfeydd bendigedig ar hyd y ffordd. Cyrraedd Tyanboche a chael mynd i mewn i’r Monastry uchaf yn y byd, ond heb esgidiau - roedd oglau dychrynllyd yno! Yma roedd y cerflun mwyaf yn yr ardal o’r Dalai Lama. Nid oeddem yn cael hawl i dynnu lluniau tu mewn. Ar ôl bod yn y Monastry, aethom i adeilad arall i weld ffilm, ‘Sacred Land’. Roedd pawb wedi blino’n arw ac yn ei chael yn anodd canolbwyntio ar y ffilm. Mwyaf sydyn dyma John Arthur yn disgyn i gysgu - yn llythrennol.
Roedd Morfudd wedi sôn a chanmol y Bakery oedd wrth ochr y Monastry a gwnaethom ein ffordd yn syth amdano. Cefais gacen afal Danish gyda phaned o goffi Lle bendigedig am gacennau - roedd yno ddewis o dair gwahanol fath o gacen siocled a dwy wahanol fath o gacen afal a digon o ddewisiadau eraill. Roedd yn adeilad hardd iawn gyda’r to a’r waliau wedi ei baentio a llaw.
Cerdded i lawr i’r Ana Dablam Lodge - caban pren yn Deboche. Ar y ffordd gwelsom ‘moose’ oedd yn anghyffredin iawn a bu i mi fod yn lwcus o gael llun ohono.
Cawsom de yma - tatws wedi ffrio efo garlleg a slots a dau wy ar ei ben. Roeddem yn eistedd wrth ochr y stôf boeth ofnadwy rhan fwyaf o’r noson. Aethom i’r gwely am 8.10pm - neb yn cael yfed alcohol heddiw hyd dan fyddwn yn ôl yn Namche Bazaar ar y ffordd i lawr. Doedd John Gwynedd ddim yn credu hyn.
Cysgais drwy’r nos ac roeddwn yn gynnes iawn.
Dydd Iau, 27 Mawrth 2008
Codi am 6am a chael brecwast o uwd. Roedd y pacio yn ymdrech fawr bob dydd wrth symud o un Lodge i’r llall bron bob dydd. Roedd y Sherpa a’r arweinwyr yn llenwi ein fflasgiau dwr ac yn sicrhau bod gennym ddŵr i’w yfed bob dydd. Roeddynt yn ofalus iawn o bob un ohonom.
Cychwyn cerdded am 8.15am am Dingboche – taith o chwe awr i uchder o 4235 m. Stopio am ginio a phawb yn gorfod cymryd ‘noodle soup’ - fy ffefryn. Nid oedd Hefin yn hoffi ei soup, felly mi wnes fwyta dipyn o’i fwyd ef hefyd.
Bu i ni groesi pont fechan gydag ochrau isel iawn arni heddiw. Croesais ran fwyaf o’r pontydd law yn llaw ag un o’m chwiorydd dewr ac yr oeddwn allan o wynt yn lân wrth groesi bob un ohonynt.
Cyrraedd Snow Lion Lodge yn Dingboche ac ar ôl setlo yn ein llofftydd, penderfynodd rhai ohonom fynd am dro drwy’r pentref. Cyfarfod tri Chymro, cwpwl o Faes Meddyg, Caernarfon a thad y ferch o Lanfairpwll. Alan a Beti Edwards a’i thad, Gareth Williams. Roedd Beti yn gweithio yn y BBC ym Mangor ac Alan yn y Brifysgol. Roedd ei thad wedi ymddeol o’i swydd fel anaethsatydd yn Ysbyty Gwynedd. Roedd Alan yn enedigol o’r Bala. Tra roeddem yn sgwrsio fel sylwodd Anne Till ei bod yn perthyn i Gareth a Beti trwy Olive Beddgelert. Roedd Olive yn gyfnither i Gareth Williams Llanfairpwll.
Dywedodd y Cymry fod yna Internet Café newydd agor ym mhen draw’r llwybr ers chwe diwrnod, felly i fyny â ni. Roedd tri cyfrifiadur yn gweithio yn yr adeilad oedd heb ei orffen. Roeddynt yn cael trafferth i gysylltu heddiw ac yn araf iawn ac aethem yn ôl i’r lodge. Roedd John Gwynedd wedi aros ar ôl i geisio anfon ei e-bost a bu’n llwyddiannus. Penderfynodd y gweddill ohonom y buaswn yn trio eto yfory gan y byddwn yn aros yn Dingboche am ddwy noson i aclimateiddio.
Dydd Gwener, 28 Mawrth 2008
Codi am 7.30am. Cawsom bowlen o ddŵr cynnes bob un i ymolchi - er y gofynnodd un o’r sherpas i mi os oedd Anne a minnau eisiau un bowlen o ddŵr cynnes i rannu !!! Erbyn hyn, roeddem yn defnyddio o leiaf tri Wet Wipe i olchi ein hwynebau heb sôn am weddill ein cyrff. Roedd y dŵr toiledau wedi rhewi yma ddydd a nos. Ar ôl ymolchi, golchais fanion ddillad a’u gosod ar y lein ddillad tu allan i’r lodge.
Cawsom frecwast am 8am o uwd ac afal.
Diwrnod aclimateiddio heddiw a cherdded i fyny Dingboche Ri i uchder o 5100 m. Taith galed iawn gyda slabiau o gerrig mawr ar grib y mynydd. Roedd Anne, Susan a Hefin eisoes wedi troi’n ôl - roedd Susan wedi cael trwyn gwaed, ac Anne a Hefin wedi cael digon.
Fi oedd y diwethaf i gyrraedd y brig er i M.T ofyn i mi droi’n ôl cyn y slabiau cerrig ar y brig, roeddwn yn benderfynol o gyrraedd gweddill y grŵp a phan gyrhaeddais canais ‘ ‘Rwy’n canu fel cana’r aderyn …’ Er bu raid i M.T. fy helpu dros ryw fymryn o lwybr cul iawn gyda dibyn serth un ochr ar y brig ei hun.
Doedd dod i lawr dim yn hawdd iawn chwaith – llithro yn aml a bu i M.T. orfod gafael yn fy mag i fy nal yn ôl unwaith.
Cael cinio o omlet a chips wedyn a mynd am dro i’r Internet Café i geisio anfon e-bost unwaith eto at Medwyn, Nia ac Anwen.
Ar y ffordd, mi wnaethom fynd i weld y Cymry yn eu hystafell ginio a chafwyd sgwrs hir gyda hwynt tynnu lluniau ein gilydd yno. Addawont y buasent yn dod i’n lle ni gyda’r nos. Roedd yr ystafell yn gynnes iawn, yn wahanol iawn i’n hystafell gymunedol ni. Roeddynt hwy yn aros mewn tent, er hynny meddant, roedd yn gynnes yn y tenti. Roedd yn bwrw eira mân bnawn heddiw.
Methais anfon e-bost trwy AOL a chael llwyddiant o’r diwedd, trwy gyfeiriad e-bost Yahoo, Morfudd.
Aethem i’r ystafell gymunedol i sgwrsio. Pan ddaeth yr alwad i fynd i’r tŷ bach, sylweddolais nad oedd gennyf fy lamp pen. Er hynny, es ymlaen i ben draw’r adeilad a heibio’r llofftydd ac i’r toiled. Camgymeriad mawr oedd mynd yno heb lamp! Dim syniad lle'r oedd y toiled llawr ond gwaeth fyth - panics! Methu dod i hyd i’r drws i fynd allan. Gan fod dŵr y toiled wedi rhewi a ninnau yn gorfod defnyddio dŵr o’r bwced ar ein holau, bydd llawr y toiled yn sicr o fod yn beryglus iawn ymhen ychydig oriau, yn enwedig ar fy ôl i!
Cael te am 6.30pm a chafwyd dipyn o drafferth efo’r trydan. Mi wnaeth Gareth, Alun a Beti ymuno â ni am 7.45pm a sgwrsio am tua hanner awr.
Aethom i’r gwely am 8.15pm - gwely a chlustog galed iawn.
Dydd Sadwrn, 29 Mawrth 2008
Codi am 7.15am ac roedd eira ar y ddaear. Cawsom bowlen o ddŵr cynnes i ymolchi unwaith eto.
Ar ôl brecwast o uwd a mêl, cychwyn cerdded am 8.15am. Roeddwn yn gweld hi’n anodd cerdded bore 'ma - wedi blino’n llwyr, ond ar ôl y seibiant cyntaf, es i’r ‘5th gear’ ond yn ei chael hi’n anodd fel ddoe. Wedi sylwi fy mod yn teimlo’n sâl bob bore ond yn iawn ar ôl cinio. Doedd dim llawer o fynedd gen i heddiw i dynnu lluniau chwaith. Gweld y cofgolofnau i’r rhai bu farw ar yr Himalayas - lle anial iawn. Roedd y cerdded yn haws ar ôl fan hyn.
Cael cinio yn Lobuche - tatws wedi ffrio efo caws wedi gratio drostynt. Dywedodd Susan wrthyf y buasai’n well i mi fynd i’r gwely am ychydig i ddadflino a dyna wnes. Roedd y gwely yma yn braf iawn â chlustog esmwyth diolch i’r drefn. Roedd y toiled yn llawer gwell hefyd, er nid oedd toiledau’r dynion gystal yn ôl y sôn. Roedd y lodge yma yn newydd iawn a heb orffen cael ei hadeiladu - roedd yna dwll drwodd yn y gornel uchaf o’n hystafell i ac Anne. Roedd y corridor o gerrig reit fawr, fel llwybr yr Wyddfa, rhwng y llofftydd yn oer iawn, er roedd hyn yn wir ymhob lodge roeddym wedi aros ynddynt. Roedd yn bwrw eira mân yma bob hyn a hyn ac yn oer iawn.
Nid oedd Anne yn teimlo’n dda heddiw a phenderfynodd gymryd ‘Diamox’ ac yr oedd yn well ymhen hanner awr!
Cawsom wybod y byddwn yn codi am 3.30am bore yfory ond gadael ein bagiau mawr a’u codi ar y ffordd i lawr. Deallais y byddwn yn cerdded am 4am gyda’r lampau ar ein pennau a chael brecwast yn Gorak Shep - taith o ddwy awr ac wedyn i ben Kala Pattar - taith o 2½awr os byddwn yn gallu ei wneud te! Bydd yn goleuo tua 4.45am meddant.
Dydd Sul, 30 Mawrth 2008
Codi am 3.30am a cherdded yn y tywyllwch efo lampau ar ein pennau. Roedd yn daith weddol anodd oherwydd y tywyllwch yn fwy na dim a’r eira mân ar y ddaear a ninnau heb hanner deffro ac ofn disgyn. Roedd yn brofiad gwych ac roeddwn yn teimlo fel taswn mewn byd arall. Ymhen ychydig gwelsom lampau bychain yn is lawr yn mynd mewn rhes. Roedd fy nwylo’n oer iawn a doedd y cael ‘pins a needles’ yn helpu dim chwaith. Taith hir ac oer iawn.
Cyrraedd Gorak Shep yn oer ofnadwy (roedd fy nannedd yn clecian) a chael brecwast yno. Nid oeddwn yn hapus o gwbl a dywedais efallai na fyswn yn mynd ymlaen ac na fyddaf yn dod ar daith byth eto!! Ymddiheuriadau am y tantrum.
Teimlo’n well ar ôl brecwast a meddyliais o ddifrif os oeddwn am fynd ymlaen i ben Kala Pattar neu beidio. Penderfynais gymryd ‘Diamox’, wrth gwrs ar ôl cymryd y dabled, doedd gennyf ddim dewis ond cerdded ar i fyny. Doedd dim ond 50% o ocsigen yn yr uchder yma ac roeddwn yn gwybod yn iawn y buasai’n daith anodd, ond ar ôl cyrraedd cyn belled â hyn, roedd rhaid gwneud ymdrech i fynd i fyny.
Cychwyn cerdded ar draws y gwastad hir tuag at Kala Pattar ac ar i fyny'r holl ffordd wedyn . Roedd yn anodd iawn ac yr oeddwn yn gorfod cymryd seibiant bob ychydig o lathenni i gael fy ngwynt. Yn fuan iawn, penderfynodd Anne i droi’n ôl ar ben ei hun ac ymhen ychydig aeth Hefin i lawr hefyd. Roeddwn yn cerdded yn araf gyda Susan, Rowland a John Arthur a’r Sherpa - Kamal os ydw i'n cofio’n iawn, wrth fy sawdl. Sylwais Rowland yn fy mhasio ond nid oeddwn wedi sylweddoli bod Susan wedi troi’n ôl i lawr tan siaradais ag ef ar y copa. Roedd Kamal yn gofyn bob hyn a hyn am gael cario fy mag cefn, ond yr oeddwn yn benderfynol o gyrraedd y copa gyda’r bag ar fy nghefn - ni fuasai ru’n fath heb fy mag cefn. Fel roeddwn yn mynd yn nes at y copa roedd y llwybr yn mynd yn greigiog ac yn anodd iawn gweld pa ffordd i fynd felly gofynnais i Kamal arwain i fyny at y copa.
Eistedd i lawr wrth ochr y person agosaf - John Gwynedd, a rhoi fy mhen ar ei lin. Wedi hen ymladd! Roedd yn anodd cael y nerth i agor fy nghas gamera i dynnu llun hyd yn oed. Ar ôl i ni gyd gyrraedd, mi ganodd y rhai ohonom oedd gan wynt ar ôl, ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Tynnu fwy o luniau ar y copa a rhyfeddu ar y mynyddoedd mawr o’n hamgylch a’r Khumbu Glacier. Dangosodd Morfudd yr Everest Base Camp i ni o fan hyn.
Cerdded yn ôl i lawr a chael paned sydyn yn Gorak Shep efo Susan. Roedd Anne a Hefin wedi mynd ymlaen i Lobuche. Cerdded ymlaen i Lobuche a gwelsom fod y porthmyn wedi pacio ein bagiau mawr. Nid oeddynt yn gwybod fod rhai ohonom yn rhannu bagiau efo rhai mewn ystafelloedd eraill ac yn sicr roedd popeth ymhob man, ond dim ots - yr oeddwn yn falch iawn nad oeddwn yn gorfod pacio.
Cael cinio yn Lobuche. Alwena wedi cael annwyd trwm ac yn teimlo’n sâl ac Ian efo cur mawr yn ei ben. Aeth Morfudd ac un o’r porthmyn allan at Alwena i edrych ar ei hôl. Mi wnes innau berswadio i Ian i fwyta ychydig a rhoi paracetamols iddo wedyn.
Roedd Anne a Hefin wedi clywed am ddyn oedd yn aros yma neithiwr, oedd yn disgwyl hofrennydd i’w gludo i lawr – roedd yn gweld dwbl.
Cerdded ymlaen i Pheriche - pell ofnadwy!! Roeddwn yn oer iawn ac wedi blino yn ofnadwy. Roedd John Arthur, Anne a minnau yn cerdded gyda’n gilydd gydag un neu ddau borthmon. Roedd John Arthur wedi blino’n ofnadwy ac eisteddodd am ychydig ar garreg mewn ffos fechan i ddod at ei hun a rhoddodd ei fag cefn i’r porthmon. Roeddem yn gweld y pentref Pheriche o bell a doedd yn dod ddim agosach.
Roedd hi’n dechrau tywyllu pan gyrhaeddom y gwesty yn Pheriche. Roedd yn westy moethus iawn a chawod boeth ar gael am bris.
Ar ôl cinio ysgafn, penderfynu cael cawod, ond yn methu cyrraedd y ‘lever’ oedd yn y nenfwd i droi’r gawod ymlaen a gorfod mynd i lawr i’r bar i ofyn am help. Daeth y dyn i fyny a rhoddodd ddarn o weiran i mi i dynnu’r ‘lever’ i lawr. Gweithiodd hyn yn iawn ond nid oeddwn yn gallu ei droi’n i fyny yn ô i’w droi i ffwrdd, felly es i nôl Alwena iddi hi gael cawod ac wedyn mynd i lawr at y dyn yn y bar. Doedd ddim llawer o fynedd gan y dyn yn y bar ac nid oedd yn fy nghoelio nad oeddwn yn gallu troi’r gawod i ffwrdd efo’r weiran - y gwir oedd, erbyn hyn roedd gymaint o stem yno, doeddwn ddim yn gweld y ‘lever’.
Mynd i lawr i ystafell gymunedol a sychu fy ngwallt o flaen y stôf gydag Alwena. Alwena yn sgwrsio gyda dyn o Rwsia am ychydig - roedd yn cerdded gyda thri phorthmon ar ben ei hun o un copa i’r llall.
Gwely braf yma.
Dydd Llun, 31 Mawrth 2008
Codi am 7.30am a chael brecwast o uwd. Cychwyn cerdded am Tengboche. Gweld tri o blant mewn gardd a rhoi paced o fisgedi iddynt a dderbyniais ar y bore ar y ffordd i fyny Kala Pattar os ydw i'n cofio’n iawn. Daeth y tad allan i sgwrsio gyda ni am dipyn tra roedd Llion yn dangos yr arth fach oedd wedi dod gydag ef ar y daith ac yn egluro iddynt y bydd yn dangos lluniau'r arth ar ei hantur yn yr Himalayas i blant Ysgol yr Hendre Caernarfon ar ôl dychwelyd yn ôl i Gymru. Roedd y plant bach yma yn dysgu Saesneg yn yr ysgol ac amlwg yn deall ni yn reit dda.
Gwelsom lawer yaks ar y ffordd yn cludo llwythi trymion iawn, er enghraifft, dwy galor gas ar un yak, coed a plywood ar un arall. Roedd y rhan olaf o’r daith tuag at Tengboche yn codi’n serth trwy’r coed ac roeddwn wedi blino.
Cael cinio ar y ffordd – dim yn cofio ymhle!
Cyrraedd Tengboche a mynd i’r ystafelloedd i ymolchi gyda ‘Wet-Wipes’. Yna gorweddais ar draws y gwely am ychydig ac yn sydyn sylweddolais fod yna rhywun yn edrych arnaf - merch ifanc yn gwisgo fleece gyda fflag Canada arni. Roedd yn syllu arnaf ac yn nesáu ataf a phan wnes i symud fy mhen, gofynnodd a oeddwn yn sâl. Roeddwn y ddwy ohonom wedi dychryn ein gilydd!
Aethom i’r ‘Bakery’ i gael cacen afal Danish a the lemwn. Roedd Anne wedi cael te Rhododendron ac wedi prynu bocs i fynd adref. Roedd yr hogiau ifanc wedi dechrau chwarae gemau efo’r porthmyn unwaith eto, ond wedi blino mwy y tro yma - roedd y porthmyn yn cofio’n iawn beth oedd y gosb o fethu dal y bel - nifer o ‘press-ups’!!!
Cawsom fynd i mewn i’r monastry unwaith eto a phawb yn tynnu eu hesgidiau fel o’r blaen. Y tro yma, roedd yna wasanaeth ymlaen a gwelsom y mynachod yn siantio gweddïau.
Cael te wedyn yn y ‘Bakery’ - egg fried rice yn y tywyllwch du gyda channwyll neu ddwy ar y byrddau. Penderfynodd rhai ohonom wisgo ein lampau pen i weld y bwyd yn iawn!
Aethom drosodd i’r ystafell gymunedol lle'r oedd nifer o bobl o Wisconsin America yn cael bwffe. Cefais le i eistedd ar un o’r byrddau gyda rhai o’n grŵp cerdded ni. Nid oedd y goleuadau ‘strip light’ yn gweithio yn iawn a chododd yr unig fynach yn yr ystafell i fyny a sefyll ar gadair o dan y golau a llithro ei law ar draws y tiwb - ac fe gawsom oleuni! Fe welodd un dyn arall hyn a cheisiodd yntau wneud yr un fath, ond ni weithiodd. Ysgrifennais yn fy nyddiadur i ddal i fyny.
Dydd Mawrth, 1af o Ebrill 2008
Codi am 6.15am a phacio cyn brecwast fel y drefn arferol erbyn hyn. Roedd yn bwrw eira ac roedd gorchudd ysgafn o eira ar y ddaear. Clywais fod yr Americanwyr o Wisconsin wedi gwirioni gweld hi’n bwrw eira neithiwr ac wedi ceisio tynnu llun yr eira yn disgyn o’r awyr.
Ar y ffordd i gael brecwast o gornflakes efo llefrith poeth am 7am yn y ‘Bakery’ gwelsom fod rhywun wedi brwsio’r eira o flaen y monastry, y siop fechan a’r ‘Bakery’. Ceisiodd John Gwynedd ein gwneud yn ffŵl Ebrill drwy ddweud ei fod wedi clywed bod teigr wedi lladd dyn yn Chitwan ddoe, ond roeddwn rhy sydyn iddo.
Fel roedd pawb yn eistedd o gwmpas y bwrdd brecwast, safodd Kamal i fyny ar ei draed i ddweud wrthym y buasem yn gorfod cerdded yr holl ffordd i Lukla heddiw oherwydd y tywydd drwg. Roedd pawb ohonom wedi llyncu’r stori am funud neu ddau tan y cofiais eto ei fod yn ddiwrnod ffŵl Ebrill.
Cychwyn cerdded am 7.30am drwy’r llwch a’r plu eira mân. Cerdded am oriau, tua thair neu bedair awr i Namche Bazzar. Penderfynodd Morfudd redeg i’r Internet Café tra roedd y cinio yn cael ei baratoi ac aeth rhai o’r hogiau i newid arian.
Roedd yr haul yn trio dod allan, ond yr oedd yn teimlo’n oer. Dychwelodd Morfudd efo newyddion da iawn i mi. Roedd wedi derbyn ymateb i’m e-bost gan Nia yn dweud fod y meddygon wedi penderfynu bod Dion yn cael tynnu ei diwbiau chemotherapi o’i gorff ar y 24 o Ebrill a bod triniaeth Anwen ar ei gwaed i weld yn gweithio o’r diwedd gyda nifer y ‘platelets’ wedi dod i lawr i 700. Roedd clun Mam wedi dod allan o’i lle noson cyn i ni gychwyn i Nepal ac roedd Alwena wedi mynd gyda hi i Ysbyty Gwynedd. Roedd Mam wedi bod yn sâl yn Ysbyty Gwynedd ac wedi gorfod aros yno tan ddydd Iau, 27 Mawrth. Roedd mewn ystafell ar ben ei hun tra’n sâl. Bob, gwr Alwena oedd wedi mynd a hi yn ôl adref.
Ar ôl cinio, cawsom ein bagiau o anrhegion yr oeddem wedi prynu yn Namche Bazzar ar y ffordd i fyny ac roedd rhaid stwffio'r rhain i’n bagiau cefn rywsut neu'i gilydd.
Cerdded ymlaen i Monju trwy’r llwch a lot fawr o bobl. Roedd yn ceisio bwrw glaw bob hyn a hyn ar y ffordd i Monju. Ar y ffordd trwy’r pentrefi, stopiodd Alwena i chwythu ‘bubbles’ efo’r plant bach a ninnau yn tynnu eu lluniau.
Roedd nifer o bontydd hir iawn ar y daith a Ram yn neidio i fyny ac i lawr ar un ohonynt i’n dychryn. Ar hyd y daith, roedd nifer o Mani Stones, slabiau gweddol fychan o gerrig wedi eu cerfio efo’r Buddhist mantra arnynt - Om Mani Padme Hun.
Cyrraedd Monju. Roedd y lodge yn lle neis iawn gydag ystafelloedd clud a chafodd Anne a minnau ystafell olau braf - rhif 8 tro yma, ond nid oedd mwy o ystafelloedd beth bynnag. Roeddem wedi aros mewn o leiaf dwy ystafell rhif 9 neu gyda rhif 9 ynddo - fy rhif lwcus i. Rhain oedd yr ystafelloedd glanaf gyda’r toiledau glanaf ar hyd y daith, ac eithrio'r Yak Hotel oedd yn westy moethus ac yn ddrud meddai Kamal. Roedd yna ddigon o le yn ystafelloedd yma a theimlad glan iawn i’r holl lodge. Roedd yr ystafell gymunedol ar wahân tu allan gyda stôf gynnes yn cynhesu’r adeilad braf, tebyg i’r ystafell yn Lobuche. Mae'r rhain yn debyg iawn i dai gwydr - lle da i sychu dillad hefyd.
Gan fod fy mag cefn i’n drwm iawn gyda’r anrhegion rhannais fy mag olaf o ‘Wet-Wipes’ i bawb ymolchi cyn cael paned. Cefais siocled poeth - neis iawn. Ymhen tua 10 munud roedd pobman yn ysgwyd - nid oedd yr hogiau ifanc wedi teimlo daeargryn o’r blaen ac yn edrych mewn syndod. Cadarnhaodd Kamal mai daeargryn oedd.
Roedd gwraig y lodge yn glen iawn a dywedais wrthi mai'r lodge yma oedd y glanaf ar hyd y daith ac roedd yn falch o glywed hyn. Nid oedd y bwyd cystal ond roedd popeth arall yn gwneud i fyny am hynny. Cawsom baned bob un.
Dechreuais ymlacio ac archebu potel fawr o ‘Everest Special Brew’ - hwn oedd yr alcohol cyntaf i mi ers Katmandu! Roedd hwn yn reit gryf - 5.5% alcohol ac yn mynd i lawr yn dda. Penderfynodd pawb arall ymuno â ni. Roedd Anne ac Alwena ar y rum i helpu i glirio’r peswch meddant. Roedd John Gwynedd efo potel o rum hefyd a rhoddodd joch mawr yn fy nghoffi - cynhesais drwodd reit sydyn.
Ymunodd y porthmyn â ni a daethant a’r drwm a’r ffliwt allan a dechrau canu eu cân wladol ‘Rhesham Firiri’. Cododd John Gwynedd y canu gwerin - ‘Hen Feic Penny Farthing fy Nhaid’, a’r symudiadau wrth gwrs. Cawsom lot o sbort a dawnsio yn ystod y noson. Ar ôl rhannu potel arall o ‘Everest Special Brew’ gyda Morfudd aeth rhai ohonom i’r gwely tua 8.15pm. Arhosodd yr hogiau ifanc i fyny yn hwyrach. Daeth Daniel i’n hystafell i nôl ei ddillad nos o fag Anne yn ôl y drefn, tua 11pm. Clywais ef yn agosáu at y drws a rhoddais y golau ymlaen fel y daeth i mewn i’r ystafell. Safodd yn syn yn y drws ac yna gofynnodd pam yr oeddem yn cysgu efo’r golau ymlaen ac yna cwestiynodd os oedd ef wedi rhoi’r golau ymlaen!
Dydd Mercher, 2 Ebrill 2008
Codi am 7.15am a phacio. Cael brecwast am 8am. Roedd yn amlwg o’r holl boteli tu allan i’r ystafell gymunedol a thu mewn i’r adeilad fod yna dipyn o barti wedi bod neithiwr! Roedd Llion yn edrych yn sâl.
Diolchwyd i wraig y Lodge a thynnu lluniau efo hi ar stepen y drws.
Dechrau cerdded tua 8.45am – taith o tua 4awr ar i fyny meddai Kamal. Roedd wedi glawio ychydig neithiwr, felly dylai fod llai o lwch ar y llwybr gobeithio a minnau wedi rhoi trowser glan o’r diwedd.
Roedd M.T. wedi dechrau fy ngalw yn ‘helicopter’ ers Namche Bazzaar oherwydd fy mod yn siarad ag ef yn gyflym. Didi oedd pob un o’r porthmyn yn galw marched ac roedd Kamal yn fy ngalw i yn Big Didi, Morfudd yn Didi ac Alwena yn Little Didi. Roedd Ram ac M.T. bob amser yn hwyliog ac roedd Kamal yn glen iawn hefyd. Roedd Cesar yn fwy swil na’i frodyr/gefndryd? Roedd pob un ohonynt yn ofalus iawn ohonom, fel ‘guardian angels’ i ni - bob amser wrth ein sodlau os oeddem wedi blino ac yn gofyn a oeddem eisiau help i gario ein bagiau cefn.
Stopio am ginio ar y ffordd ac eistedd o gwmpas y byrddau tu allan a rhan fwyaf o’r marched yn ffyddiog am haul braf a rhoi hufen haul rhag llosgi ar ein hwynebau a’n breichiau. Wrth ddisgwyl am y cinio, daeth cymylau duon uwch ein pennau ac oerodd y tywydd a bu i ni gyd fynd i mewn i fwyta.
Ar ôl cinio, dechrau cerdded eto am ddwy awr ac yr oeddwn yn dechrau teimlo wedi blino erbyn hyn. Cerddais yn araf ymlaen drwy’r wlad a hithau’n bwrw glaw bob hyn a hyn.
Cyrraedd Lukla ac wedi blino’n llwyr. Lle budr iawn i ddweud y lleiaf. Mynd i’r gwesty, yr un gwesty lle wnaethom gychwyn y daith gerdded. Caeth Anne a minnau ystafell i lawr y grisiau efo toiled a sinc. Roedd cawod yno hefyd ond un oedd yn gweithio efo ‘solar power’ a chan na fu llawer o haul heddiw, doedd dim ‘tato pani’ (dwr poeth). Roedd yr ystafell braidd yn dywyll ac yn gwynebu’r ‘landing airstrip’ - jyst gobeithio na fydd awyren yn methu’r strip! Cawsom bowlen o ddŵr cynnes i ymolchi a braf iawn oedd cael y cyfle i ymolchi’r traed.
Dechreuodd lawio’n drwm a chymerais y cyfle i ddal i fyny efo’r dyddiadur yma.
Am 5 o’r gloch aethom i fyny’r grisiau i’r ystafell gymunedol/bar oedd yn cael ei chynhesu efo stôf yn y canol fel yr arfer, a chael paned o goffi a Twix. Prynodd Susan botel o win rhyngom (Susan, Morfudd, Anne, Alwena a minnau). Dechreuodd rhywun drafod lle i fynd i gerdded nesaf - rhai o’r syniadau oedd Corsica, Morocco a Kilimanjaro.
Ymunodd M.T. â ni a phrynodd Anne botel fawr o Everest Special Brew iddo. Bydd M.T. yn mynd adref i Lokim yfory, yr un lle mae Kamal yn byw.
Daeth pawb o’r porthmyn i mewn i’r ystafell ac yna rhannwyd yr arian (tips) oeddym wedi rhoi i’r porthmyn. Gofynnodd Morfudd i John Gwynedd ddiolch iddynt a galw arnynt fesul un i roi’r amlen oedd yn dal y ‘tips’ iddynt. Roeddynt i gyd i weld yn edrych ymlaen yn arw iawn i hyn ac yn wirioneddol falch o gael yr arian.
Ar ôl hyn, rhoddodd Kamal a phob un o’r porthmyn scarff ‘prayer’ i bob un ohonom. Ar ôl y traddodiad yma roedd gan bob un ohonom dros 10 o sgarffiau.
Dydd Iau, 3 Ebrill 2008
Codi’n gynnar iawn er mwyn dal yr awyren am 6.30am, ond ni chyrhaeddodd oherwydd ‘smog’ yn Katmandu. Daeth yr awyren fach i mewn o’r diwedd tua 9.45am ac roedd pob un ohonom yn edrych ymlaen at fynd i Katmandu i’r gwesty moethus oedd Morfudd wedi addo i ni. Taith hedfan o tua hanner awr i Katmandu.
Roedd y llwybr o’r gwesty i’r ‘airport’ yn ofnadwy o fudr gyda thraeniau agored ar ei hyd. Wrth ddisgwyl i fynd ar yr awyren yn yr ‘airport’ bach yn Lukla, prynais fagnet gyda llun y mynyddoedd arno i roi ar yr oergell adref.
Roedd yn anodd credu bod ein taith gerdded i ben ac ein bod yn symud o’r tywydd gweddol oer i dywydd cynnes iawn yn Katmandu.
Roedd Kamal wedi trefnu bws mini reit dda ar ein cyfer o’r ‘airport’ at y gwesty Tibet oedd wrth ochr y Radisson. Gwesty braf iawn efo en-suite a chawod i bawb a hyd yn oed teledu yn yr ystafell, er na wnaethom ei roi ymlaen.
Aeth bawb allan i eistedd ar y cadeiriau braf ar y patio ac archebu cinio – Chicken Chow Mein i bawb.
Cael cawod a golchi’n wallt yn iawn o’r diwedd a chefais ei sychu a’i sythu gyda sychwr a sythwr gwallt Morfudd. Cafodd Hefin, Rowland ac Idwal ‘shave’ dda iawn gan y barbwr lleol - ‘cut-throat shave a massage’ i’r pen a’r breichiau meddai Hefin.
Aethom i siopa i siop debyg i archfarchnad a phrynu 2 eitem o ddillad isaf a photel o ddŵr. Yna mynd yn syth ar fws mini i weld y ‘Swayambhunath Buddhist Temple (Monkey Temple)’. Gadawsom ein bagiau gyda’r eitemau a brynwyd yn yr archfarchnad ar y bws mini gan feddwl y byddwn yn dychwelyd i’r gwesty ar yr un bws - ond na, ond dyna fo dim ond gwerth tua 75 ceiniog gollais. Mae popeth mor rhad yma, mae’n anodd credu.
Pawb yn talu i fynd i mewn drwy’r giatiau. Lle prysur ofnadwy oedd Swayanbhunathe gyda phobl ar hyd y ffordd i fyny’r stepiau at y lle yn ceisio gwerthu crefftau a rhai yn begera. O gwmpas y temlau a’r siopau bychain yn gwerthu lluniau a chrefftau roedd nifer fawr o fwncïod ym mhob twll a chornel. Roedd yna dipyn o gŵn yno hefyd a golwg ofnadwy ar rai ohonynt oedd yn dioddef o’r ‘mange’. Roedd cŵn yn cael bywyd ci go iawn yn Katmandu. Cawsom 40 munud yma, ond doedd hynny ddim digon i Hefin - pawb yn disgwyl amdano ac yn methu ei weld yn unman. Roedd wedi mynd i brynu llun - llun da iawn hefyd o ddwy ddynes yn wynebu ei gilydd yn cnocio blawd neu wneud caws.
Mynd ymlaen wedyn i ganol Katmandu mewn bws mini arall i Durbar Square yr hen dref. Roeddem yn gorfod talu ychydig i fynd i’r rhan yma o Katmandu.
Roedd Padam, brawd Kamal yn ein tywys o gwmpas ac yn egluro popeth am yr adeiladau a’r dduwes fyw Kumari. Lle prysur a nifer o ymwelwyr o gwmpas.
Ar ôl mynd o gwmpas yr hen dref dechrau cerdded drwy’r strydoedd am ardal Thamel lle mae’r siopau gorau. Roedd y strydoedd yn arwain at ardal Thamel yn fwy prysur fyth ac yn berwi efo pobl a beiciau. Lle swnllyd ofnadwy. Roedd yna rali etholiadol ymlaen mewn un sgwâr ac ar hyd y ffordd roedd yna stondinau o ffrwythau, llysiau, sbeisys, cnau a chrefftau. Aeth darn o’m trowsus yn sownd yn un beic padlo - roeddynt yn pasio mor agos â hynny a diolch iddo am stopio te, neu baswn i ar y llawr heb drowsus.
Roeddwn yn falch iawn o symud ymlaen i ardal Thamel. Roedd digon o siopau i ni brynu anrhegion a dillad cerdded ac ati. Aeth Morfudd â ni siop un o deulu Kamal oedd yn gwerthu sgarffiau a pashminas cashmere. Prynais sgarff piws 100% cashmere. Roedd Morfudd wedi cael cais gan dri neu bedwar o’i ffrindiau i ddod a pashminas iddynt. Fe brynodd John Gwynedd (Morfudd a minnau yn dewis y lliwiau iddo) ac Idwal nifer o pashminas yno hefyd.
Aethom ymlaen i brynu rhai anrhegion – prynais anrheg i Simon, mab Medwyn o gortyn a charreg neu asgwrn yak arni efo’r cerflun ‘the good eye’ a’r mantra ochr arall iddi. Roedd rhai angen prynu dillad hefyd ar gyfer Chitwan.
Ar ôl siopa, mynd i Helen’s Restaurant gyda Kamal, Ram a Padam. Eistedd allan o gwmpas y byrddau ar ben y to i gael paned o goffi a chacen lemwn cheesecake a photel o Everest Premium Beer. Lle glan iawn gyda digon o ddewis bwyd?
Pawb yn mwynhau ymlacio a dangos yr anrhegion oeddem wedi prynu i’n gilydd. Nifer ohonom yn ffansio siaced Mammut ddu oedd un o’r hogiau wedi prynu a gofynnodd Morfudd i Padam pe bai’n fodlon nôl rhai i’r gweddill ohonom oedd eisiau siaced fel hyn. 17 Rps oedd pris y siaced, ond gan fod nifer ohonom yn cynnwys fi, wedi penderfynu prynu rhai, cawsom y siacedi am 11Rps. Anrheg i Medwyn.
Aethom i lawr i lawr nesaf yr Restaurant gan ei bod yn dechrau oeri ac i gael ein te. Cefais stecan ‘Hawaii’ (roedd pinafal, banana ac afal arni) efo digon o win.
Cawsom dacsi yn ôl i’r Gwesty Tibet am ychydig geiniogau - tua 70 ceiniog. Mwydro’r gyrrwr tacsi a dweud wrtho ‘you like your horns here don’t you’. Roedd pob cerbyd yn canu corn am ddim rheswm o gwbl. Lle dychrynllyd i yrru unrhyw beth ar y ffyrdd yn Katmandu - nid oes neb yn glynu at reolau ffyrdd.
Ar ôl cael ein gollwng yn y stryd oedd yn arwain at y gwesty, gwelsom Hefin mewn siop oedd yn gwerthu lluniau a phrynodd Hefin lun arall. Aethom i’r siop drws nesaf oedd yn gwerthu carpedi moethus ac roedd Rowland wedi ffansio carped hir mewn sidan oedd yn costio £1,200. Carped oedd hwn i’w roi ar wal neu mewn ystafell nad oedd yn cael llawer o ddefnydd. Gwelodd y gwerthwr nad oedd Rowland yn hapus efo’r pris a dywedodd wrthym dynnu ein hesgidiau i deimlo’r carped gyda’n traed. Fe wnaethom ninnau hyn jyst i blesio’r gwerthwr. Prynodd neb ddim carped yno wedi hynny.
Aethom i Westy Tibet a chael potel o gwrw plaen rhwng Anne a minnau.
Aethom i’r gwely tua 10.30pm gan fod angen codi’n fuan am 5.15am yfory i fynd i Chitwan National Park.
Dydd Gwener, 4 Ebrill 2008
Codi a phacio am 5.15am.Yr hogiau wedi aros i fyny neithiwr tan 4am ac roedd golwg wedi blino yn ofnadwy arnynt. Roedd tri neu bedwar ohonom yn pesychu’n arw ers ychydig ddyddiadau.
Cychwyn i Chitwan National Park drwy strydoedd Katmandu. Cymerodd tuag awr i fynd drwy Katmandu ei hun gan fod traffig ofnadwy ar y ffyrdd a phawb yn canu cyrn fel arfer. Roedd dau blismon ar un gyffordd ond yn gwneud dim, yn wir oedd un ar ei ffôn symudol, a’r traffig ymhobman - chaos llwyr, gyda cherbydau yn pasio bob ochr i ni. Gwelsom un fws yn pasio ni ar ei hochr ar yr ochr chwith lle nad oedd ffordd na phalmant i sôn amdano a dyn yn ceisio gwerthu papur newydd i ni drwy ffenestr ein bws. Erbyn hyn roedd yr hogiau yn cysgu’n sownd!
Taith hir o tua phum awr a blinedig ofnadwy ar ffordd droellog a thyllog iawn. Roedd nifer o bontydd cadarn a adeiladwyd gan Japan neu China ar hyd y ffordd ond roedd y rhain angen eu trwsio hefyd ond dim arian gan Nepal i’w cynnal. Cawsom seibiant am baned/diod ddwywaith ar y ffordd.
Cyrraedd Jungle Resort, Chitwan - ynys fawr iawn oedd fan yma. Bul-Bul2 oedd enw llety Anne a minnau. Enw aderyn oedd Bul-Bul. Llety braf iawn gyda digon o le ynddo. Roedd yna ddau wely sengl gyda silff a bwrdd bychan rhwng y gwlâu, cadair a bwrdd ac ystafell ymolchi dda hefyd.
Cawsom ginio yn syth ar ôl cyrraedd ac roedd pawb yn barod amdano erbyn hyn. Newid ar ein hunion i gael mynd ar gefn eliffant am 1½awr. Roedd y tywydd yn glos iawn yma.
Aethom drwy’r coed ar gefn yr eliffant – tri/pedwar ar gefn bob eliffant. Roedd gwe pry cop, siani flewog a lindys yn ein hwynebau ac ar ein dillad. Pawb yn cychwyn yr un ffordd ac yna yn gwahanu a dod at ein gilydd i le agored yng nghanol y coed ble roedd rhinoceros mawr gwyn.
Roedd yn storm o fellt a tharanau pan gawsom de yn adeilad canolog. Ar ôl ymolchi, roedd y tywydd yn sych unwaith eto ac allan a ni i eistedd o flaen yr afon a chael diod oer a gwylio am fywyd gwyllt o’n cwmpas.
Aeth Anne a minnau i’n gwlâu yn weddol fuan. Roedd y gwlâu yn braf iawn a chysgu drwy’r nos.
Dydd Sadwrn, 5 Ebrill 2008
Codi’n fuan eto am 6.15am - nid oeddem yn disgwyl hyn yma yn Chitwan. Cael paned yn unig cyn mynd ar gefn eliffant eto bore heddiw am tuag awr. Gwelsom deulu o geirw. Roedd rhai o’n criw ni wedi gweld arth yn croesi’r afon neithiwr.
Cawsom gyfle i olchi’r eliffantod a chael lot o sbort wrth wneud hyn. Roedd un eliffant yn mynnu lluchio pawb oddi ar ei gefn. Doeddwn i ddim yn ffansio mynd ar gefn eliffant na disgyn i’r dŵr budr.
Aethom i gyd ar ganŵ gyda warden y parc a cherdded am y pentref agosaf. Roeddem wedi rhyfeddu at sut oedd y bobl leol yn byw - roedd yn debyg i Affrica yma, gyda thai o fwd, cansen a tho gwellt ac ychydig o anifeiliaid ac ieir o gwmpas eu tai. Gwelsom lawer iawn o eifr, gwartheg ac ieir ar y ffermydd bychain. Roedd y pentref i weld fel un o’r 3ydd byd ond gyda thrydan yn rhai o’r tai ac ‘aerial’ teledu arnynt.
Daeth nifer o blant bychain iawn atom a bu i ni dynnu eu lluniau a dangos y llun iddynt wedyn. Roedd wynebau rhai ohonynt yn goch tywyll ac amlwg wedi bod yn bwyta mwyar oddi ar y coed. Aeth y warden a ni i gefn un tŷ i weld planhigyn oedd yn tyfu’n wyllt yno - y cyffur Mariwana oedd hwn. Sgwrsio am dipyn efo’r ddwy ferch ifanc oedd yn byw yna a thynnu fwy o luniau.
Roedd coed bananas a mangos yn tyfu yn y gerddi a chactws gan rai fel gwrych o gwmpas yr ardd.
Daethom ar draws ‘Vulture Sanctuary’ ble roedd cyrff anifeiliaid yn cael eu gadael yno iddynt ac yna gwelsom y ‘bone collection point’ !!
Teithio’n ôl ar y canŵ yn araf braf ar hyd yr afon a gweld crocodeil.
Ar ôl cyrraedd y Jungle Resort cawsom de, ymolchi’n sydyn a mynd i weld sleidiau a chael hanes Chitwan. Doeddent ddim yn lladd teigr peryglus tan oedd wedi llad tri dyn - dyna oedd y rheol yn Nepal. Dywedodd fod ganddynt restr rheolau ar wahân i bobl tu allan i Nepal, sef lladd teigr ar ôl iddo ladd o leiaf 15 Sais!!
Cawsom ein diddanu gan ddawnswyr Thara oedd yn dawnsio gyda choed ac fe ymunodd ein grŵp ninnau gyda hwy.
Wedyn mynd i fyny ar y feranda uchel awyr agored fel neithiwr. Roedd cannwyll ar bob bwrdd a chael potel o gwrw rhwng Anne a minnau. Aethom i’r gwely tua 10pm er mwyn codi bore wedyn am 5.45am!
Dydd Sul, 6 Ebrill 2008
Codi am 5.45am ar ôl cael cnoc ar y drws wrth gwrs! Roedd wedi bod yn noson stormus o fellt a tharanau, ac nid oeddwn wedi cysgu llawer oherwydd y storm a’r peswch. Gwelsom fadfall ar wâl y llety a aeth i guddio yn y nenfwd. Roedd Anne wedi gweld un yn yr ystafell ymolchi neithiwr hefyd. Roeddwn yn teimlo’n ofnus wrth godi yn y nos rhag ofn i mi sefyll ar y fadfall.
Yn syth ar ôl paned, aethom i gerdded drwy’r parc i graffu am adar. Gwelsom dipyn o wahanol adar y bore hwnnw.
Pacio cyn brecwast ac yna casglu cildwrn gan bawb o’r grŵp ar gyfer y staff. Talu bil y bar - 970Rps ac i ffwrdd a ni yn ôl am Katmandu.
Mynd ar y canŵ dros yr afon at y bws mini shablyd ofnadwy. Roedd dau o staff y Jungle Park ar y bws hefyd yn mynd adref am wyliau. Dreifio dros y caeau tuag at ffordd ac yna codi ychydig o bobl yn y pentrefi.
Cyrraedd yr ‘airport’ yn Bharatpur tua 10am. Tywydd clos iawn ac eistedd allan ar y palmant i ddisgwyl yr awyren. Gweld bod nifer o blismyn o gwmpas, dwi’n tybio gan fod yr etholiad pwysig iawn i Nepal yn nesáu.
Taith hedfan o tua hanner awr i Katmandu ac wedyn ar fws mini arall drwy’r strydoedd prysur a swnllyd i’r Gwesty Tibet yn ymyl y Radisson a’r Manaslu. Gwesty braf iawn.
Aeth Morfudd a ni i ‘Tom & Jerry’s Bar’ ac mi wnaeth pawb gael Everest Base Camp Cocktail - roedd brandy a vodka ac ati yn hwn a chawsom bowlenni o bopcorn ar y bwrdd.
Aethom i Bodhnath Stupa - Tibetan. Roedd hwn yn fawr iawn ac fe gerddom ar hyd lefel uchel o’r stupa. Cafodd Anne a minnau dynnu ein llun gyda hogyn ifanc mewn dillad hir gwyn a oedd yn un o grŵp o dri o bobl ifanc. Nid oedd un yn gyfarwydd iawn o ddefnyddio camera ac fe ddywedodd Anne wrthi ei bod wedi tynnu llun hi ei hun yn hytrach na ni. O gwmpas gwaelod y stupa roedd nifer fawr o ‘prayer wheels bychain’ mewn tyllau yn y wal gyda phedwar neu bump o’r prayer wheels ym mhob un a’r mantra Om Mani Padme Hun wedi eu nodi arnynt. Roedd pobl hyn Tibetan yn cerdded o amgylch y stupa yn troi’r ‘prayer wheels’ yma wrth weddïo.
Buom hefyd yn Tsamchen Gompa (???) oedd yr unig deml y gallwn gerdded i mewn iddi o’r safle yma. Lle wedi ei baentio’n hardd iawn a gwelais y cylchoedd bywyd wedi ei baentio ar y lefel uchaf ac roedd dau ddrws mawr yn arwain i mewn i’r deml. Pawb yn tynnu eu hesgidiau a cherdded i mewn a gweld bod ymwelwyr yn cael ei bendithio yno. Aeth Padam i gael ei fendithio ac yna aethom ninnau hefyd.
Cawsom fws i fynd â ni at Kopan Monastry. Roedd yn amlwg nad oedd y dreifar yn gwybod y ffordd ac aeth ar goll drwy’r strydoedd cefn ac wedyn i fyny rhyw ffordd serth ofnadwy. Gofynnais a gawn gerdded gweddill y ffordd gan nad oeddwn yn meddwl y buasai’r bws yn gallu mynd i fyny’r ffordd - caeais fy llygaid a gobeithio am y gorau. Aeth y bws i fyny a sylweddol na fuasai’n hawdd iddo droi i ochr chwith serth oddi wrth y ffordd oedd yn arwain at Kopan. Cerddom weddill y ffordd serth at y giât y Monastry a gweld y crandrwydd mawr. Lle glan iawn, adeiladau wedi eu haddurno yn grand iawn a’r lawntiau yn berffaith. Roedd y Monastry yma yn rhedeg cyrsiau i fynachod. Roeddwn i yn meddwl fod mynachod yn helpu’r gymuned ond dim mor siŵr yn yr achos yma.
Tu allan i giatiau Kopan Monastry roedd y Leprosy Centre and Workshops. Aethom o gwmpas i weld y bobl oedd yn byw yno yn gweithio ar y tecstilau ac ymlaen wedyn i’r siop yn arddangos eu gwaith. Prynais liain bwrdd yno. Mi faswn yn hoffi prynu llawer iawn o bethau o’r siop yma yn enwedig y defnyddiau lliwgar oeddynt yn wneud ar y safle.
Mynd i siopa o gwmpas y dref unwaith eto gyda Morfudd yn arwain, dyma hi yn dweud wrthym groesi’r ffordd i ochr arall ond yn newid ei meddwl, ond erbyn hyn roedd Anne wedi croesi’n barod. Bu’n sefyll ar ben ei hun ochr arall am hir gan fod y ffordd mor brysur a pheryglus i’w chroesi. Dyma Rowland fel ‘knight in shining armour’ yn cerdded yn araf ac yn hyderus i’r ochr arall i afael yn ei llaw a chroesi’r ffordd atom ni. Roedd rhai ohonom bron a methu edrych rhag ofn i ddamwain ddigwydd.
Cerdded yn ôl i lawr y ffordd serth at y bws ac ymlaen i’r ‘Welsh Office’ - swyddfa Kamal yn Katmandu. Cawsom groeso mawr gan ei wraig a’i fab a ffrindiau. Yn gyntaf, cawsom blatiau o sglodion a Fanta Orange ac yna chicken curry efo reis a phys ynddo. Ar ôl tynnu lluniau aethom i weld y swyddfa ei hun - ystafell weddol fechan efo cadeiriau crand iawn ynddi a thystysgrifau a lluniau o daith wnaeth efo Morfudd yn y gorffennol ar y waliau. Roedd daffodil mawr blastig yn hongian o’r to - anrheg oedd hon a anfonodd Alwen Stiniog ato!
Gan ei bod yn noson olaf i saith ohonom, trefnodd Morfudd i gyfarfod Kamal a Padam mewn Gwesty Shangri La i gael swper y noson honno. Roeddem yn hwyr yn cyrraedd ac roedd Kamal a Padam yno yn barod pan gyrhaeddom. Lle crand iawn a braidd yn ddrud i’r hogiau ifanc mae’n debyg. Cawsom ddewis o lawer o fwydydd poeth - ac roedd rhai bwydydd poeth iawn efo sbeis.
Dydd Llun, 7 Ebrill 2008
Pacio am y tro olaf a gorfod cario ein bagiau trwm am y tro cyntaf ers dyddiau – roeddem wedi cael ein sboilio gan y porthmyn.
Cario’r bagiau mawr trwm i Westy Manaslu ble roedd Morfudd, Hefin, Susan a Rowland yn mynd i aros am weddill eu gwyliau hyd at ddydd Iau. Gardd braf yno gyda byrddau a chadeiriau allan ar y lawnt. Roedd yno bwll nofio allan bychan hefyd gyda dau yn nofio yno ar y pryd. Daeth Kamal atom gydag anrhegion i bawb ohonom. Tynnu lluniau a ffarwelio.
Teithio at y maes awyr yn Katmandu gyda Kamal a’i frawd. Casglais ‘tips’ i’r dreifar bws mini - roedd angen ‘tips’ ar bawb. Roedd nifer o blant a dynion yn ceisio cario ein bagiau er mwyn cael ‘tips’. Daeth dau fachgen ifanc iawn at ein bws a dyma’r ddau yn dechrau ffraeo gydag un ohonynt yn rhoi arwydd i’r llall y buasai yn ei ladd os na a’i ffwrdd. Fe wnaeth rhai ohonom roi ‘tips’ i’r bachgen bach oedd yn ein helpu, ac er hynny, dyma Kamal yn rhoi arian i mi i roi fel ‘tips’ hefyd. Beth bynnag, unwaith drwy’r ‘airport’ aeth popeth yn ôl y drefn a hedfan i Doha a disgwyl tan y bore am yr awyren i Fanceinion.
Diwrnod a noson hir. Ceisio cysgu ar y cadeiriau ond y callaf oedd Idwal oedd wedi talu 12$ i fynd i ystafell braf lle'r oedd yn bosibl cael cawod, bwyd a chysgu.
Dydd Mawrth, 8 Ebrill 2008
Aeth popeth yn ôl y drefn unwaith eto a hedfan yn syth i Fanceinion erbyn 1.15pm amser gwlad ni. Roedd dreifar ein bws mini yno’n disgwyl ar amser hefyd. Felly cychwyn yn syth am adref, ond gorfod stopio am ychydig yn Llanfairfechan i Gary gan ei fod yn teimlo’n sâl. Y creadur bach wedi hen flino mae’n siŵr.
Cyrraedd tŷ Morfudd a Hefin ym Methel tua 4.30pm a phawb yn ffarwelio a'i gilydd. Roedd Medwyn yno’n disgwyl ac yr oedd wedi paratoi cinio dydd Sul i mi erbyn amser te.