HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Chwarel Wrysgan Hydref 25


Bore gwlyb a gwyntog yn 'Stiniog. Cyfarfu pedwar o aelodau am banad yn y caffi yn Nhanygrisiau, sef Myfyr, Jeremy, Dylan (Edwards) aJohn (Parry).

Penderfynu fod rhaid gwneud rhywbeth ac mai doeth fyddai mynd tan ddaear ar ddiwrnod mor hyll. Felly, treuliwyd rhai oriau yn y tywyllwch yn Chwarel Wrysgan- difyr iawn.

Y tywydd ddim gwell, os rhywbeth, yn waeth ar ol dod i'r wyneb felly doedd dim amdani ond panad arall yn y caffi. Bara brith a menyn y tro yma hefyd !

 

Adroddiad a llun gan Myfyr