HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cymoedd Moel Hebog 3 Hydref


Gwen, Myfyr, Llew, Iolo C'narfon, Betty Rhys a Twm. Roedd Mary Lloyd wedi dweud ei bod yn dod ond ddaru hi ddrysu a codi'n hwyr a cymysgu amser taith y clwb hefo amser taith Ramblers! Ddaru ni ddisgwyl hyd at 10.10. Ddaru mi ei ffonio a mi ddwedodd ei bod wedi dod a chyrraedd am 10.20 – a cofion sydyn mae amser taith Y Ramblers oedd hynna! Bechod, ynde a hitha di dod o Llysfaen neu rwla ffordd yna. Beth bynnag, mi aeth ar y Watkin i'r bwlch ac yn ôl.

Tywdd yn eitha hefo un cawod drom, ond cinio i fewn yn y babell argyfwng. Cododd yn braf gan glirio rhoi cyfle i weld y golygfeydd a 2 enfys. Cychwyn cerdded ger y lein bach a heibio Cwm Cloch Isa a Cwm Cloch Ganol 'cartref Telynores Eryri' . I fewn i'r goedwig a drwy Cwm Bleiddiad i Bwlch Meillionen ac i gopa Moel Hebog ac yna i lawr i Gwm Cyd gan dorri ar draws i'r Ddeuallt ac i lawr heibio chwarel Cwm Cloch i gyrraedd Beddgelert am 3.30 a torri syched wedyn yn Tanronnen.

Adroddiad gan Morfudd

Lluniau gan Myfyr ar Fflickr