Moel Emoel, Garnedd Fawr a'r Foel Goch 4 Awst
Taith Dydd Mawrth Eisteddfod Genedlaethol Y Bala
Yn dilyn rhagolygon tywydd dychrynllyd nos Lun roedd yn syndod bod unrhywun (heb law'r arweinydd!) wedi dod at eglwys Llanfor ar fore Mawrth yr Eisteddfod.
Da iawn felly oedd gweld bod naw ohonom yn barod i droi cefn ar yr wyl am ddiwrnod a chychwyn i fyny llwybr Ceunant Morgan ( a oedd wedi ei dorri'r arbennig at yr achlysur! ) ac ymlaen i ben Moel Emoel, y Garnedd Fawr a Foel Goch. Cawsom ologfeydd o'r Fro a'r Eisteddfod, a'i chlywed o bell, wrth godi'n raddol drwy'r rhedyn i'r moelydd gwlyb. Ar ben Foel Goch cofio am Augustus John yn gwasgaru llwch ei gyfaill Dr Sampson yn ngwmni'r sipsiwn a rhai brodorion syn (gan gynnwys tad Dyfir) nol yn 1931.
I lawr a ni wedyn i Bentre Tai'n y Cwm, cartref teulu Ifor Owen, a chael bod neb adre ond y cwn - pawb wedi mynd i'r Eisteddfod wrth gwrs. Yn ol wedyn i Lanfor dros Rhos Dawel gan alw heibio beddrod enwog teulu'r Rhiwlas cyn gorffen y daith.
Y criw oedd Eryl Pritchard (Caerfyrddin), Gwilym Jackson, Gwyn Chwilog, Sheila, Dei a Cheryl a'u ffrindiau Henri ac Ann Roberts o Lanystumdwy.
Hyd y daith oedd deg milltir a buom allan am ryw saith awr.
Adroddiad gan Llew ap Gwent
Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr
- Moel Emoel
- Garnedd Fawr
- Foel Goch
- Copa Foel Goch
- Beddrod teulu'r Rhiwlas
- Bendigo !
- Stondin MYNYDDA