HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tryfan 7 Chwefror


Pymtheg ohonom a gyfarfu ar ochor yr A5 ger Glan Dena ar fore oer.
Nifer wedi ffonio'r noson cynt i holi os oedd y daith ymlaen.

Anita, Alwen a Ceri, Morfudd, Sharon (o Lerpwl), Alwyn (cyd-arweinydd), Gareth Glynceiriog, Eryl Owain, Gareth Wyn, Ken a Jason, Raymond, Guto (wedi dod yr holl ffordd o Rydaman), John Parry a minnau.

Eira i lawr at y ffordd fawr a chriw o eifr gwyllt (rhai drewllyd) yn cysgodi ymysg y cerrig wrth y llwybr. Arwydd o dywydd drwg yn uwch i fyny?

Dilyn y llwybr heibio Tryfan Bach, i fyny'r hafn i waelod yr Heather Terrace. Eira meddal gyda thalpiau mawr o rew ar y creigiau.

Penderfynnu gwisgo'r cramponau cyn dechrau ar y Teras. Eira meddal ar y llwybr a mwy ohono ar waelod pob hafn roeddem yn ei groesi. Paned sydyn mewn man cysgodol a phibonwyddion peryglus i'w gweld uwch ein pennau.

Criw o bedwar yn mynd heibio gyda'r bwriad o wneud North Gully (un darn yn radd 4), sgwrs sydyn hefo nhw, ninnau am wneud Little Gully ychydig lathenni i'r chwith. Gadael y Teras ac ymgynnull ar silff ar waelod Little Gully. Deg yn cychwyn i fyny'r hafn tra bod pump ohonom yn rhaffu. Dwy raff, minnau, Jason a Guto ar un gydag Anita ac Alwyn ar y llall o. Ken yn aros hefo ni, y gweddill wedi diflannu i'r entrychion.

Dilyn hafnau yn y graig am 3 hyd rhaff cyn croesi ar draws North Gully, uwchben y darn anodd. Cip sydyn o'r pedwar oddi tanom ar y North Gully. Trwch o eira meddal ar ben hen eira caled; ymlaen i fyny i'r niwl, spindrift ac oerwynt, i orffen ar y grib ogleddol ychydig funudau o'r copa.

Tynnu lluniau, cinio sydyn. Tra roeddwn yn tynnu lluniau roedd na lygoden fechan yn helpu ei hun i friwsion yn fy mocs brechdannau!

I lawr yn eitha sydyn, croesi'r gamfa ac yn syth i lawr i Gwm Tryfan.

Cyrraedd y ceir am 5 o'r gloch. Gweddill y criw i lawr ers oriau ac yn ein disgwyl yn y Bryn Tyrch.

Diwrnod da er gwaethaf y tywydd.

Diolch i Alwyn am gyd-arwain, yntau'n gwneud ei ML Haf, ond tydi taith gaeaf ddim yn cyfri!

Adroddiad gan Maldwyn Roberts

Lluniau gan Maldwyn Roberts (1-8) a Guto Evans (9-15) ar Fflickr

o.n. Roedd Myfyr Tomos wedi cyfarfod y pedwar oedd ar North Gully yn dringo ar y Gader ar y Sul!

Lluniau:

  1. Geifr!
  2. Anita ar y darn cyntaf
  3. Eryl a Gareth ar waelod yr hafnau
  4. Canol North Gully
  5. Cinio
  6. Guto ar y trydydd ddringen
  7. Un hyd rhaff o'r grib ogleddol
  8. Ar y copa
  9. Y criw uwchben Tryfan Bach
  10. Rhew ar y Teras
  11. Morfudd (y criw yn y cefndir ar waelod North Gully)
  12. Rhai o weddill y criw ar ddechrau'r hafnau
  13. Canol North Gully (Ken yn nhop y llun yn disgwyl)
  14. Ar y copa
  15. Ar y ffordd lawr