HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo ar Tryfan 7 Mehefin


Roedd y rhagolygon yn dila am y Sul: oer a gwlyb. Doedd dim syndod felly na wnaeth ond 3 bresenoli eu hunain, John, Guto a Jeremy. Roedd Jeremy wedi cael diwrnod gwlyb eithriadol ar yr Aran y diwrnod cynt, a Guto wedi teithio 3 awr i ddod.

Penderfynwyd fynd i Glogwyn y Tarw ac ar ol 30 metr o ymdrech ar Home Climb penderfynwyd ildio a rhaffu i lawr gan fod y graig mor seimllyd a budr.

Chwilotwyd am graig sychach a buom yn llwyddianus ar Slab Recess Route, ond gan fod y tywydd mor oer a gwlyb aethom am adra ar ôl hyn.

Adroddiad gan John Parry

Dim lluniau (dim syndod! - gol.)