Arennig Fawr - Dringo 6 Awst
Taith ddringo yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn y Bala
Roedd llawlyfr dringo Meirionydd yn awgrymu bod y Ddaear Fawr yn le ardderchog i ddringo, cribau hir glan ond wedi cerdded yno o bentref Arennig heibio'r hen chwarel, siomedig oedd darganfod nad oedd y llyfr yn dweud y gwir. Lleithder, tyfiant mwsog a cherrig rhydd ym mhob man. Nid cryman oedd angen fel awgrymodd John Parry ond pladur! Roedd Dylan yn ddigon dewr i roi cynnig ar rhywbeth o'r enw Mystic Peg cyn iddo sylweddoli nad yw sgidiau dringo modern yn dda iawn ar graig seimllyd gwlyb. Penderfynwyd symud ymlaen a cherdded yn uwch drwy fôr o rug i chwilio am slab o graig gyda tair dringfa weddol hawdd. Cyrraedd yno yng nghanol môr o wybed mân. Rhaid oedd rhoi y ffidl yn y to. Gobeithio bod gwell dringo ar gael yn Steddfod Glynebwy..
Adroddiad gan Arwel
Lluniau gan Arwel a Guto Evans ar Fflickr