Craflwyn a Nant Gwynant 9 Medi
Ar daith y tri naw (09/09/09) daeth 20 o gerddwyr at ei gilydd ym maes parcio Craflwyn, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar fore Mercher hyfryd o Fedi.
Dilynwyd y llwybr troellog trwy'r coed y tu ôl i Graflwyn ac ar ôl dringo nes cyrraedd ochr uchaf clawdd y mynydd gwelwyd Dinas Emrys oddi tanom, a Sygun yr ochr arall i'r cwm.
Ymlaen wedyn, croesi'r afon uwchben Hafod y Porth a heibio olion yr hen waith (copr/mango?), cyn dod i olwg y llwybr o Nantgwynant i fyny drwy Gwm Llan, a Llyn Gwynant islaw. Ar ôl ymuno â'r llwybr yma a'i ddilyn i lawr i Gaffi Gwynant, cafwyd panad a chacen (ac ambell un yn cael pryd mwy
sylweddol!) gwerth chweil, cyn cerdded yn ôl i Graflwyn ar hyd y llwybr yr ochr draw i Lyn Dinas.
Diwrnod hyfryd o haul a grug a lliwiau hydrefol; diolch i bawb am eu cwmni.
Adroddiad gan Haf Meredydd
Adroddiad a Lluniau gan Haf Meredydd ar Fflickr
- Bobol bach (mewn sêt fawr)!
- Uwchben Hafod y Llan
- John x 5!!
- John Parry x 2!!
- Grug y mynydd ar ei orau
- Nadreddu
- Y graig goch
- Y geifr o bell (llun difrifol!)
- Uwchben Llyn Gwynant
- Gwilym a Beti, Rhaeadr Cwm Llan
- Paned yng Nghaffi Gwynant
- Mwynhau paned
- Amanita'r gwybed