Cwmorthin a Moel yr Hydd 9 Rhagfyr
Bore tamp yn Nhanygrisiau ar y topie. 11 yn cychwyn - Anet, Haf, Mary Lloyd, Siân Wms, Gwyn Chwilog, John Arthur, Gwilym Jackson, Jeremy, John P, Llew, John Williams. Ar hyd glannau'r llyn ac i fyny'r creigiau ar ochr ddwyreiniol Moel yr Hydd - braidd yn wlyb oedd y garreg ond digon o 'ddifyrrwch', meddai rhai! Gwynt cryf ar gopa Moel yr Hydd - dim golygfa. Ymlaen at Foel Ddu i weld dipyn bach mwy ac i lawr i Rhosydd i ginio.
Pleidlais 'ddemocrataidd' wedyn, a'r bedol yn troi'n hanner pedol, gan fod caffi a phaned yn denu, a'i bod hi yn Nadolig!
Adroddiad John Williams
Lluniau gan Haf ar Fflickr a diolch iddi!
Eglurhad o rai o'r lluniau:
- Cyrraedd Chwarel y Rhosydd yn y niwl
- Tîm ffoto - yr 11 yn Chwarel y Rhosydd
- Yr olygfa i lawr Cwm Orthin
- Mynd heibio hen Gapel Cwm Orthin
- Trên adra! (Rhan o furlun gan blant Ysgol Tanygrisiau yn y caffi)