Llanrhystud i Aberystwyth 10 Hydref
Un o drefniadau'r Diwrnod Blasu
Dim ond pedwar gasglodd ynghyd i ddal y bws am Llanrhystud yn Aberystwyth. Dafydd, Judith, Huw a Iolo - pawb yn aelodau. Ta waeth, roedd y tywydd yn sych ac yn addo tipyn o heulwen yn ystod y dydd - a felly y bu! Gadael pentref Llanrhystud tua hanner awr wedi naw a'i hanelu hi am lwybyr y glannau.
Mae'r darn cynta yn golygu dringo tua 500 troedfedd ar ei union - a dyna osod patrwm y daith. I fyny tipyn, wedyn i lawr. Yna i fyny eto ac yna i lawr - dro ar ôl tro. Tua 1600 troedfedd o ddringo i gyd. Bob rhan o'r daith yn wahanol. Mae'n rhyfeddol fel mae'r golygfeydd yn medru amrywio o fewn hanner awr o gerdded. Buan y daeth y gwydrau allan i weld y bywyd gwyllt. Sawl Barcud i ddechrau. Yna, haid o Filidowcar (Mulfran); pâr o forloi; golygfa wych o gudull coch oddi tanom; brain coesgoch yn gwneud campau aerobatig; piod y môr a nifer o adar mân hefyd. Nid yw'r llwybr fwy na milltir o'r A487 yn unlle, ond mae'n teimlo yn hollol anghysbell. Gwellodd y tywydd, yn ôl y rhagolygon - er fod y gwelltglas yn ddigon gwlyb ar ôl glaw y diwrnod cynt.
Diwrnod pleserus o gerdded cyson a rhyfeddu at y golygfeydd ag ati a chyrraedd yn ôl i Aberystwyth erbyn tua hanner awr wedi tri, wedi bron i 11 milltir o gerdded i fyny ac i lawr cyson.
Adroddiad gan Iolo
Lluniau gan Iolo ar Fflickr