HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo, Sgramblo, Bowldro 10 Hydref


Un o drefniadau'r Diwrnod Blasu

Adroddiad gan Arwel o ddringo ar Tryfan Bach:

Wrth gwrs ar ddiwrnod o hyfforddio dringo roedd hi'n siwr o fwrw glaw!

Tybed dyna pam ddaru 'mond un person newydd wynebu' r her o ddringo ar y diwrnod blasu?
Gyda Jeremey, Alwen a Morfydd yn diflanu drwy'r cwmwl i gyfeiriad Cwm Cneifion ('sgwn i os oeddynt yn trio osgoi dyn camera y BBC?) dyma benderfynu rhoi cynnig ar Dryfan Bach yn y niwl a'r glaw.

Annodd oedd canolbwyntio hefo'r dyn camera yn ein ffilmio o bob cyfeiriad ond mi wellodd pethu fel yr aeth y diwrnod yn ei flaen ac fe ddringwyd nifer o ddringfeydd yn ystod y diwrnod.

Diolch i Myfyr am rannu o'i wybodaeth helaeth, i Allan am arwain Janet a Kate o flaen y dyn camera yn y glaw ac Marian am fentro allan hefo CMC am y tro cyntaf.

Lluniau gan Arwel a Myfyr ar Fflickr

Lluniau 1-4 (gan Myfyr): Dringo ar Tryfan Bach

Lluniau 5-17 (gan Dilwyn): Dringo Crib (Arete) Cneifion