Yr Wyddfa 10 Hydref
Un o drefniadau'r Diwrnod Blasu
12 ohonom, 6 o ddynion (i gyd yn aelodau) a 6 o ferched (heb fod yn aelodau) yn cwrdd ar fore niwlog a thamp ym Mhen y Pass.
Er ein bod yno mewn da bryd roedd y maes parcio bron yn llawn, ond diolch i Gledwyn o Lanberis cafwyd lle i bawb ond un car. Aeth George a char un o'r genod i lawr i Ben y Gwrhyd i barcio a'i heglu hi'n ol, ond roedd wedi ein dal i fyny cyn i ni gyrraedd Bwlch Moch.
Y blaswyr oedd Delyth, Bethan, Gwenan, Gwennan arall, Helen a Glenda yng nghwmni Maldwyn, George, Alun Roberts, Bert (Wrecsam), Arfon a Thwm.
Mi roedd Derek, y dyn tywydd, wedi gaddo diwrnod sych hefo glaw yn debygol erbyn diwedd y pnawn! Fel y trodd allan, hollol groes yr oedd hi!
Dilyn llwybr y PYG i fyny drwy Fwlch Moch, glaw man a chymylau isel. Delyth (o Bwllheli) yn brasgamu hefo Bert drwy'r niwl o'n blaenau. Criwiau mawr allan. Pawb yn ymgynnull ar Fwlch Glas ac ymlaen i'r copa.
Roedd fel 'Blackpool' tu allan a thu mewn i'r Hafod! Oherwydd y tywydd roedd y lle'n orlawn. Prin iawn oedd y lle i deithwyr y tren. Cinio hamddenol a sgwrs cyn mentro allan trwy'r drws cefn ond cael trafferth mynd allan! Tu allan i'r hen adeilad roedd na 'batio' llydan hefo wal isel o'i gwmpas ond mae'n amlwg fod yr adeilad newydd chydig yn fwy sy'n golygu fod prin le i ddau berson basio eu gilydd, heb son am le i gerddwyr eistedd allan i fwyta.
Mae na le gweddol wastad rhwng cefn yr adeilad a'r copa; efallai y gellid darparu waliau isel yno i gerddwyr eistedd i fwyta eu brechdanau?
Ymlwybro i lawr drwy'r torfeydd at Fwlch Glas ac i lawr y PYG. Dwi erioed wedi gweld cymaint o bobol; roedd rhai yn ciwio mewn mannau cul. Y tywydd yn gwella rhywfaint a phenderfynnu dilyn llwybr y Mwynwyr lawr at Glaslyn a Llydaw. Y glaw wedi cilio a'r niwl yn codi fel fod Bwlch Saethau yn y golwg.
Pawb lawr yn ddiogel a'r merched yn holi pryd oedd y daith nesaf!
Adroddiad gan Maldwyn