HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Berwyn – Cadair Berwyn a Chadair Bronwen 10 Hydref


Un o drefniadau'r Diwrnod Blasu

Llu o gerddwyr 'di troi i fyny yn Llandrillo bore Sadwrn, 13 o flaswyr a 9 aelod, yn gwneud 22, medde Gwyn Roberts, Y blaswyr a blaswyresau oedd Nia o Gwersyllt, Richard o Ruthun, Jean a Dewi o Glynceiriog, Mari o Llangwm, Rhian a Margaret o Henllan, Jane, Eleri a Mags o Bwllheli, Dermot a Phil o Gerrigydrudion a Mike o Sychdyn. Yr aelodau oedd Llew, Gwyn Roberts, Gwyn FUW, Sioned, John Arthur, Iolo, Gwen, Gaenor a Gareth.

Cawsom gychwyn eitha prydlon ar ol y strach o hel enwau i Clive ac i ffwrdd a ni heibio Garthiaen, lle bu Gwyn FUW a Gareth yn siarad ffarmio, tra roedd y criw yn diflannu am Graig y Berwyn. Gareth yn arwain o'r cefn fel arfer. Braidd yn wlyb dan draed a dwl uwchben oedd y siwrne i Gadair Berwyn. Uchafbwynt y darn yma o'r siwrne oedd Sioned yn dal llyffant, a'i gusannu gan obeithio iddo droi yn dywysog. Tro nesa falle.

Wedi cyrraedd y copa cliriodd y cymylau a chawsom olygfeydd braf o Ddyffryn Maengwynedd a Llyn Lluncaws tra'n bwyta. Roedd Sioned yn meddwl mai diwrnod sgramblo oedd heddiw i fod ac aeth ati i fowldro ar y creigiau ger y copa.

Ar ôl cinio troi i'r gogledd ar hyd Graig y Berwyn ac i lawr i Fwlch Maengwynedd ac yna i fyny'n serth i Gadair Bronwen; lle roedd y gwynt digon main a John Arthur yn dal yn llewis ei grys. Yn ol i'r bwlch ac ymlaem i Foel Pearce. Yna i'r cylch cerrig ar Foel Tŷ Ucha i gyhoeddi 'Steddfod Gadeiriol Llandrillo a Chynwyd 2010.

Daeth rhwystr i'n taith ni, toc wedyn, ar ffurf Merfyn Davies o'r BBC. Methu dallt pam fod gymaint o Gymry yn cerdded ar y Berwyn ar bnawn Sadwrn o Hydref. Fu rhaid i rhai ohonom gadw Merfyn yn siarad er mwyn i'r blaswyr gael dengid. Roedd y Dudley Arms o fewn golwg, a phawb wedi cwbwlhau'r daith yn ddidrafferth, er i rhai fynny cael reiden yn Range Rover dyn y BBC.

Adroddiad gan Gareth Roberts

Lluniau gan Gareth a Sioned ar Fflickr