HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bannau Sir Gâr 10 Hydref


Un o drefniadau'r Diwrnod Blasu

Pedol Waun Lefrith, Picws Du, Fan Sir Gâr

Wrth gyrraedd maes parcio Llanddeusant roedd sawl car yno yn aros amdanom. Ond, doedden nhw ddim i gerdded gyda’r Clwb. Dim ond un person oedd wedi dangos diddordeb a ffonio Dai i ddweud y bydde hi yn dod. Ond, ar y bore, dim son!

Felly, 4 aelod or clwb yn mynd i wneud y bedol: Dai, Alun, Pete a Fi.. Ond, cyn gadael fe ddaeth dynes a gofyn os mai Clwb Mynydda Cymru oeddem. Roedd hi wedi clywed Gerallt Pennant yn trafod ar y radio yn gynharach, felly doedd y daith ddim yn wastraff wedi'r cwbwl.

Wedi dechrau’r daith roedd y tywydd braidd yn gynnes – ond erbyn cyrraedd Waun Lefrith roedd yn amser gwisgo côt. Ar copa Picws Du, codi llaw ar griw y dwyrain – a oedd ar Ben y Fan. Ond rwy’n credu eu bod yn edrych y ffordd arall. Cyrraedd nôl wrth y ceir erbyn tua 2-2.30.

Adroddiad Guto Evans