Trawsfynydd 11 Chwefror
Triarddeg ohonom oedd ar y daith. Glaw ar y cychwyn ond yn gwella yn ystod y dydd a'r eira yn dadmer. Mynd i gyfeiriad Tomen-y-mur ac ar ôl cyrraedd aros yno am baned . Mae'n ardal hanesyddol i ni fel cenedl ac mae'r olion Rhufeinig a Normanaidd yn dal yn amlwg. Gan nad oedd y tywydd yn ffafriol iawn penderfynu peidio mynd i ben Graig Wen a dilyn y trac heibio'r chwarel a Dolbelydr. Ymlaen wedyn at yr hen waith aur ar ochor afon Llafar ac aros yno am ginio. Y daith yn ôl yn mynd a ni drwy Stesion Trawsfynydd. Ardal ddifyr i’w chrwydro ond byddai'n well byth ar ddiwrnod brafiach hefo fwy o galedwch dan draed!
Yn anffodus canfod ar ôl cyrraedd adra nad oedd lens y camera yn lan felly ymddiheuriadau am safon siomedig ambell i lun.
Adroddiad gan Gwyn (Chwilog)
Lluniau gan Gwyn (1-5) a Haf ar Fflickr